Lleoliad: Council Chamber Town Hall Abergavenny - Abergavenny. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant gan Aelodau.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion gan y cyhoedd.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 184 KB Cofnodion: Cadarnhawyd a llofnodwyd gan yr Is-gadeirydd gofnodion cyfarfod Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm, dyddiedig 10ted Chwefror 2016, yn amodol ar y newid canlynol:
Roedd y Cynghorydd Sir M. Hickman yn bresennol.
Wedi cymeradwyo’r cofnodion, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Roedd y goleuadau dros dro ar y gefnffordd yn dal yn weithredol. Nodwyd amcangyfrif y gwaith gorffenedig erbyn diwedd Mawrth 2016.
· Roedd Cyngor Tref y Fenni wedi cynnig cymorth ariannol i helpu i gadw’r pedwar t? bach am 12 mis pellach. Anogir busnesau lleol i ganiatáu i aelodau’r cyhoedd i ddefnyddio’u tai bach. Nodwyd bod angen ystyried mynediad i’r anabl i’r tai bach.
|
|
Cyflwyniad gan gynrychiolwyr Costain parthed cynnydd hyd yma yng nghyswllt Deuoli Ffordd Blaenau’r Cymoedd Gilwern i Frynmawr. Cofnodion: Derbyniasom gyflwyniad gan Phillip Baker, yn cynrychioli Costain, ynghylch Gwaith Deuoli Ffordd Blaenau’r Cymoedd - Gilwern i Frynmawr.
Darparwyd y Pwyllgor Ardal ag amlinelliad gwirioneddol o’r gwaith arfaethedig a’r heriau tebygol y bydd Costain yn debygol o’u hwynebu yn ystod y camau i ddod. Darparwyd gwybodaeth yn ogystal parthed y blaengynllun.
Wedi derbyn y cyflwyniad, nodwyd y pwyntiau canlynol.
· Roedd Costain yn gweithio gyda threfnwyr yr Eisteddfod i leihau’r ymyrraeth gymaint â phosib.
· Bwriedir agor Cylchfan Glanbaiden ym Mai 2016.
· Cytunwyd protocol gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ynghylch gorchuddio’r pileri carreg.
· Ailgylchir y dur a ddefnyddir i adeiladu a daw o ffynhonnell leol (o fewn 40 milltir o’r prosiect).
· Mae’r tirlunio yng Ngilwern eto i’w gwblhau.
· Cedwir y bont droed yng Nghlydach ac mae pont newydd yn cael ei chodi.
· Dyddiad cwblhau’r prosiect yw Awst / Medi 2018. O ganlyniad i’r gaeaf gwlyb diweddar, mae Costain wedi bod yn gweithio dros y penwythnosau er mwyn cadw ar darged i gwblhau’r gwaith.
Ar ran y Pwyllgor Ardal, diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd Costain am ddarparu cyflwyniad diddorol yn llawn gwybodaeth.
Penderfynasom estyn gwahoddiad i Costain fynychu cyfarfod y Pwyllgor Ardal ymhen chwech i naw mis i roi diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd.
|
|
Adroddiad diweddaru gan Dîm y Fenni parthed cynnydd hyd yma. PDF 90 KB Cofnodion: Derbyniasom adroddiad diweddaru gan Dîm Y Fenni ynghylch cynnydd hyd yn hyn. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Bwriedir i’r prosiect Amaeth-Dinesig rannu gwybodaeth ac arbenigedd rhwng gr?p o ddeg tref a dinas ar draws Ewrop, yn y gobaith o ddatblygu cysylltiadau mwy clos rhwng y trefi a’u hardaloedd gwledig cyfagos, yn arbennig yn y broses o sicrhau bwydydd o ffynonellau lleol. Derbyniwyd dros 75 o geisiadau ac mae 11 o drefi ar hyn o bryd yn ymwneud â’r prosiect. Gofynnwyd i’r Fenni ymuno o ganlyniad i’w chysylltiad â bwyd, h.y. G?yl Fwyd Y Fenni. Mae cais wedi’i gyflwyno.
· Roedd cyfarfod lleol yn cael ei gydlynu yn cynnwys cymdeithasau, asiantaethau a’r gymuned gyda’r bwriad o roi cynllun at ei gilydd ar gyfer y ddwy flynedd nesaf i wneud Y Fenni yn gynaliadwy. Byddai; cofnodion y cyfarfodydd hyn yn cael eu cylchynu i Aelodau. Rheolir hyn gan Swyddog o Gyngor Sir Fynwy gydag arian cyfatebol yn cael ei ddarparu am ddwy flynedd.
Penderfynasom dderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys.
|
|
Adroddiad diweddaru parthed Cyllid Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) ar y Strategaeth Datblygu Leol. Cofnodion: Derbyniasom ddiweddariad ar lafar ynghylch cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig (CCD) ar y Strategaeth Datblygu Leol. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Dyfarnwyd i Gyngor Sir Fynwy £2.79M drwy gyfrwng ffrydiau CCD ar raglen chwe blynedd.
· Mae 20% o arian cyfatebol i’w dderbyn oddi wrth noddwyr.
