Agenda and minutes

Pwyllgor Ardal Sir Fynwy Canolog - Dydd Mercher, 11eg Medi, 2019 11.00 am

Lleoliad: Room P4 - County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Enwebwyd y Cynghorydd Sirol J. Treharne ac fe'i hetholwyd yn Gadeirydd.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd Cynghorydd Sirol M. Feakins fel Is-gadeirydd

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Byddai materion ar gyfer y Fforwm Agored i'r Cyhoedd yn cael sylw o dan yr eitem berthnasol ar yr agenda.

 

 

5.

Derbyn data o Grŵp Gostwng Terfyn Cyflymder Buckholt.

Cofnodion:

Croesawyd Gail Brehany a oedd yn bresennol ar ran Gr?p Lleihau Terfyn Cyflymder Buckholt. 

 

Gyda chymorth cyflwyniad, tynnodd Ms. Brehany sylw at bryderon y preswylwyr a gofynnodd i'r Cyngor ystyried gostwng y terfyn cyflymder drwy Buckholt ar yr A466.

 

Clywsom nad hwn oedd y cais cyntaf i ostwng y terfyn cyflymder, ac mai dyma'r trydydd tro i'r mater gael ei godi'n swyddogol mewn gwirionedd.   Gofynnwyd iddo beidio â chael ei anwybyddu y tro hwn ac yn cael sylw.

 

Roedd y pwyntiau a amlygwyd yn cynnwys:

 

·         Mae terfyn 40 m.y.a. yn gyflymder peryglus ar gyfer y ffordd ac roedd manylion y dystiolaeth a ddarparwyd gan y preswylwyr yn fanwl.

·         Gall arwyddion fod yn gamarweiniol ac yn annarllenadwy.

·         Mae'r ffordd yn heriol gyda gwelededd cyfyngedig, troeon dall a risgiau i fywyd gwyllt, cerddwyr a beicwyr.

·         Mae preswylwyr wedi sôn am ddifrod i eiddo.

·         Ni lynir wrth y cyfyngiadau ar gerbydau mawr, trwm.

·         Nid yw gwrychoedd yn cael eu trin gan fod y risg yn rhy fawr i sefyll ar y ffordd i wneud y gwaith.

·         Mae tywydd gwael yn cynyddu'r peryglon.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Ms. Brehany am y cyflwyniad gan nodi ei fod yn amlwg yn fater diogelwch ar y ffyrdd. Gwahoddwyd Aelodau i wneud sylwadau.

 

Roedd y Cynghorydd Roden yn cydnabod y ffordd beryglus, gan ychwanegu'r peryglon i'r nifer fawr o feicwyr sy'n defnyddio'r llwybr.  Gofynnodd am i’r Adran Briffyrdd asesu'r sefyllfa a chysylltu â thrigolion.

 

Cytunodd yr Aelodau ar effeithiolrwydd arwyddion cyflymder sy'n fflachio.

 

Cytunodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch ar y Ffyrdd i ystyried y ceisiadau a byddai'n adrodd yn ôl i'r Pwyllgor

 

 

6.

Trafod a oes angen croesfan ddiogelwch ar Heol Llanwarw / gwaelod y Ffordd Gyswllt - cais gan Gyngor Tref Trefynwy.

Cofnodion:

Amlygwyd pryderon yngl?n â chroesfan nad yw dan reolaeth ar ben isaf y Ffordd Gyswllt, pellter byr oddi wrth y gyffordd a'r arwydd cyflymder.  Nid ystyriwyd bod y groesfan yn ddiogel nac yn ddigonol, gan nad oedd digon o bellter i gerbydau arafu.

 

Gwnaed awgrym y dylai'r ffordd gyswllt gyfan fod yn 30 m.y.a. o bosibl.

 

Eglurodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch ar y Ffyrdd fod yr adran prosiect yn edrych ar yr ardal ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o gyflwyno gwelliannau.

 

Ychwanegodd Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd fod y datblygiad newydd yn cynnwys llwybr troed newydd, ac y byddai'n darparu cyswllt amgen.   Bydd trafodaethau'n cael eu cynnal ynghylch goleuo ac arwyneb y llwybr.

 

Cynghorodd swyddogion fod angen cydnabyddedig i ostwng y terfyn cyflymder, yn ogystal â pharhau i fod yn ystyriol o'r amgylchedd. Barnwyd bod 40 m.y.a. yn briodol. 

