Agenda and minutes

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol - Dydd Gwener, 10fed Chwefror, 2017 1.30 pm

Lleoliad: Rooms 6 & 7, Innovation House, Wales 1 Business Park, Magor NP26 3DG

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed datganiad o fuddiant gan yr Aelodau.

 

 

2.

Cofnodion a chamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 113 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 15fed Tachwedd 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd, yn amodol; ar y newidiadau canlynol:

 

  • Roedd Ms. C. Cooper yn bresennol yn y cyfarfod hwn.

 

  • Tudalen 5, Cofnod 8, pwynt bwled 13 – y frawddeg gyntaf i’w newid i ddarllenYsgol Gyfun Trefynwy…’

 

  • Tudalen 5, Cofnod 8, pwynt bwled 14 –y frawddeg gyntaf i’w newid i ddarllenysgolion…’

 

  • Tudalen 5, Cofnod 8, pwynt bwled 15 – y frawddeg gyntaf i’w newid, fel a ganlyn:

 

-       Nododd Ysgol Cil-y-coed bod AG yn cael ei addysgu ar wahân i Fagloriaeth Cymru a’i bod wedi neilltuo amser ym Mlwyddyn 10 ar gyfer darpariaeth AG.

 

Yn codi o’r cofnodion, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae’r Ymgynghorydd AG wedi sefydlu cyfarfodydd rheolaidd gyda Debbie Harteveld a bydd yn ei gwahodd neu gynrychiolydd o’r Gwasanaeth Cyflawniad Addysg (GCA) i Gyfarfod CYSAG yn y dyfodol.

 

  • Mae’r Ymgynghorydd AG wedi bod mewn cysylltiad â phenaethiaid ysgolion cynradd ynghylch darparu hyfforddiant ar gyfer cynrychiolwyr ffydd ac athrawon o gwmpas y themarhannu gweithdai darparwyr ffydd’.

 

  • Bydd Swyddog Gweithredol CCYSAGauC yn cwrdd â Kirsty Williams AC ar 2il Mawrth 2017 i drafod y pryderon gafodd eu codi ynghylch addysgu AG drwy gyfrwng Bagloriaeth Cymru.

 

  • Manyleb Astudiaethau Crefyddol Achrededig CBAC – Nodwyd bod y TGAU newydd yn bwnc hollol academaidd ac nid yw myfyrwyr yn gallu darparu’u hymateb personol. 

 

  • Cyfarwyddyd ar reoli’r hawl i dynnu nôl o Addysg GrefyddolDywedodd yr Ymgynghorydd AG fod y mater hwn yn dal i gael ei drafod a byddai’n adrodd nôl i gyfarfod CYSAG yn y dyfodol.

 

  • Nid oedd Pennaeth Cyflawniad a Chyrhaeddiad yn bresennol yn y cyfarfod ac felly byddai’n adrodd nôl yn y cyfarfod nesaf ar ei monitro o ddarpariaeth AG yn yr ysgolion uwchradd.

 

 

 

 

3.

Diweddariad am ddatblygiad y cwricwlwm:

3a

Dogfen NAPfRE, 'What Is Good RE?' (Diweddariad ar lafar).

Cofnodion:

Hysbysodd yr Ymgynghorydd AG y Pwyllgor fod y Gr?p PYCAG yn gweithio ar bapur i gefnogi Ysgolion Arloesol gyda’r bwriad i ddatblygu’r cwricwlwm AG drwy gyfrwng yr ysgolion hyn. Mae gwybodaeth arbeth yw AG dda?’ wedi cael ei rhannu gyda Manon Jones o Lywodraeth Cymru.

 

Penderfynasom dderbyn y diweddariad ar lafar a nodi’i gynnwys.

 

 

3b

Adroddiad yn dilyn cyfarfod gyda Manon Jones (Llywodraeth Cymru) (Diweddariad ar lafar).

Cofnodion:

Hysbysodd yr Ymgynghorydd AG y Pwyllgor fod sawl cyfarfod wedi’i gynnal gyda Manon Jones.  Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae chwe gweithgor wedi’u sefydlu gyda’r bwriad o edrych ar feysydd dysgu a phrofiad. 

 

  • Roedd cyfarfod wedi’i gynnal ar 18fed a 19eg Ionawr 2017.

 

  • Cynhwysai’r cyfarfod ymarferwyr a staff newydd.

 

  • Cynhelir cyfarfod bob mis dros gyfnod o ddau ddiwrnod.

 

  • Bydd y Gwasanaeth Cyflawniad Addysg (GCA) yn arwain y trafodaethau yn y cyfarfod ym mis Chwefror  2017.

