Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sir  M. Groucutt fel Cadeirydd.

 

2.

Apwyntio Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Apwyntiwyd  y Cynghorydd Sir  D. Jones fel Is-Gadeirydd

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant wedi eu derbyn.

 

4.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. pdf icon PDF 22 KB

Cofnodion:

Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21ain Ionawr 2022 wedi eu cadarnhau fel cofnod cywrain.  

 

5.

Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ar gyfer y flwyddyn yn gorffen ar 31ain Mawrth 2022. pdf icon PDF 339 KB

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor wedi derbyn Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ar gyfer y flwyddyn yn gorffen ar 31ain Mawrth  2022.

 

Wrth wneud hyn, nodwyd fod yna gais twyllodrus wedi ei gyflwyno i’r Ymddiriedolaeth yn y blynyddoedd diwethaf, a oedd yn werth £2590.  Roedd manylion yr achos wedi eu trosglwyddo i Heddlu  Gwent er mwyn cynnal ymchwiliad troseddol. Bydd y swm yn cael ei ad-dalu i’r  Ymddiriedolaeth drwy gyfrwng cynllun talu.

 

Roedd archwilwyr Cyngor Sir Fynwy yn ymwybodol o hyn, ac o ganlyniad, mae gweithdrefnau cadarn wedi eu sefydlu ar gyfer y broses gais wrth i ni symud ymlaen.  

 

Cynigwyd cymeradwyo’r cyfrifon.  

 

6.

Strategaeth Fuddsoddi a Chronfa Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy 2022/23. pdf icon PDF 631 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi derbyn y Strategaeth Fuddsoddi a Chronfa ar gyfer Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy 2022/23.         

 

Roeddem wedi nodi’r adroddiad.       

 

7.

Ystyried a dylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem o fusnes canlynol yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygir, ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth esempt fel sydd wedi ei ddiffinio ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o’r Atodlen 12A i’r Ddeddf. (Atodir barn y Swyddog Priodol). pdf icon PDF 188 KB

Cofnodion:

Roeddem wedi gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem ganlynol o fusnes, a hynny yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygir, ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth esempt fel sydd wedi ei diffinio ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran  4 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

8.

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ynglŷn â cheisiadau sydd wedi eu derbyn gan y Gronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2022/23.

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried dau gais a dderbyniwyd gan y Gronfa Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.  

 

Cytunodd yr Ymddiriedolaeth y dylid cymeradwyo’r ddau gais, a hynny’n amodol ar dderbyn yr anfonebau priodol a thystiolaeth ohonynt yn mynychu. 

 

 

 

9.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Dydd Llun, 17eg Hydref 2022 am 11.00am.