Agenda and minutes
Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Mr. Penri James Cofnodion: Roedd y Cadeirydd wedi croesawu Mr. Penri James i’w gyfarfod cyntaf o Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. Mr. James yw cynrychiolydd Prifysgol Aberystwyth ar yr Ymddiriedolaeth.
|
|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad.
|
|
Cofnodion: Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19eg Gorffennaf 2021 yn gofnod cywir.
|
|
Cofnodion: Roeddem wedi cytuno i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem ganlynol o fusnes yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygir, ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth esempt fel sydd wedi ei ddiffinio ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen12A y Ddeddf.
|
|
Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc ynghylch ceisiadau a dderbyniwyd yn erbyn Cronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2021/22. Cofnodion: Roeddem wedi ystyried chwe chais a dderbyniwyd gan yr Ymddiriedolaeth Waddol, ac fe’u cyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth:
(i) cynnig dyfarniad i bum ymgeisydd, yn amodol ar dderbyn yr anfonebau a thystiolaeth o bresenoldeb;
(ii) cynnig dyfarniad dros dro i un o’r ymgeiswyr, yn amodol ar dderbyn yr anfonebau a thystiolaeth o bresenoldeb. At hyn, bydd swyddogion Cyllid Cyngor Sir Fynwy yn gofyn am eglurhad gan yr ymgeisydd yngl?n â sut y mae’n bwriadu gwario’r arian ar y cwrs sydd yn cael ei astudio.
Roedd cyfanswm y swm a ddyfarnwyd i’r myfyrwyr yn y cyfarfod yn cyfateb i £4650.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Cofnodion: Dydd Gwener, 21ain Ionawr 2021 am 11.00am.
|