Lleoliad: Innovation House Magor - Room 6 Innovation House Magor
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Etholiad Cadeirydd. Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Sir E.J. Hacket Pain fel Cadeirydd.
Cynbwrw ymlaen â’r cyfarfod, hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod cyn-aelod o’r Pwyllgor wedi darfod. Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor y byddai’n anfon llythyr o gydymdeimlad i’w deulu, ar ran y Pwyllgor.
Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod y Chwaer O’Donnell wedi ymddeol o wasanaethu ar Bwyllgor CYSAG, Ar ran y Pwyllgor, byddai’r Cynghorydd AG yn anfon llythyr at y Chwaer Denise i ddiolch iddi am ei chefnogaeth a’i hymrwymiad i Bwyllgor CYSAG yn ystod ei chyfnod fel Aelod CYSAG.
Ar ran y Pwyllgor, croesawodd y Cadeirydd Mr. Cottrell i’w gyfarfod cyntaf, fel cynrychiolydd newydd yr Eglwys Gatholig.
|
|
Apwyntiad Is-Gadeirydd. Cofnodion: Penodwyd Sue Cavefel Is-gadeirydd.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nidoedd datganiadau o fuddiant gan yr Aelodau.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 102 KB Cofnodion: Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 11eg Mawrth 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd yn amodol ar gynnwys enwau’r cynrychiolwyr ffydd a chynrychiolwyr yr athrawon, gan fod y rhain wedi’u hepgor.
|
|
Diweddariadau ers y cyfarfod diwethaf. Cofnodion: Derbyniasom y diweddariadau canlynol ers y cyfarfod diwethaf:
Nodwyd bod rhai ysgolion wedi profi tri newid ar wahân ym manylebau’r arholiad mewn tair blynedd heb ddigon o amser pontio rhyngddynt.
Penderfynasomfod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gydbwyllgor Addysg Cymru yn gofyn am gyfarfod i drafod y mater hwn ymhellach. Roedd cynrychiolwyr CYSAG Sir Fynwy i gynnwys y Cadeirydd, y Cynghorydd AG, Andrew Jones a Sharon Perry Phillips.
|
|
Cyflwyniad gan Kath Fitter: Diwrnod AG Goetre Fawr. Cofnodion: Cawsomgyflwyniad gan Kath Fitter ynghylch G?yl y Ffyddau a gynhelid yn Ysgol Gynradd Goytre Fawr ym Mawrth 2016.
Hysbyswyd y Pwyllgor o’r canlynol:
• Rhoddwydcyfle i’r plant brofi sawl ffydd a diwylliant gwahanol.
• Roeddpob aelod o’r ysgol wedi cymryd rhan ac yn ychwanegol at athrawon dosbarth, roedd llawer o ymwelwyr wedi cael eu gwahodd i gynrychioli rhychwant eang o ffyddau a rhannu’u gwybodaeth uniongyrchol gyda’r plant.
• Ynystod y dydd gweithiodd y plant mewn grwpiau oedran cymysg gan gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl a gweithgareddau er gwybodaeth..
• Roedd y Diwrnod AG wedi bod yn llwyddiannus iawn a byddai’r ysgol yn ymgymryd â menter o’r fath eto yn y dyfodol.
• Roeddagwedd rhieni i’r Diwrnod AG wedi bod yn gadarnhaol ac yn gefnogol iawn.
• Dywedodd y Cynghorydd AG y byddai’n cyfeirio at y Diwrnod AG yn y Cylchlythyr AG nesaf.
Penderfynasomdderbyn y cyflwyniad a nodi’i gynnwys.
|
|
Diweddariad ar Diwrnod AG yn Ysgol Cil-y-coed i blant Blwyddyn 6. Cofnodion: Cawsomddiweddariad ynghylch y Diwrnod AG a oedd yn cael ei gynnal yn Ysgol Cil-y-coed ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 ar 28ain Mehefin 2016. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Penderfynasomdderbyn y cyflwyniad a nodi’i gynnwys.
|
|
Cofnodion: Derbyniasomgofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 8fed Mawrth 2016. Wrth wneud hynny, nodwyd y byddai canlyniadau Arolwg Bagloriaeth Cymru ar gael yng nghyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru ar 23ain Mehefin 2016.
