Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk with Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Etholodd y Pwyllgor y Cynghorydd Sirol David Jones yn Gadeirydd.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sirol David Havard fel Is-gadeirydd.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

4.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. pdf icon PDF 13 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22ain Ionawr 2021 fel cofnod cywir.

 

 

5.

Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021. pdf icon PDF 329 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31ain Mawrth 2021.

 

Wrth wneud hynny, nodwyd bod cyfanswm cynyddol y gronfa yn ganlyniad i ennill trwy fuddsoddiadau, ond hefyd oherwydd y flwyddyn anodd a oedd wedi gweld dysgu o bell a lleihau costau teithio.

 

 

6.

Ystyried p’un ai i eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod pan ystyrir yr eitem ddilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn golygu datgeliad tebygol o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf (Atodir barn y Swyddog Priodol). pdf icon PDF 189 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd eithrio'r wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod.

 

7.

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc yng nghyswllt ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer Cronfa’r Ymddiriedolaeth ar gyfer y flwyddyn Academaidd 2020-21.

Cofnodion:

Ystyriwyd 5 cais a dderbyniwyd yn erbyn Cronfa'r Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.

 

Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth y dylid gwneud dyfarniadau i 5 ymgeisydd, fel y cytunwyd, yn amodol ar dderbyn derbynebau a thystiolaeth briodol o bresenoldeb;

 

Cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i fyfyrwyr yn y cyfarfod oedd £4250.

 

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd y bydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn dychwelyd i ddechrau am 11am.

 

Mynegodd yr Is-gadeirydd ddiolch i'r Athro Hayes sydd wedi penderfynu camu i lawr o'r Pwyllgor.   Roedd yr Aelodau a'r Swyddogion yn awyddus i fynegi geiriau caredig iddo ac yn cydnabod y doethineb yr oedd wedi'i ddarparu dros nifer o flynyddoedd.