Agenda and minutes

Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy - Dydd Mercher, 12fed Hydref, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Llanddewi Skirrid Village Hall, Church Road, Nr. Abergavenny. NP7 8AW

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan yr Aelodau.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ar ran Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm, diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned a’i thîm am y gwaith a gyflawnwyd i sicrhau bod yr Eisteddfod yn llwyddiant. Dywedodd y Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned y byddai’n trosglwyddo’r wybodaeth hon i’r tîm. 

 

 

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd yr aelodau o’r cyhoedd oedd yn bresennol i osod cwestiwn i’r Pwyllgor Ardal, neu i godi materion barai bryder:

 

Diogelwchar y FfyrddLlanddewi Skirrid

 

Hysbysoddpreswylydd lleol y Pwyllgor Ardal fod cynllun wedi’i lunio ddwy flynedd yn ôl i wella amodau diogelwch ar y ffyrdd drwy Bentref Llanddewi Skirrid. Roedd pob arwydd ac eithrio un wedi’u codi. Fodd bynnag, wedi cysylltu ag Adran y Priffyrdd , hysbyswyd y preswylwyr bod yr holl arwyddion wedi’u cwblhau. Roedd preswylwyr wedi mynegi pryder ynghylch y mater hwn gan nodi bod yr holl arwyddion heb eu cwblhau.

 

Hysbysoddyr Aelod lleol dros Mardy y preswylydd y byddai’n cydlynu ag Adran y Priffyrdd ynghylch y mater hwn.

 

Diweddariad CAIR

 

Cyfleodd Jenny Barnes y wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor Ardal:

 

  • Bydd CAIR yn cynnal cyfarfod yn Neuadd y Dref, Y Fenni ar 13eg Hydref 2016 ynghylch pa welliannau oedd yn cael eu gwneud ar gyfer pobl anabl. Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol.

 

  • Roeddangen mwy o waith i wella’r ymgynghori rhwng cyngor Sir Fynwy a phobl anabl.

 

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor Ardal y cynhelir cyfarfod gyda phobl anabl, wedi’i drefnu gan Heddlu Gwent, yng Nghanolfan Tudor Day ar ddydd Gwener, 14eg Hydref 2016 am 11.30am.  Gellid trafod y materion a godwyd gan Jenny Barnes yn y cyfarfod hwn.

 

 

 

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 165 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd ac arwyddwyd cofnodion Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm dyddiedig 13eg Gorffennaf 2016 gan y Cadeirydd.

 

 

5.

Derbyn adroddiad diweddaru gan Dîm y Fenni ar y cynnydd hyd yma. pdf icon PDF 80 KB

Cofnodion:

Derbyniasomadroddiad diweddaru gan Dîm Y Fenni ar y cynnydd wnaed hyd yn hyn. Darparwyd ar gyfer y Pwyllgor Ardal hefyd fanylion achosion busnes a gafodd eu gwrthod yn erbyn y gronfa cyllid cyfalaf o £30,000 a oedd ar gael i wella Canol Tref y Fenni yn barod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Amlinellwyd yr achosion busnes fel:

 

  • Canopiyn Neuadd y Dref, Y Fenni.
  • CanolfanGymunedol Y Fenni – Cais am gronfeydd a Chynllun Busnes.
  • CynllunBusnes ar gyfer Gosod Nenbont Oleuo yn Theatr y Bwrdeistref, Y Fenni.
  • StondinauMarchnad Newydd yn y Farchnad Dan Do.

 

Amlinellodd y Tîm yn ogystal eu barn ar y canlynol:

 

  • LleCyfanmae angen gosod mecanwaith mewn lle i nodi lle gall Tîm Y Fenni ddarparu cymorth a bod yn gynaliadwy yn y Dref.

 

  • Mae angen cael mandad democrataidd lle gall Tîm y Dref weithio mewn cydweithrediad gydag Aelodau etholedig.

 

  • Gobeithid y darperid cyllid ychwanegol ar gyfer Pwyllgorau Ardal..

 

  • ByddTîm y Dref yn mabwysiadu dull mwy ffurfiol i brosesu’i gynllun blynyddol ac fe’i cysylltir â’igynllun pum mlynedd a’i gyflwyno i Bwyllgor Bryn y Cwm i’w ystyried. Mae Tîm y Dref yn ystyried unwaith y caiff ei gymeradwyo bydd yn galluogi’r Tîm i wneud ceisiadau am gyllid o ffynonellau addas.