Penderfynasomdderbyn y cofnodion a nodi’u cynnwys.
|
|
I nodi’r dyddiadau o’r cyfarfodydd yn y dyfodol CCYSGAGauC. Cofnodion: Cynhelircyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru yn Y Rhyl ar 23ain Mehefin 2016.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wediystyried yr enwebiadau i wasanaethu ar Bwyllgor Gweithredol Cymdeithas CYSAGau Cymru, penderfynasom enwebu’r cynrychiolwyr canlynol:
Mary Parry Huw Stephens Mathew Maidment
|
|
Paratoi ar gyfer cynnal CCYSGAGauC ar 17eg Mawrth, 2017. Cofnodion: Cynhaliwydtrafodaethau cychwynnol ynghylch paratoadau CYSAG Sir Fynwy ar gyfer croesawu Cymdeithas CYSAGau Cymru ar 17eg Mawrth 2017. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Penderfynasomdderbyn y wybodaeth a nodi’i chynnwys.
|
|
Adolygiad Cwricwlwm Llywodraeth Cymru Diweddariad Mai 2016. PDF 205 KB Cofnodion: Derbyniasomddiweddariad o Adolygiad Cwricwlwm Llywodraeth Cymru ar gyfer Mai 2016.
Wrthwneud hynny, mynegwyd pryder fod darpariaeth AG yn cael ei chorffori i mewn i faes Dyniaethau Dysgu a Phrofiad.
Penderfynasomfod y Cynghorydd AG yn cyflwyno adroddiad ynghylch y mater hwn yng nghyfarfod nesaf CYSAG.
|
|
Bwletin Newyddion Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol (CYSAGau). Briffiau gwybodaeth gan aelodau i’w cynnwys yn Fwletin Newyddion Haf CYSAGau. Cofnodion:
|
|
Ysgol Gynradd Kymin View. Cofnodion: Tynnwydadroddiad Hunanarfarnu Kymin View yn ôl.
|
|
Ysgol Gynradd Trellech. PDF 319 KB Cofnodion: Derbyniasomadroddiad hunanarfarnu Ysgol Gynradd Trellech. .
Derbynioddyr ysgol raddfa ‘Da’ mewn perthynas â’rholl gwestiynau a amlinellir yn yr adroddiad.
Ystyriwydyr adroddiad i fod yn un o’r adroddiadau hunanarfarnu gorau roedd y Pwyllgor CYSAG wedi’i dderbyn.
Penderfynasom y dylai’r Cynghorydd Addysg Grefyddol ysgrifennu at y Pennaeth i longyfarch yr ysgol ar dderbyn adroddiad hunanarfarnu mor gadarnhaol.
|
|
Ysgol Gynradd Llanfoist. PDF 313 KB Cofnodion: Derbyniasomadroddiad hunanarfarnu Ysgol Gynradd Llan-ffwyst.
Derbynioddyr ysgol raddfa ‘Da’ mewn perthynas â’r holl gwestiynau a amlinellir yn yr adroddiad.
Roeddhwn yn asesiad da iawn a gyflawnwyd gan yr ysgol.
Mewnymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch cyflenwi addysgu AG gan Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, byddai’r Pennaeth Cyflawniad a Chyrhaeddiad yn ymchwilio i’r mater ac yn adrodd nôl mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Penderfynasom y dylai’r Cynghorydd Addysg Grefyddol ysgrifennu at y Pennaeth i longyfarch yr ysgol ar dderbyn adroddiad hunanarfarnu mor gadarnhaol.
|
|
Dyddiadau am gyfarfodydd yn y dyfodol: Cofnodion: Nodwyd y dyddiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor CYSAG:
15fed Tachwedd 2016 am 1.30pm.
10fed Chwefror 2017 am 1.30pm.
16eg Mai 2017 am 1.30pm.
|