Lleoliad: LIttle Mill Village Hall, Berthon Road, Little Mill, NP4 0HJ
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sirol M. Powell fuddiant personol, nad yw'n rhagfarnol, yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas ag eitem 7 ar yr agenda - Mind Sir Fynwy, gan ei bod yn llywodraethwr Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII.
Datganodd y Cynghorydd Sirol S. Woodhouse fuddiant personol, nad yw'n rhagfarnol, yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas ag eitem 7 ar yr agenda - Mind Sir Fynwy, gan ei bod yn un o sefydlwyr gwreiddiol Mind y Fenni, ond nid yw'n aelod cyfredol.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol.
|
|
Y diweddaraf ynghylch ailddatblygu Hyb y Fenni. PDF 51 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cawsom adroddiad diweddaru ynghylch ailddatblygu Hyb y Fenni. Wrth wneud hynny, nodwyd bod y rhaglen adeiladu wedi wynebu rhai heriau dros y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, cyflawnwyd y canlynol:
Bydd cam nesaf y gwaith yn cynnwys y Siop Un Stop, ardal Heddlu Gwent a'r Ganolfan Groeso yn symud i mewn i ardal theatr y llawr gwaelod i allu dechrau gweithio yn y Siop Un Stop / ardal Heddlu ar y llawr gwaelod.
Y dyddiad gorffen a ragwelir ar gyfer y rhaglen gyffredinol yw Mawrth 2020 ar hyn o bryd.
Ar ôl derbyn yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:
· Bydd y brif fynedfa yn cael ei hagor ar 2il Rhagfyr 2019.
· Parheir i fonitro nifer yr ymwelwyr â'r farchnad gyda'r nod o sicrhau bod masnachu o fewn y farchnad yn dychwelyd i'r arfer cyn gynted â phosibl.
· Roedd nifer o gwestiynau wedi'u codi o'r blaen ynghylch ailddatblygu Hyb y Fenni. Dywedodd y swyddogion a oedd yn bresennol fod y cwestiynau hyn wedi cael eu hymateb yn uniongyrchol i Is-gadeirydd Cymdeithas Ddinesig y Fenni.
· Y flaenoriaeth oedd ailddatblygu Hyb y Fenni cyn mynd i'r afael â safle Stryd Baker (y llyfrgell flaenorol).
Fe wnaethom nodi’r adroddiad;
|
|
Gwahoddir cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Adran Briffyrdd Cyngor Sir Fynwy a Stagecoach i drafod materion Priffyrdd yn Ysbyty Nevill Hall (bysiau'n rhwystro ambiwlansys rhag cael mynediad/gadael oherwydd darpariaeth priffyrdd annigonol). Cofnodion: Cyfarfuom â chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Stagecoach ac Adran Briffyrdd Cyngor Sir Fynwy i drafod materion yn ymwneud â phriffyrdd sy'n digwydd yn Ysbyty Nevill Hall bob dydd lle mae bysiau'n cael eu hatal rhag cael mynediad i'r safle ac ymadael ag ef ar amser oherwydd parcio amhriodol ar y safle. Codwyd nifer o opsiynau posibl fel ffordd o fynd i'r afael â'r mater hwn.
Penderfynwyd y dylai Adran Briffyrdd Cyngor Sir Fynwy ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Stagecoach gyda golwg ar ganfod ffordd ymlaen i fynd i'r afael â'r materion hyn.
|
|
Y newyddion diweddaraf gan y Cynghorydd Sirol S. Woodhouse ynglŷn â'r cynnydd mewn perthynas â'r Grŵp Trafnidiaeth Strategol. Cofnodion: Nodwyd yr eitemau canlynol y gofynnodd y Pwyllgor Ardal i'r Gr?p Trafnidiaeth Strategol eu hystyried, wrth symud ymlaen:
Penderfynwyd bod yr Adran Briffyrdd/y Cynghorydd Sirol S. Woodhouse yn codi'r materion hyn yng nghyfarfod nesaf y Gr?p Trafnidiaeth Strategol.
|
|
Ymgysylltu â Mudiadau yn y Sector Gwirfoddol - Diweddariad llafar gan Marcia Burford o'r Prosiect Llesiant Bad Achub. Cofnodion: Cawsom ddiweddariad gan Marcia Burford ynghylch y Prosiect Bad Achub Lles.