 

Wediderbyn yr adroddiad a manylion yr achosion busnes a wrthodwyd, nodwyd y wybodaeth ganlynol:

 

  • Gall Cynghorau Tref/Cymuned gael rhan yng Nghynllun Llesiant ehangach Cyngor Sir Fynwy. Cyflawnir asesiad llesiant yn Sir Fynwy i nodi prif feysydd achosion agored i niwed yn y Sir.

 

  • Mewnymateb i gwestiwn a godwyd parthed y £30,000 o gyllid cyfalaf a fu ar gael i Dîm y Dref i wella’r dref ar yr adeg yn arwain at yr Eisteddfod, nid oedd y cyllid hwn bellach ar gael.

 

  • YnChwefror 2015, roedd y Cyngor Sir wedi cytuno i ddiddymu’r penderfyniad a gymerwyd yn 2010 i adeiladu llyfrgell newydd ar safle’r hen farchnad wartheg, Y Fenni, gan ryddhau cyllid o £3.433m.  O’r swm hwn, roedd £2.2m ar gael i ddatblygu Hyb Y Fenni. Mae swm o hyd at £50,000 i gael ei rhyddhau i ariannu’r costau i gwblhau’r dyluniadau manwl a’r achos busnes i’w cyllido gan fenthyca darbodus.

 

  • Ystyriwyda ellid cymryd cyllid yn ôl o’r farchnad newydd ym Mhenpergwm gyda’r bwriad o ddarparu cyllid ar gyfer rhai o’r achosion busnes a amlinellwyd gan Dîm Y Fenni. Parthed yr achosion a gyflwynwyd yn flaenorol, rhoddwyd manylion ynghylch paham nad oeddent yn addas ar gyfer y gronfa gyllid hon neu paham na chyfarfyddent â’r meini prawf.

 

  • Nodwyd bod cyllid Adran 106 yn cael ei adolygu a gobeithid y byddai’r cyllid hwn yn cael ei ail-alinio i fod yn gyfrifoldeb Pwyllgorau Ardal.

 

Penderfynasom:

 

(i)            wneudcais i’r Cabinet y byddai unrhyw gyllid a fyddai’n weddill o’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Diweddariad llafar ar ddatblygu Hyb y Fenni.

Cofnodion:

Derbyniasomddiweddariad geiriol gan Bennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned parthed datblygu Hyb yn Y Fenni. Wrth wneud hynny nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Roeddadroddiad ynghylch y mater hwn wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llawn yng Ngorffennaf 2016.

 

  • Mae swm o hyd at £50,000 i’w rhyddhau i ariannu’r costau o gwblhau’r dyluniadau manwl a’r achos busnes i’w cyllido gan fenthyca darbodus.

 

  • Nodircostau a llinellau amser.

 

  • Sefydlirgweithgor gyda phartneriaid perthnasol i herio syniadau.

 

  • Yndilyn hyn cynhelir cyfnod o ymgynghori.

 

  • Yndilyn adborth, cyflwynir y cynlluniau i’r Cyngor Llawn yng ngwanwyn 2017.

 

Penderfynasomdderbyn y diweddariad geiriol a nodwyd ei gynnwys.

 

 

 

7.

Adolygiad ar Lywodraethiant Cymunedol. pdf icon PDF 337 KB

Cofnodion:

RhoddoddPennaeth Llywodraethiant, Ymgysylltu a Gwelliant adroddiad i ddiweddaru Aelodau ar y modd mae’r Cyngor yn newid ei berthynas gyda Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Nodwyddewisiadau ar gyfer strwythur llywodraethiant cymunedol yn y dyfodol, fel a ganlyn:

 

  • Dewis 1 – Status quo – Pwyllgorau Ardal a Byrddau Rhaglen yn cyd-fodoli heb unrhyw berthynas ffurfiol ond bod ganddynt gynrychiolaeth. 

 

  • Dewis 2 – Cedwir y Pwyllgorau Ardal fel yr unig strwythur gyda chynnydd mewn aelodau cyfetholedig o’r gymuned..

 

  • Dewis 3 – Pwyllgorau Ardal heb unrhyw gynrychiolaeth o’r cyhoedd.