 

O ran gwybodaeth, bydd y Rheolwr Traffig a Diogelwch ar y Ffyrdd yn rhannu canllawiau Llywodraeth Cymru â'r Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau y dylid dod â rhagor o wybodaeth i'r cyfarfod nesaf.

 

 

7.

Materion i'w trafod:

7a

Gwasanaeth Bws ‘Hopper’ yn Overmonnow. pdf icon PDF 40 KB

Cofnodion:

Tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen a'r manteision o sefydlu Gwasanaeth Bws ‘Hopper’, fel sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd mewn ardaloedd eraill. Cadarnhaodd y Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd y gellir ceisio cyfraniadau cynllunio. 

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet fod hwn yn gais amserol o gofio bod y Cyngor wedi datgan Argyfwng Hinsawdd, ynghyd â'r angen i leihau teithio mewn ceir ac annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  Cytunodd ar y manteision a byddai'n gofyn i swyddogion wneud y cais.  

 

Roedd yr Aelodau hefyd yn gweld hyn fel ffordd o oresgyn problemau'n ymwneud â pharcio ceir yn y dref.

 

Cytunodd y Cadeirydd i gysylltu â'r Aelod Cabinet a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor.

 

 

7b

Bae Parcio i Bobl Anabl, Trefynwy.

Cofnodion:

Cytunwyd gohirio'r eitem hon oherwydd ailddatblygu Sgwâr Agincourt.

 

 

7c

Y fainc a'r bwrdd picnic y tu allan i Dŷ Tafarn y ‘Gatehouse’ (ar gyfer defnydd pobl sy’n mynychu’r dafarn).

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau ddarlun e-bost o'r mater.  Roedd y Cynghorydd R Caffel o Gyngor Tref Trefynwy yn bresennol i dynnu sylw at bryderon y preswylwyr yngl?n â'r byrddau sydd wedi'u lleoli y tu allan i D? Tafarn y ‘Gatehouse’  Roedd y byrddau'n achosi rhwystr ac wedi'u lleoli ar linellau melyn dwbl.   Mae hyn yn arwain at fynediad cyfyngedig i'r rhai â sgwteri symudedd, a chadeiriau gwthio.   Mae problem hefyd gyda gwydrau a sbwriel.

 

Cyflwynwyd cwynion yn flaenorol ond ar yr adeg y bu'r polisi Byrddau Masnachu yn cael ei adolygu.

 

Nododd y Cadeirydd fod cyfle i ddefnyddio'r ardd gwrw y tu cefn i'r dafarn.

 

Gofynnwyd cwestiynau pam yr angen am linellau melyn dwbl os nad oes mynediad i gerbydau.

 

Credwyd bod cyfleoedd ffotograffig yn cael eu difetha.

 

Cytunodd yr Aelodau bod angen egluro'r polisi.

 

Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at yr Aelod Cabinet i drafod y mater ymhellach.

 

 

 

7d

Cerrig copa ar goll o hen bont Afon Mynwy.

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelodau mai CADW sy'n gyfrifol am y cerrig copa.  Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at CADW i ofyn am gyngor.

 

Awgrymwyd y gellid mynd i'r afael â'r mater hwn drwy'r Cyngor Tref.

 

 

8.

Materion Ward.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Sirol R. Edwards at faterion priffyrdd – diffyg atgyweiriadau a therfynau cyflymder.   Colli casgliadau ailgylchu a thipio anghyfreithlon hefyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sirol P. Clarke am lwyddiant parhaus y swyddfa bost newydd.

 

Nododd y Cynghorydd Sirol B. Strong lwyddiant yr ?yl dros ?yl y Banc.  Rhoddodd ganmoliaeth hefyd i Richard Drinkwater am lwyddiant Swyddfa'r Post.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Sirol R. John at faterion diogelwch ar y ffyrdd ar y brif ffordd rhwng Rhaglan a Llanfihangel Troddi.

 

Nododd y Cynghorydd Sirol M. Feakins am lwyddiant y penwythnos agored yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy, gan ychwanegu bod hwn yn ased gwerthfawr a gellid ymestyn y cyfle am ddiwrnodau am ddim.

 

 

9.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 55 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd ac arwyddwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1af Mai 2019 gan y Cadeirydd.

 

10.

Y Cyfarfod Nesaf.

Dydd Mercher 15fed Ionawr 2020 am 10.00am.

 

Cofnodion:

Cytunwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Mercher 15fed Ionawr 2019 am 10am.