 

  • Erbyn diwedd Mehefin 2017 rhagwelir y bydd nodau ar gyfer maes y dyniaethau wedi’u sefydlu.

 

  • Mae Manon Jones yn bwriadu ffurfio gr?p  cynllunio yn cynnwys cynrychiolwyr o PYCAG, CCYSAGauC, Estyn, a chynrychiolydd o dîm deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, a Manon Jones ei hun, gyda’r bwriad o benderfynu sut i ymgysylltu gyda'r CYSAGau ynghylch elfen AG o’r Dyniaethau ac fel bydd hyn yn gweithio.

 

  • Bydd y gr?p yn anelu at gyfarfod ym Mawrth 2017.

 

  • Bydd darpariaeth AG yn ffurfio rhan o’r rhaglen Dyniaethau ochr yn ochr â Hanes a Daearyddiaeth. Fodd bynnag, gallai darpariaeth AG gael ei symud ar gyfer eu plentyn ar gais rhieni.

 

  • Mynegwyd pryder na fydd darpariaeth AG yr un mor gydradd â darpariaeth Daearyddiaeth a Hanes os na ddarperir darpariaeth AG yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.

 

Penderfynasom:

 

(i)            dderbyn yr adroddiad ar lafar a nodi’i gynnwys;

 

(ii)           dderbyn diweddariad ar gynnydd yn y cyfarfod CYSAG nesaf.

 

 

 

 

 

4.

Manyleb TGAU newydd ar gyfer grant Awdurdod Lleol i gefnogi athrawon pynciau di-graidd gyda manylebau TGAU newydd – datblygiadau cyfredol. pdf icon PDF 91 KB

Cofnodion:

Derbyniasom eitem fwletin wythnosol y GCA.

 

Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Hysbysodd Rhian Davies y Pwyllgor iddi gael ei phenodi gan y GCA fel un o’r Ymarferwyr Arweiniol i ddatblygu cefnogaeth ar gyfer gweithredu’r TGAU newydd mewn Astudiaethau Crefyddol. Yr Ymarferydd Arweiniol arall yw Clare Lane o Addysg Ebwy Fawr ac sydd hefyd yn eistedd ar CYSAG Blaenau Gwent. .

 

  • Mynegwyd pryder i’r cyllid a ddarparwyd, sef swm o £4900, i ddatblygu rhaglen gymorth ar gyfer y TGAUau newydd, wedi’i haneru. Ni fydd y swm hwn yn ddigon i dalu costau athro i fod allan o’r ystafell ddosbarth am 20 niwrnod drwy gydol y flwyddyn.

 

  • Mae angen i’r GCA fod yn ymwybodol o’r mater hwn.

 

  • Bydd Rhian Davies yn darparu diweddariadau pellach ar gynnydd yng nghyfarfodydd CYSAG yn y dyfodol,

 

Penderfynasom dderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys.

 

 

5.

Derbyn a nodi’r cofnodion drafft o’r cyfarfod WASACRE ar y 18fed Tachwedd 2016. pdf icon PDF 329 KB

Cofnodion:

Derbyniasom gofnodion drafft cyfarfod CCYSAGauC dyddiedig 18fed Tachwedd 2016.  Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Bagloriaeth Cymru – Mae problemau arwyddocaol ynghylch darpariaeth AG ym mhob un o’r cyfnodau allweddol, nid yn unig yng  Nghyfnod Allweddol 4.  Mae darpariaeth AG ym mhob cyfnod allweddol yn cael ei gwtogi gyda nifer o ymholiadau mewn perthynas â’r mater hwn yn cael eu gwneud gan yr holl ysgolion yn y sector cynradd ynghyd â’r sector uwchradd.

 

  • Mae Vicky Thomas wedi ysgrifennu at CCYSAGauC ynghylch y mater hwn.

 

  • Mae angen monitro’r mater hwn i asesu fel bydd yn effeithio ysgolion Sir Fynwy.

 

  • Ystyriwyd, o fewn y sector cynradd, bod angen i ddarpariaeth AG gael ei monitro i sicrhau ei bod yn cael ei darparu.

 

  • Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd ynghylch cynnwys cynrychiolydd Dyneiddiaeth ar CYSAG Sir Fynwy, nodwyd bod cysylltiad wedi’i wneud â Chymdeithas Dyneiddwyr Prydain ac fe’i gwahoddid i ymuno â CYSAG fel aelod cyfetholedig. Fodd bynnag, nid oedd y Gymdeithas wedi derbyn y cynnig i ymuno.

