Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

 

2.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol. Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. pdf icon PDF 122 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 17eg o Orffennaf yn gofnod cywir.

 

3.

Ystyried a ddylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem fusnes a ganlyn yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn yr adroddiad. Paragraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. (atodir Barn y Swyddog Priodol). pdf icon PDF 192 KB

Cofnodion:

Gwaharddwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth i’r pwyllgor ystyried yr eitem busnes canlynol yn unol ag Adran 100A y Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd, ar y sail y byddai gwybodaeth esempt, fel y’i diffinnir ym mharagraff 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf, yn debygol o gael ei datgelu.

 

4.

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc ar geisiadau a dderbyniwyd ar gyfer Cronfa’r Ymddiriedolaeth ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2023/24.

Cofnodion:

Ystyriom y 51 cais a dderbyniwyd yn erbyn y gronfa ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.

 

Penderfynodd y Gronfa:

 

(i)            y dylid rhoi gwobrau i’r 51 ymgeisydd, yn ddarostyngedig i dderbyn derbynebau a thystiolaeth o bresenoldeb;

 

(ii)          Fod Technegydd Cyfrifo dan Hyfforddiant Cyngor Sir Fynwy’n gwneud cais am fwy o eglurder gan ymgeisydd mewn perthynas â’u cais am gyllid o ran llety;

 

(iii)         Fod Technegydd Cyfrifo dan Hyfforddiant Cyngor Sir Fynwy’n gwneud cais am fwy o eglurder gan ymgeisydd mewn perthynas â’u cais, gan yr ystyriwyd y gallai’r ymgeisydd fod â chyflwr meddygol a allai olygu bod angen cymorth TG ychwanegol arnynt. Os yw hyn yn wir, gellir ystyried rhoi mwy o gyllid i’r ymgeisydd, drwy’r gronfa, yn y cyfarfod nesaf.

 

(iv)         Fod Technegydd Cyfrifo dan Hyfforddiant Cyngor Sir Fynwy yn adolygu’r ffurflen gais am gyllid drwy’r Gronfa gyda’r bwriad o’i gwneud yn haws i fyfyrwyr ei defnyddio.

 

5.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Dydd Llun y 29ain o Ionawr 2024 am 11.00am.