Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
CABINET MEMBER: Councillor Murphy
AUTHOR:
Jonathan S Davies – Finance Manager
CONTACT DETAILS email: jonathandavies2@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: Bod y rhestr taliadau dilynol yn cael ei chynnig nes cynhelir ymgynghoriad:
(i) Caiff praesept Awdurdod yr Heddlu ei dalu o Gronfa’r Cyngor drwy ddeuddeg rhandaliad misol cyfartal ar drydydd dydd Mawrth pob mis.
(ii) Caiff praeseptau Cynghorau Cymuned eu talu drwy dri rhandaliad cyfartal ar y diwrnod gwaith olaf ym misoedd Ebrill, Awst a Rhagfyr bob blwyddyn.
Bod ymgynghoriad gyda’r Cynghorau Cymuned cyn y penderfyniad ac yr ystyrir ymateb yr ymgynghoriad wrth wneud y penderfyniad terfynol.
Bod adroddiad pellach yn cael ei gynhyrchu ar ganlyniadau’r ymgynghoriad gan alluogi gwneud penderfyniad erbyn 31 Ionawr yn unol â statud.
|
|
SAIL TRETH GYNGOR 2021/22 A MATERION CYSYLLTIEDIG PDF 142 KB CABINET MEMBER: County Councillor P Murphy
AUTHOR: Ruth Donovan, Assistant Head of Finance: Revenues, Systems & Exchequer
CONTACT DETAILS: ruthdonovan@monmouthshire.gov.uk Tel: 01633 644592
Penderfyniad: Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sail Treth) (Cymru) 1995, y caiff y swm a gafodd ei gyfrif gan y Cyngor fel ei Sail Treth ar gyfer 2021/22 ei hysbysu fel 46,711.94 ac y gosodir y Gyfradd Casglu ar 99.0%.
Nad oes unrhyw Benderfyniad Arbennig yn datgan Ardrethi Draeniad fel Treuliau Arbennig.
Na chaiff unrhyw dreuliau a gaiff y Cyngor wrth gyflawni’n rhannol o’i faes swyddogaeth a gyflawnir mewn man arall yn ei ardal gan Gyngor Cymuned ei drin fel traul arbennig ar gyfer dibenion Adran 35 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Bod gosod y Dreth Gyngor yn parhau i fod yn swyddogaeth y Cyngor llawn. |
|
NEUADD Y SIR / AMGUEDDFA TREFYNWY PDF 230 KB CABINET MEMBER: County Councillor P Jordan
AUTHOR & CONTACT DETAILS:
Ian Saunders - Chief Operating Officer MonLife -Mobile 07876545793 Matthew Lewis – Environment & Culture Manager MonLife -Mobile 07990783165
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cynnal astudiaeth dichonolrwydd i sefydlu cynnig diwylliannol newydd yn Neuadd y Sir yn cynnwys Amgueddfa Sir Fynwy, sydd wedi’i lleoli ar hyn o bryd yn Neuadd y Farchnad, i gynnwys ystyriaeth o weithredu cyfnod dechreuol ac opsiynau ar gyfer ail gyfnod i arddangos yr adeilad, y gwahanol gasgliadau a’r dref. Cyflwynir adroddiad pellach i’r Cabinet fel yr aiff canlyniad yr astudiaeth dichonolrwydd yn ei blaen. |