Lleoliad: Remote Attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Yr Athro Desmond Hayes Cofnodion: Hysbysodd Penri James yr Ymddiriedolaeth y bu farw’r Athro Desmond Hayes ym mis Rhagfyr 2022. Bu’r Athro Hayes yn cynrychioli Prifysgol Aberystwyth ar yr Ymddiriedolaeth am flynyddoedd lawer cyn ei ymddeoliad. Yn ystod ei gyfnod fel Ymddiriedolydd roedd wedi rhoi cyngor ac arweiniad gwerthfawr tu hwnt i’r Ymddiriedolwyr a swyddogion.
|
|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2022.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid y cyfrifon terfynol am y flwyddyn a ddiweddodd 2022.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cyfrifon.
|
|
Cofnodion: Cafodd y wasg a’r cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod pan ystyriwyd yr eitemau dilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail eu bod yn ymwneud â datgeliad tebygol ar wybodaeth eithriedig a diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
Diweddariad llafar i Ymddiriedolwyr ar y cynnydd sydd wedi ei wneud o ran y twyll diweddar a nodwyd. Cofnodion: Cafodd yr Ymdddiriedolaeth ddiweddariad yn dilyn yr adroddiad i Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ym mis Gorffennaf 2022 ynghylch y cais twyllodrus a wnawed i’r Ymddiriedolaeth mewn blynyddoedd diweddar.
Hysbyswyd yr Ymddiriedolaeth fod Heddlu Gwent wedi rhybuddio’r unigolyn. Roedd yr Ymddiriedolaeth hefyd wedi derbyn llythyr yn ymddiheuro a chafodd yr holl arian ei ad-dalu i’r Ymddiriedolaeth ym mis Rhagfyr 2022.
Roedd Cyngor Sir Fynwy wedi hysbysu’r corff cyfrifeg am yr unigolyn ac mae’r achos yn awr wedi cau.
|
|
Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc am y ceisiadau sydd wedi eu derbyn am y Gronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2022/23. Cofnodion: Fe wnaethom ystyried 13 cais a gafwyd i’r Gronfa Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.
Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth i wneud dyfarniadau i’r 13 ymgeisydd fel a gytunwyd, yn amodol ar gael y derbynnebau priodol a thystiolaeth o bresenoldeb.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf. Cofnodion: Dydd Llun 17 Gorffennaf 2023 am 11.00am.
|