· Mae 160 o geisiadau wedi’u derbyn gyda dim ond un yn dod o Gyngor Sir Fynwy, sef, Cyngor Cymuned Llanofer, i edrych ar bedair neuadd bentref gyda’r bwriad o’u huwchraddio drwy ddarparu canolfan amlbwrpas gyda band eang.
· Mae Prosiect Rhaglen yr Arweinydd yn cynnwys pum gr?p o randdeiliaid.
Penderfynasom dderbyn y diweddariad ar lafar, gan nodi’i gynnwys.
|
|
Diweddariad ar ddigwyddiadau yn Ardal Bryn y Cwm. PDF 171 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniasom adroddiad diweddaru ar gynnydd y cynlluniau ar gyfer digwyddiadau o fewn 2016.
Wedi derbyn yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016
· Bydd y Rheolwr Digwyddiadau yn ymchwilio i ddichonoldeb yr Awdurdod i gymryd drosodd gynnal a chadw’r ’Blychau Ffonio Coch’ o fewn y Sir oherwydd iddynt gael eu hystyried yn atyniad i dwristiaid.
· Bydd Gorsaf Rheilffordd Y Fenni wedi cynyddu’i stiwardiaeth yn ystod yr Eisteddfod. Bydd yr holl fysiau’n cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Bydd yr holl safle ar Ddôl y Castell yn cydymffurfio â’r Ddeddf.
· Bydd mynediad i’r anabl ar Ddôl y Castell yn agored erbyn Medi 2016.
· Bydd y Rheolwr Digwyddiadau’n ymchwilio i’r angen i ddarparu cyfarwyddyd ffurfiol ar gyfer pobl leol a allai ystyried gosod eu tai i ymwelwyr yn ystod yr Eisteddfod.
Velothon 2016
· Mynegwyd pryder y gallai fod problemau ynghylch da byw yng nghyd-destun y caeau ar ffordd y Velothon. Dywedodd y Rheolwr Digwyddiadau y byddai’n ymchwilio ac yn egluro’r broblem hon.
G?yl Feicio Y Fenni
· Nodwyd na fydd y digwyddiad yn effeithio gwaith ar Dir y Cyhoedd gan y rhagwelir y gellir datrys y sefyllfa.
Hysbysodd y Cynghorydd Sir J. Prosser y Pwyllgor Ardal y byddai’n Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar 24ain Medi 2016.
Penderfynasom:
(i) dderbyn yr adroddiad gan nodi’i gynnwys;
(ii) y bydd y Rheolwr Digwyddiadau’n ymchwilio i ddichonoldeb yr Awdurdod i gymryd drosodd gynnal a chadw’r ‘Blychau Ffonio Coch’ o fewn y Sir;
(iii) y bydd y Rheolwr Digwyddiadau’n ymchwilio i’r angen i ddarparu cyfarwyddyd ffurfiol ar gyfer pobl leol a allai ystyried gosod eu tai i ymwelwyr yn ystod yr Eisteddfod;
(iv) y bydd y Rheolwr Digwyddiadau’n ymchwilio ac yn egluro’r mater hwn ynghylch pryderon y gallai fod broblemau gyda rhai da byw ynghylch y caeau ar ffordd y Velothon.
|
|
Adroddiad diweddaraf ynglŷn â’r Afon Wysg, Dôl y Castell. PDF 80 KB Cofnodion: Derbyniasom adroddiad yngl?n â’r Afon Wysg yn Nôl y Castell.
Hysbyswyd y Pwyllgor Ardal fod un mater ar ôl eto ers i’r Pwyllgor Ardal ystyried yn flaenorol Gynllun Rheoli Dôl y Castell - ceisiadau am fynediad lletach i’r Afon Wysg ac am newid polisi i ganiatáu can?a a nofio gwyllt yn y rhan honno o’r afon gerllaw’r dolydd lle mae gan y Cyngor hawliau glannau afon.
Roedd y gr?p gorchwyl a gorffen o’r farn y byddai trafodaethau pellach rhwng y rheiny â diddordeb mewn pysgota a’r rheiny â diddordeb mewn can?a yn angenrheidiol er mwyn gweld a ellid cael cytundeb ar ddefnydd lletach yr afon a phenderfynwyd bod swyddogion yn hwyluso trafodaeth bellach ac yn dod nôl ag adroddiad i’r Pwyllgor Ardal, fel y bydd yn ofynnol.
Yn anffodus cymerodd y broses hon dipyn o amser ond fe alwyd cyfarfod rhwng Clwb Can?a’r Fenni a’r clwb pysgota. Fodd bynnag, ni lwyddodd y trafodaethau i gytuno ffordd ymlaen.
Wedi trafod y mater penderfynodd y Pwyllgor Ardal y dylid paratoi adroddiad ar y mater hwn a’i gyflwyno i Bwyllgor Dethol Cymunedau Cryfion gyda’r bwriad bod y Pwyllgor yn archwilio’r mater cyn gwneud penderfyniad.
|
|
Rhaglen Waith y Dyfodol. PDF 12 KB Cofnodion: Penderfynasom dderbyn Rhaglen Waith y Dyfodol gan nodi’i chynnwys.
|
|
Nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ddydd Mercher 13 Gorffennaf 2016 am 2.00pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref, Y Fenni (yn dibynnu ar argaeledd). Cofnodion: |