Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Ni wnaed datganiadau o fuddiant.
|
|
Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2021.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid y cyfrifon blynyddol ar gyfer y flwyddyn yn dodd i ben yn 2021.
Wrth wneud hynny, nodwyd y byddai’r Rheolwr Cyllid yn trefnu cyfarfod gydag Ymddiriedolaeth Roger Edwards yn haf 2022 i drafod ymwneud gydag Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy yn y dyfodol.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cyfrifon.
|
|
Cofnodion: Cafodd y wasg a’r cyhoedd eu gwahardd o’r cyfarfod pan roddwyd ystyriaeth i’r eitem ddilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn ymwneud â datgeliad tebygol gwybodaeth a eithriwyd fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.
|
|
Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sydd yn ymwneud â’r ceisiadau a dderbyniwyd gan y Gronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2021/22. Cofnodion: Ystyriwyd chwe chais a dderbyniwyd yn erbyn y Gronfa Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.
Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth:
(i) rhoi dyfarniadau i’r chwech ymgeisydd, fely cytunwyd, yn amodol ar gael derbynebau priodol a thystiolaeth o bresenoldeb;
(ii) y bydd Swyddogion Cyllid Cyngor Sir Fynwy yn cydlynu gyda rhai o’r ymgeiswyr i drafod cyfyngiadau ar wariant yng nghyswllt rhaii eitemau o offer y gwnaed cais amdanynt, yn ogystal â thrafod gofynion meddalwedd un o’r ymgeiswyr.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Cofnodion: Y dyddiad sydd ar yr amserlen ar gyfer cyfarfod nesaf Ymddiriedolaeth Gwaddol Fferm Sir Fynwy yw dydd Llun 18 Gorffennaf 2022 am 11.00 a.m. Fodd bynnag, gan fod y cyfarfod hwn yn debygol o gyd-daro â Sioe Frenhinol Cymru, efallai na fyddai rhai Ymddiriedolwyr yn medru mynychu’r cyfarfod.
Penderfynwyd fod y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn ymchwilio dyddiad arall ym mis Gorffennaf 2022 ar gyfer cyfarfod nesaf Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy.
|