 

  • Dewis 4 – Pwyllgor Ardal gyda gr?p ffocws o’r ardal leol.

 

  • Dewis 5 – Bwrdd Rhaglen heb Bwyllgor Ardal.

 

  • Dewis 6 – Bwrdd Rhaglen gyda chynrychiolaeth gyfyngedig a diffiniedig o’r aelodau etholedig.

 

  • Dewis 7 – Pwyllgor Ardal Cymunedol yn unol â’rMesur Llywodraeth Leol – dim ond dau yn Sir Fynwy, un yn y gogledd ac un yn y de.

 

Nodwydmai’r dewis ffafriedig oedd Dewis 2 ond gyda’r gwahoddiad ychwanegol i gynrychiolydd unigol o bob un o’r Cynghorau Cymuned neu Dref yn yr ardal honno.

 

Wediystyried yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mewnymateb i gwestiynau a godwyd ynghylch gweithio mewn clwstwr, dywedodd Pennaeth Llywodraethiant, Ymgysylltu a Gwelliant fod y Prif Weithredwr wedi gwneud ymrwymiad y bydd gweithio mewn clwstwr yn digwydd a disgwylir hyn i uno gyda llywodraethiant cymunedol.

 

  • Mae’r model wedi’i ganoli o gwmpas y pum tref. Felly mae cael pum pwyllgor ardal yn ddewis da. 

 

  • Mae Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm yn gefnogwr brwd o gadw strwythur y Pwyllgor Ardal.

 

  • Awgrymwyd bod:

-       PwyllgorauArdal yn  cyfarfod bob dau fis (chwe chyfarfod y flwyddyn)

-       Dylai’rCadeiryddion fod yn Gynghorwyr Sir.

-       Cynrychiolaethychwanegol o’r Cyngor Cymuned.

-       Cynnwys y Fforwm Agored Cyhoeddus fel eitem ar yr agenda.

-       Diddymu’rByrddau Rhaglen.

-       Ystyriedailenwi Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm.

-       Mae’nrhaid i swyddogion ymgynghori gyda Phwyllgorau Ardal cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

-       Cyllidblynyddol i barhau.

-       Cyfetholaelodau o’r cyhoedd i gefnogi’r Cynllun Lle Cyfan.

 

  • Mae Dewis 2 yn caniatáu cynnwys Corff archebol arall.

 

Cynigiwyd bod y Pwyllgor Ardal yn cefnogi Dewis 2 gyda’r gwahoddiad ychwanegol i un cynrychiolydd o bob Cyngor Cymuned neu Dref yn yr ardal.

 

Cymerwydpleidlais a phleidleisiodd y Pwyllgor Ardal yn unfrydol i gefnogi’r cynnig.

 

Penderfynasom, felly, gefnogi Dewis 2 gyda’r gwahoddiad ychwanegol i un cynrychiolydd o bob Cyngor Cymuned neu Dref yn yr ardal honno.

 

 

 

 

 

 

 

8.

Diweddariad - Grantiau Cyfalaf Ardal

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned ddiweddariad byr i’r Pwyllgor Ardal ynghylch y Grantiau Cyfalaf Ardal.

 

Nodwyd y byddai’r cylch nesaf o gyllid yn cychwyn yn fuan gyda £5000 pellach ar gael i’w ddyrannu. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai’r holl geisiadau a dderbynnir yn cael eu cyfeirio at y Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned i’w hasesu erbyn 31ain Rhagfyr 2016 gyda’r bwriad y byddai’r ceisiadau’n cael eu hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Ardal ar 25ain Ionawr 2017.

 

 

 

9.

Rhaglen Waith y Dyfodol. pdf icon PDF 13 KB

Cofnodion:

Penderfynasomdderbyn a nodi Rhaglen Waith Pwyllgor Bryn y Cwm. 

 

10.

Cyfarfod nesaf.

Dydd Mercher 25 Ionawr 2017 am 2.00pm i’w gynnal yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref, Y Fenni (os yw ar gael).

 

 

Cofnodion:

Cynhelircyfarfod nesaf Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm ar ddydd Mercher  25ain Ionawr 2017 am 2.00pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref, Y Fenni, ar yr amod bod y Siambr yn rhydd.