Lleoliad: Shirenewton Church Room, Shirenewton
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Etholiad Cadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Sir D.L.S. Dovey fel Cadeirydd.
|
|
Apwyntiad Is-Gadeirydd. Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Sir A. Webb fel Is-gadeirydd
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir P. Farley fuddiant personol, manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau yn gysylltiedig ag eitem 6a Canolfan Gymunedol Bulwark gan fod ei briod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Gymunmedol Bulwark.
Datganodd y Cynghorydd Sir D.L.S. Dovey fuddiant personol, manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau yn gysylltiedig ag eitem 6a Canolfan Gymunedol Bulwark gan fod ei briod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Gymunmedol Bulwark.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ardal Rhannau Isaf Afon Gwy dyddiedig 13eg Ionawr 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Diweddariad ar Gorsaf Pwer Oldbury. Cofnodion: Darparodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Pwyllgor Ardal ynghylch Gorsaf B?er Oldbury. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae’r safle bellach yn rhydd o danwydd gyda’r gasgen olaf wedi’i symud yn Ebrill 2016.
· Bydd digomisiynu’r safle yn digwydd cyn bo hir.
· Dymchwelir yr ardal dan y ddaear i ganol y safle.
· Adferir yr holl ardal ac fe’i gorchuddir gan laswellt. Y terfyn amser ar gyfer cwblhau’r gwaith fydd tair blynedd.
· Rhoddwyd ystyriaeth i nodi Gorsaf B?er Oldbury ar y safle yn dilyn y digomisiynu.
· Mae cyllid ar gyfer cynlluniau cymunedol yn debygol o fod ar gael yn dilyn y digomisiynu. Gobeithid y cynhwysid Cas-gwent yn y cynllun hwn.
|
|
Ceisiadau Cyllid Cyfalaf: Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Amlinellodd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned y weithdrefn y tu ôl i gyflwyno cyllid cyfalaf i sefydliadau sydd wedi cyflwyno ceisiadau i’r Pwyllgor Ardal am gyllid. Roedd cyllid cyfalaf o £5000 arf gael ar hyn o bryd o gyllideb 2015/16.
Derbyniwyd y ceisiadau canlynol am gyllid ac fe’u hystyriwyd gan Y Pwyllgor Ardal:
Canolfan Gymunedol Bulwark
Gwnaed cais am: £1000
Rheswm: Disodli’r boeler yng Nghanolfan Gymunedol Bulwark.
Cynigiwyd ein bod o blaid cymeradwyo’r cais ar yr amod ein bod yn derbyn gwybodaeth ariannol.
Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 3 Yn erbyn cymeradwyo - 1 Atal pleidlais - 1
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasom ein bod o blaid cymeradwyo’r cais ar yr amod ein bod yn derbyn gwybodaeth ariannol.
Cystadleuaeth Pentref Mwyaf Taclus Gwent
Gwnaed cais am: £250
Rheswm: Tuag at dreuliau beirniaid gwirfoddol a fyddai’n ymweld â’r pentrefi a gymerai ran yn y gystadleuaeth a’u beirniadu. Hefyd, tuag at brynu tlysau a fframiau ar gyfer y tystysgrifau i’r ysgolion a’r pentrefi buddugol.
Wedi trafod y cais, penderfynwyd nad oedd y cais yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol.
Cynigiwyd gwrthod y cais.
Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
Gwrthod y cais - 5 Yn erbyn gwrthod y cais - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasom fod y cais yn cael ei wrthod. Felly, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn.
Pwyllgor Canolfan Gymunedol Caerwent Cyf.
Gwnaed cais am: £2000
Rheswm: Tuag at adnewyddu prosiect Canolfan Gymunedol Caerwent, sy’n cynnwys rhoi to newydd i’r ganolfan ac adnewyddu’r goleuadau crog.
Mae’r meini prawf ar gyfer y grant hwn yn golygu bod yn rhaid iddo gael ei wario o fewn 12 mis neu bydd yn rhaid ei ad-dalu. Felly byddai cymeradwyo’r cais yn golygu y byddai’n ofynnol i’r ymgeisydd roi sicrwydd dros raglenni a phroffiliau gwariant.
Cynigiwyd cymeradwyo’r cais ar yr amod bod yr ymgeisydd yn rhoi sicrwydd dros raglenni a phroffiliau gwariant i sicrhau bod y grant yn cael ei wario o fewn 12 mis.
O blaid cymeradwyo - 5 Yn erbyn cymeradwyo - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasom fod y cynnig yn cael ei gymeradwyo ar yr amod bod yr ymgeisydd yn rhoi sicrwydd dros raglenni a phroffiliau gwariant i sicrhau bod y grant yn cael ei wario o fewn 12.
Nodwyd bod dau gais am arian nawdd a gafodd eu cyflwyno ond heb eu derbyn gan y Pwyllgor. Hysbysodd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned y Pwyllgor y byddai hi’n ymchwilio i’r mater hwn.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Hysbysodd un o breswylwyr St Arvans y Pwyllgor Ardal fod Cwrs Rasio Cas-gwent wedi cyflwyno cais cynllunio i ddymchwel un o’i eisteddleoedd a chodi adeilad newydd a ddefnyddir yn rhannol gan y Kennel Club. Mynegodd y pryderon canlynol:
· Bydd yn ddatblygiad o bwys o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
· Nid oes gwybodaeth ynghylch pa mor aml y bydd y Kennel Club yn defnyddio’r adeilad hwn.
· Bydd yr adeilad yn disodli eisteddle 3 a bydd wedi’i leoli yn agos i’r clwydi i’r heol. Bydd yr adeilad islaw lefel yr heol. Codir yr adeilad ar ongl i gadw llinellau’r safle.
· Bydd yr adeilad newydd bum troedfedd yn uwch a bydd ar yr un lefel â’r heol.
· Bydd llinell y toeon ar wahanol lefel i doeon eraill.
· Bydd yr adeilad yn amlwg iawn a bydd yn agos i’r heol.
· Mae e, felly, yn gwrthwynebu’r cais ar sail maint, lleoliad ac ar y diffyg gwybodaeth ynghylch ei ddefnydd arfaethedig.
· Ar ddiwrnodau rasio/cyngherddau mynegodd bryder ynghylch annigonolrwydd y ddarpariaeth rheoli traffig.
Nododd aelodau’r Pwyllgor y pryder a fynegwyd gan y preswylydd.
|
|
I gytuno’r Rhaglen Gwaith am Pwyllgor Ardal Gwy Isaf am 2016/17. Cofnodion: Penderfynasom fod yr eitemau canlynol yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith:
· Gwahodd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ddiweddaru’r Pwyllgor Ardal ar swyddogaeth Ysbyty Cas-gwent a’i swyddogaeth yn y gymuned.
· Gwahodd Uwch Swyddogion o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ddiweddaru’r Pwyllgor Ardal ar Ddarpariaeth Gofal Iechyd yn Ne Cymru.
· Diweddariad ar dlodi tanwydd yn yr ardal.
· Perfformiad yr Hyb Cymunedol.
|
|
I gadarnhau’r diwrnod a’r amser o’r cyfarfod nesaf:
Dydd Mercher 14eg Medi 2016 am 10.00yb. Cofnodion: Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 14eg Medi 2016 am 10.00am.
|