Wrth wneud hynny, dywedwyd wrth y Pwyllgor Ardal:
· Mae'r Prosiect yn gr?p bach o therapyddion proffesiynol, cwnselwyr, athrawon, therapyddion cyfannol a grwpiau creadigol, sy'n rhoi o'u hamser i helpu lles y gymuned.
· Bedair blynedd yn ôl, nodwyd bod diffyg cefnogaeth anffurfiol i bobl yn y gymuned yn profi amrywiaeth o anawsterau yn eu bywydau eu hunain, a oedd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.
· Roedd Cyngor Sir Fynwy wedi darparu canolfan ar gyfer y sefydliad yng Nghanolfan Adnoddau Parc y Maerdy, y Fenni.
· Ni thelir treuliau i wirfoddolwyr. Mae'r gwasanaethau am ddim i sicrhau cynhwysiant cymunedol.
· Mae'r prosiect yn darparu cwnsela, Reiki, Adweitheg, Tylino cyfannol, Ymwybyddiaeth Ofalgar, gweithgareddau creadigol a chymorth i gael mynediad at asiantaethau a grwpiau cymunedol eraill.
· Mae'r Prosiect yn darparu manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, addysgol a diwylliannol.
Ar ôl cael y wybodaeth ddiweddaraf, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae'r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer oedolion 18 oed a throsodd.
· Y flwyddyn nesaf, mae'r prosiect yn gobeithio darparu gwasanaeth i bobl ifanc o dan 18 oed.
· Mae gan y prosiect gysylltiadau ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ysbyty Maindiff Court.
· Mae'r prosiect yn cwmpasu ardal Sir Fynwy.
Fe nodom y diweddariad.
|
|
Cofnodion: Cawsom drosolwg o'r cymorth sy'n cael ei ddarparu gan Mind Sir Fynwy. Wrth wneud hynny, nodwyd y wybodaeth ganlynol:
· Elusen iechyd meddwl leol annibynnol yw Mind Sir Fynwy a ffurfiwyd dros 40 o flynyddoedd yn ôl i gefnogi pobl Sir Fynwy, gan ddarparu gwasanaethau o ansawdd am ddim i bobl mewn angen.
· Mae gan yr elusen bartneriaeth gyda Mind Cenedlaethol, ac mae'n ennill cefnogaeth dda, ond mae'n elusen annibynnol leol.
· Lleolir y swyddfeydd a'r staff yn Monk Street, y Fenni, ac maent yn gweithio ar draws y sir.
· Mae'r elusen leol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau am ddim sy'n cynnwys: cwnsela, cefnogaeth tenantiaeth, cyngor a chymorth gwybodaeth, adferiad 1-1, cyrsiau seicoaddysgol/adfer, gr?p cerdded, ymgyrchu, byw â chymorth, cymorth hawliau lles ac mae'r elusen wedi dechrau prosiect ffermwyr yn ddiweddar i gefnogi'r rhai mewn angen.
· Ni chaiff cyllid drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, o £140,000 y flwyddyn, ei adnewyddu ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21, a allai arwain at derfynu darpariaeth rhai gwasanaethau yn y dyfodol, wrth symud ymlaen.
· Daw'r prosiect peilot ffermio i ben ym mis Mawrth 2020. Fodd bynnag, mae nifer o achosion atgyfeirio cymhleth yn cael eu derbyn ar hyn o bryd.
· Nodwyd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan o dan bwysau ariannol. Fodd bynnag, pe bai gwasanaethau Mind Sir Fynwy yn cael eu lleihau oherwydd cyfyngiadau ariannol, byddai hyn yn creu effaith negyddol ar y rhai sydd angen y gwasanaethau hanfodol hyn.
· Cynghorwyd Sir Fynwy i ysgrifennu at y cynghorau tref a chymunedol yn y Sir yn amlinellu eu cyfyngiadau ariannol gan fod y cynghorau hyn ar hyn o bryd yn adolygu eu praeseptau ar gyfer 2020/21 ac efallai y byddent yn gallu darparu rhywfaint o gymorth ariannol.
