Agenda and decisions

Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol - Dydd Mercher, 30ain Tachwedd, 2022 5.00 pm

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

GOFILON - CYLLID ADRAN 106 AR GYFER HAMDDEN A CHWARAE pdf icon PDF 129 KB

CABINET MEMBER: County Councillor Rachel Garrick

 

AUTHOR: Mike Moran, Community Infrastructure Coordinator

CONTACT DETAILS:

Email: mikemoran@monmouthshire.gov.uk
Tel: 07894 573834  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bydd cyllideb cyfalaf o £64,549 yn cael ei chreu yn 2022/23 er mwyn ariannu gwelliannau hamdden ar Faes Chwarae  Gofilon Brenion Siôr V, a bydd hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol o’r balans Adran 106 sydd ym meddiant y Cyngor  o’r Cytundeb A106 sydd yn ymwneud gyda hen safle Ysgol Gofilon.  

 

Mae’r cyllid wedi ei drosglwyddo i Gyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr fel ymddiriedolwyr sy’n rheoli’r maes chwarae a bydd swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Cymuned ar gytuno a gweithredu’r gwelliannau.  

 

Pan gaiff ei dderbyn, bydd cyllideb  cyfalaf o hyd at £51,000 yn cael ei greu er mwyn ariannu’r gwelliannau i’r maes chwarae presennol  ar Faes Chwarae  Gofilon Brenion Siôr V, a bod hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol o’r balans  sydd i’w dderbyn gan Gytundeb A106  o ran datblygiad tir preswyl sydd wedi ei leoli rhwng A465 Ffordd Blaenau’r Cymoedd a phrif heol y pentref B4246.

 

Pan gaiff ei dderbyn, bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Cymuned Llan-ffwyst Fawr fel ymddiriedolwyr sy’n rheoli’r maes chwarae a bydd swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Cymuned ar gytuno a gweithredu’r gwelliannau.  

2.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL - GWASANAETH CYNLLUNIO SIR FYNWY (APR) pdf icon PDF 470 KB

CABINET MEMBER: County Councillor Paul Griffiths

 

AUTHOR:

Craig O’Connor

Head of Planning

01633 644849

craigoconnor@monmouthshire.gov.uk

 

Philip Thomas

Development Services Manager

01633 644809

philipthomas@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Aelod Cabinet ar gyfer Economi Gynaliadwy a’r Dirprwy Arweinydd yn cymeradwyo’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol  2021-2022 ar berfformiad Gwasanaeth Cynllunio'r Cyngor sydd i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. 

3.

DARPARIAETHAU A DIGWYDDIADAU ARFAETHEDIG I'R GORCHMYNION TRAFFIG MEWN LLEOLIADAU AMRYWIOL O FEWN SIR FYNWY. pdf icon PDF 703 KB

CABINET MEMBER: County Councillor Catrin Maby

 

AUTHORS:

Mark Hand, Head of Placemaking, Highways and Flooding

Graham Kinsella, Traffic and Road Safety Manager

 

CONTACT DETAILS:

 

E-mail: markhand@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Ymatal rhag cynnal ymchwiliad cyhoeddus a chymeradwyo a gweithredu’r Gorchmynion canlynol:

 

Darparu parcio ar gyfer beiciau modur a chartrefi modur i barcio yng Ngorsaf Fysiau’r Fenni;

Gwahardd gyrru ar Stryd Frogmore a Stryd y Llew yn y Fenni;

Cyflwyno maes parcio newydd i’w adeiladu (Cyffordd Twnnel Hafren);

Cynnwys un maes parcio cyfredol i’r atodlen maes parcio  (Maes Parcio Parc Gwledig Rogiet);

Diwygio’r disgrifiad a’r  atodlen ffioedd ar gyfer Maes Parcio Stryd Wyebridge sy’n newydd (yn cael ei adeiladu);

Dileu’r cyfleuster gor-aros ym mhob un o feysydd parcio arhosiad hir sydd yn berchen i’r Cyngor;

Cyflwyno mannau parcio ar gyfer cerbydau trydan a chyfyngiad o aros am 4 awr yn y mannau hyn.  

4.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DERFYNAU CYFLYMDER AR Y B4245 A HEOL CIL-Y-COED, CIL-Y-COED A'R B4293 YN NYFAWDEN pdf icon PDF 2 MB

CABINET MEMBER: County Councillor Catrin Maby

 

AUTHORS:

Mark Hand, Head of Placemaking, Highways and Floodingmarkhand@monmouthshire.gov.uk

            07773478579

 

Graham Kinsella, Traffic and Road Safety Manager

grahamkinsella@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Ymatal rhag cynnal ymchwiliad cyhoeddus a chymeradwyo a  gweithredu’r Gorchmynion arfaethedig:

 

Ail-gyflwyno 30mya ar y rhan o’r ffordd ar y B4245 rhwng Ffordd Woodstock a chylchdro Castlegate, gyda therfyn chyflymder 20mya ar hyd Ysgol Gynradd Durand pan fydd yr ysgol yn agor a chau;

 

Ail-gyflwyno 30mya ar y rhan o’r ffordd ar Heol Cil-y-coed rhwng cylchdro Castlegate a’r bont dros yr hen linell rheilffordd ym Mhorthsgiwed;

 

Ymestyn y terfyn 30mya ar yB4293 yn Nyfawden i gynnwys safle bws a ddefnyddir gan fws yr ysgol.

5.

EIDDO STRYD TUDUR pdf icon PDF 431 KB

CABINET MEMBER: County Councillor Tudor Thomas

 

AUTHOR: Jane Rodgers, Chief Officer Social Care, Safeguarding & Health

 

CONTACT DETAILS:

 

            E-mail: janerodgers@monmouthshire.gov.uk#

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Datgomisiynu Stryd Tudur fel y ganolfan llety ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth dydd i oedolion ag anableddau dysgu yng Ngogledd  Sir Fynwy.

 

Defnyddio Stryd Tudur er mwyn cefnogi amcanion polisi’r Cyngor i ddarparu tai fforddiadwy o fewn y Sir. 

 

Stryd Tudur yn cael ei ystyried  fel tir dros ben a’i drosglwyddo i Wasanaethau Landlordiaid er mwyn cael gwared arno, a hynny ar delerau i’w cytuno gan y Prif Swyddog Adnoddau mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau.