Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Etholiad Cadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Sir D. Jones fel Cadeirydd.
|
|
Apwyntiad Is-Gadeirydd. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Sir D. Havard fel Is-gadeirydd.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan yr Ymddiriedolwyr.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 88 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Ffermio Sir Fynwy dyddiedig 18fed Ionawr 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Cyfrif Blynyddol 2015-16 Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. PDF 269 KB Cofnodion: Derbyniasom adroddiad a gyflwynwyd gan y Rheolwr Cyllid ynghylch Adroddiad Blynyddol Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ar gyfer y flwyddyn yn gorffen ym Mawrth 31ain 2016.
Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Ni dderbyniwyd ceisiadau am gyllid hyd yn hyn. Fodd bynnag, bydd yr Ymddiriedolaeth yn derbyn ceisiadau am gyllid mewn amser i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 26ain Medi 2016.
· Mae’r Rheolwr Cyllid wedi datblygu taflen sy’n dynodi y gellid ymgeisio am nawdd drwy gyfrwng yr Ymddiriedolaeth gan fyfyrwyr cymwys. Byddai’r wybodaeth hon ar gael mewn colegau ac ar wefannau.
· Byddai’r wybodaeth hon hefyd yn cael ei throsglwyddo i ffermwyr ifanc.
· Byddai’r Rheolwr Cyllid yn ymchwilio opsiynau er mwyn gwneud i’r taflenni fod ar gael ar stondin Cyngor Sir Fynwy yn yr Eisteddfod.
Penderfynasom fabwysiadu’r datganiad o gyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31ain Mawrth 2016 parthed Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Ffermio Sir Fynwy.
|
|
Cyfarfodydd yn y Dyfodol:
· Dydd Llun 26 Medi, 2016 am 11.00am. · Dydd Llun 23 Ionawr, 2017 am 11.00am.
Cofnodion: Cynhelir cyfarfodydd Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Ffermio Sir Fynwy yn y dyfodol yn Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga am 11.00am ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Llun 26ain Medi 2016 Dydd Llun 23ain Ionawr 2017.
|