· Mae Mind Sir Fynwy wedi sicrhau cyllid dros y ddwy flynedd ddiwethaf i roi cymorth iechyd meddwl a lles ychwanegol y mae mawr ei angen i ddisgyblion ysgolion uwchradd. Oherwydd materion ariannu, mae'r gwasanaeth hwn bellach wedi dod i ben. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen y gwasanaeth hwn. Mind Mae Sir Fynwy wedi gweithio gydag Ysgol Brenin Harri VIII i ysgrifennu cais ar y cyd gyda'r gobaith o sicrhau rhywfaint o gyllid.
Penderfynwyd:
(i) gwahodd cynrychiolydd o Wasanaeth Trawsnewid Gwent i fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Ardal yn y dyfodol i drafod y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl o fewn Sir Fynwy, yn benodol, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau trawsnewid Gwent ac Iechyd meddwl plant drwy'r Rhaglen Mynydd Iâ newydd.
(ii) bod Rheolwr Craffu Cyngor Sir Fynwy yn cael gwybod am y cyfyngiadau ariannol y bydd Mind Sir Fynwy yn eu hwynebu yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21, a gofyn bod gwahoddiad yn cael ei estyn i Mind Sir Fynwy i fynychu cyfarfod Pwyllgor Dethol gyda'r bwriad o drafod y mater hwn ymhellach.
|
|
Adroddiad cynnydd gan Dîm y Fenni. PDF 131 KB Cofnodion: Derbyniwyd a nodwyd yr adroddiad gan Dîm y Fenni ar y cynnydd hyd yn hyn. Fodd bynnag, ni wnaeth y Pwyllgor Ardal drafod yr adroddiad gan fod y Cyngor Sir wedi ymuno yn y cyfnod cyn yr etholiad mewn perthynas â'r etholiad cyffredinol arfaethedig ar 12fed Rhagfyr 2019 ac ystyriwyd y gellid dehongli bod peth o gynnwys yr adroddiad yn sensitif yn wleidyddol yn ystod y cyfnod hwn.
|
|
Diweddariad gan Bwyllgor Cyswllt Gogledd Sir Fynwy. PDF 45 KB Cofnodion: Derbyniwyd a nodwyd yr adroddiad gan Bwyllgor Cyswllt Gogledd Sir Fynwy.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 79 KB Cofnodion: Cafodd cofnodion y Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy dyddiedig 25ain Tachwedd 2019 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd yn amodol ar y diwygiad canlynol:
Cofnod 1 – Etholwyd y Cynghorydd Sirol M. Powell yn Gadeirydd.
Cofnod 8 – Gofynnodd Cyngor Tref y Fenni i'r Cynghorydd Sirol Woodhouse i roi'r newyddion diweddaraf i Gyngor y Dref ynghylch gorsaf reilffordd y Fenni.
|
|
Rhaglen Waith Craffu Sir Fynwy. PDF 607 KB Cofnodion: Derbyniwyd a nodwyd y Rhaglen Waith Craffu.
|
|
Blaenraglen Waith Busnes y Cyngor a'r Cabinet PDF 296 KB Cofnodion: Derbyniwyd a nodwyd Blaenraglen Waith Busnes y Cyngor a'r Cabinet
|
|
Rhaglen Waith Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy PDF 55 KB Cofnodion: Derbyniwyd a nodwyd blaenraglen waith Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy. Wrth wneud hynny, ychwanegwyd yr eitem ganlynol:
· i wahodd cynrychiolydd o Wasanaeth Trawsnewid Gwent i fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Ardal yn y dyfodol i drafod y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl o fewn Sir Fynwy, yn benodol, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau trawsnewid Gwent ac Iechyd meddwl plant drwy'r Rhaglen Mynydd Iâ newydd
|
|
Y Cyfarfod Nesaf: Dydd Mercher 22ain Ionawr 2020 am 1.00pm. Cofnodion: Dydd Mercher 22ain Ionawr 2020 am 1.00pm.
|