Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

2.

I gadarnhau a llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. pdf icon PDF 54 KB

Cofnodion:

Cadarnhaodd a llofnododd y Cadeirydd gofnodion Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy dyddiedig 7 Hydref 2019.

 

3.

Adroddiad blynyddol Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2019. pdf icon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid y cyfrifon terfynol ar gyfer diwedd blwyddyn 2019.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cyfrifon.

 

4.

Ystyried a ddylid gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn ôl pob tebyg yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. (Atodir barn y Swyddog Priodol). pdf icon PDF 47 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod pan ystyriwyd yr eitem ddilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn cynnwys y datgeliad debygol o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

5.

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc ynghylch ceisiadau a dderbyniwyd yn erbyn y Gronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2019/20.

Cofnodion:

Ystyriwyd 42 cais a dderbyniwyd ar gyfer y gronfa ymddiriedolaeth a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.

 

Penderfynodd yr ymddiriedolaeth y dylid gwneud dyfarniadau i 40 ymgeisydd, fel y cytunwyd, yn amodol ar dderbyniadau priodol a thystiolaeth o dderbyn tystiolaeth o bresenoldeb.

 

Ni wnaeth dau gais dderbyn dyfarniad gan nad oedd yr ymgeisydd yn cyflawni meini prawf yr Ymddiriedolaeth.

 

Roedd cyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i fyfyrwyr yn y cyfarfod cyfwerth â £15,585.

 

Cytunwyd y byddai’r Rheolwr Cyllid yn trefnu cyfarfod rhwng yr Ymddiriedolwyr a chynrychiolydd o Goleg Gwent, Bruga, yn ymwneud â’u presenoldeb yng nghyfarfodydd y dyfodol yn amlinellu pwysigrwydd cynrychiolydd Coleg Gwent yn mynychu i roi cyngor a gwybodaeth i helpu Ymddiriedolwyr wrth benderfynu ar geisiadau.

 

6.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Dydd Llun 20 Gorffennaf 2020 am 11.00am.