Agenda and minutes

Special Meeting, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol - Dydd Gwener, 19eg Mehefin, 2020 10.00 am

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Trafod ymateb ymgynghoriad i’r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig i Gwricwlwm Cymru: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Mae’r ddogfen berthnasol a ffurflenni ymateb ar gael yma: https://gov.wales/legislative-proposals-religion-values-and-ethics

 

 

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelodau'n ddiolchgar am y nodiadau a ddarparwyd gan Paula Webber i baratoi ar gyfer cwblhau'r ymateb i'r ymgynghoriad mewn perthynas â Chwricwlwm Cymru:  Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.  Cytunwyd y byddai Paula yn drafftio ymateb, yn seiliedig ar y nodiadau yr oedd wedi'u dosbarthu cyn y cyfarfod, ac i ychwanegu'r pwyntiau a godwyd yn y drafodaeth heddiw.  Byddai'r ymateb drafft yn cael ei ystyried yn y cyfarfod cyffredin ar 26ain Mehefin 2020.

 

Ystyriwyd ei bod yn bwysig cwblhau un blwch ar gyfer pob cwestiwn (Cytuno, Anghytuno neu Ddim yn Cytuno nac yn Anghytuno) er mwyn sicrhau bod safbwyntiau'n cael eu cyfrif yn enwedig mewn dadansoddiad cryno rhag ofn y caiff naratif ei ddiystyru.

 

Lleisiwyd y safbwyntiau a'r sylwadau canlynol, a darllenwyd allan sylwadau gan gynrychiolydd athrawon (yn ymwneud â chwestiynau C1, C2 ac C9), nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod:

 

Cwestiwn 1 – Ydych chi'n cytuno y dylai crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) gwmpasu credoau crefyddol ac anghrefyddol sy'n gredoau athronyddol (yn unol â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol) fel y disgrifir yn y ddogfen ymgynghori?

·         Mae’r ddogfen ymgynghori'n aneglur o ran credoau athronyddol - nid yw’n gwestiwn syml.

·         Byddai dysgu ac arweiniad proffesiynol yn hanfodol

·         Mynegwyd pryder ynghylch newid enw i CGM yn groes i farn a fynegwyd gan ymgyngoreion. 

·         Mae'n ymddangos bod y gofyniad ar gyfer addysgu crefyddol ac anghrefyddol fod ar sail gyfartal yn groes i Ddeddf Addysg 1996, Adran 375 (3). Pryder ynghylch gwanhau'r amser a dreulir ar addysg grefyddol.   Pwynt gwahanol oedd bod yn rhaid cynnwys safbwyntiau eraill y byd, gan o bosibl nad oes gan rai plant ffydd.  Cytuno y dylai addysg grefyddol fod yn lluosogaethol, ond heb ddiffiniad clir gallai fynd i bob cyfeiriad a gellir colli ffocws.    Holwyd beth yw ystyr "cwmpasu" yn y cyd-destun hwn.

·         Ni ddylai'r 23 o safbwyntiau a restrir o reidrwydd fod â'r un sylfaen â chrefyddau mawr.

·         Pryder bod y pwynt hwn yn drysu beth yw’r CYSAGau â chynnwys Addysg Grefyddol.

 

Yn dilyn pleidlais, cafwyd penderfyniad mwyafrifol i "Anghytuno" nes bod termau’r ymgynghoriad wedi'u diffinio'n well.

 

Cwestiwn 2 – Ydych chi'n cytuno bod yn rhaid i gynadleddau maes llafur cytûn roi sylw i ganllawiau statudol pan fyddant yn datblygu eu maes llafur cytûn lleol?

·         Nid yw paramedrau'r cwestiwn yn glir e.e. p'un a yw cyfeirio at ganllawiau cwricwlwm statudol neu fframwaith Addysg Grefyddol anstatudol.   Mae angen mwy o ddiffiniad.

·         Os yw CYSAGau ond yn ystyried canllawiau cwricwlwm heb y manylion sydd yn y fframwaith AG, gellid colli sgiliau a chynnwys.

·         Ni chytunwyd bod yn rhaid i'r cynadleddau maes llafur cytûn ystyried canllawiau statudol. Dylai hwn fod yn faes llafur cytûn lleol sy'n cyfeirio at ganllawiau anstatudol er mwyn ystyried barn rhieni, athrawon, llywodraethwyr ac ysgolion yn y cyd-destun lleol ac felly'n llai rhagnodol.

·         I gytuno, dylai ymgyngoreion weld y Bil drafft, y canllawiau statudol a'r fframwaith AG.  Byddai'n rhaid diffinio'r cwestiwn yn well.  Teimlai'r Aelodau nad oeddent yn barod i ateb y cwestiwn felly.

·         Yn gyffredinol, ni fyddai'n disgwyliad bod manylion  ...  view the full Cofnodion text for item 1.

2.

Cadarnhau mai dyddiad y cyfarfod nesaf yw dydd Gwener 26 Mehefin 2020 am 10.00am (presenoldeb o bell drwy Microsoft Teams)