 

  • Byddai’r Ymgynghorydd AG yn cysylltu â Chymdeithas Dyneiddwyr Prydain eto ar ôl cyfarfod nesaf CCYSAGauC gan estyn gwahoddiad i un o’i haelodau ymuno â CYSAG Sir Fynwy.

 

  • Bydd y Cadeirydd a’r Ymgynghorydd AG yn cydlynu gyda’r Pennaeth Cyflawniad a Chyrhaeddiad gyda’r bwriad o atgoffa ysgolion o’u gofynion statudol parthed darpariaeth AG.

 

Penderfynasom dderbyn y cofnodion a nodi’u cynnwys.

 

 

6.

Paratoi ar gyfer cynnal WASACRE ar y 3ydd o Fawrth 2017. pdf icon PDF 92 KB

Cofnodion:

Derbyniasom y rhestr wirio paratoadau ar gyfer croesawu CCYSAGauC ar 3ydd Mawrth 2017.  Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Anfonir e-bost atgoffa i Aelodau CYSAG Sir Fynwy yn eu gwahodd i fynychu cyfarfod CCYSAGauC.

 

  • Darperir byrddau arddangos.

 

  • Aelodau CYSAG i ddarparu portread pen a llun ar gyfer yr Ymgynghorydd AG erbyn dydd Gwener 24ain Chwefror 2017.

 

  • Bydd Sharon Perry-Phillips yn darparu cyflwyniad fel rhan o agenda CCYSAGauC.

 

Gofod bwrdd i’w ddarparu ar gyfer cynrychiolwyr ffydd er mwyn arddangos gwybodaeth am eu crefyddau.

 

Penderfynasom dderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys.

 

 

7.

Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gweithredol WASACRE. pdf icon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniasom wybodaeth oddi wrth Ysgrifennydd CCYSAGauC yn gwahodd CYSAGau i wneud enwebiadau i aelodau newydd wasanaethu ar Bwyllgor Gweithredol CCYSAGauC.

 

Hysbysodd yr Ymgynghorydd AG y Pwyllgor y bydd y tair swydd ar gael o Orffennaf 2017, sef:

 

  • Vicky Thomas – Torfaen cyfnod swydd 2014-2017.
  • Gill Vaisey – Sir Fynwy (Cyn Cof ar gyfer CCYSAGauC) cyfnod swydd 2014-2017.
  • Swydd yr Is-gadeirydd.

 

Penderfynasom enwebu Gill Vaisey i wasanaethu ar Bwyllgor Gweithredol CCYSAGauC am dymor arall.

 

 

 

 

8.

Nodi’r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd WASACRE yn y dyfodol.

Cofnodion:

Nodwyd y dyddiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd CCYSAGauC yn y dyfodol:

 

  • Dydd Gwener 3ydd Mawrth 2017 – Swyddfeydd Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Rhadyr, Brynbuga.

 

  • Haf 2017 - Wrecsam.

 

  • Hydref  2017 – Pen-y-bont ar Ogwr.

 

  • Gwanwyn 2018 – Abertawe.

 

 

9.

I dderbyn Bwletin Newyddion Hydref 2016. pdf icon PDF 819 KB

Cofnodion:

Derbyniasom fwletin Newyddion CYSAG ar gyfer Tymor yr Hydref 2016.

 

 

 

10.

Drafftio Bwletin Newyddion SACRE ar gyfer term y Gwanwyn. pdf icon PDF 228 KB

Cofnodion:

Derbyniasom Fwletin Newyddion draft CYSAG ar gyfer gwanwyn 2017.  Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol::

 

  • Gwefan Dyneiddwyr Cymru i’w ychwanegu.

 

  • Cyfres o lyfrau plant wedi’u hysgrifennu gan yr Ymgynghorydd AG oedd y cyntaf i gael eu hachredu ar gyfer y prosiect Deall Cristnogaeth i godi safonau mewn addysgu Cristnogaeth yn yr ysgolion.

 

Penderfynasom dderbyn diweddariad y Bwletin Newydd a nodi’i gynnwys.

 

 

11.

Nodiadau briffio gan aelodau sydd i’w cynnwys ym Mwletin Newyddion nesaf SACRE.

Cofnodion:

Nodwyd y wybodaeth ganlynol oddi wrth gynrychiolwyr ffydd ac athrawon a gynhwysir ym Mwletin Newyddion gwanwyn 2017:

 

  • Bydd cynrychiolydd yr Eglwys Gatholig yn ysgrifennu erthygl i’r Bwletin Newyddion ynghylch encil a fynychodd yn ddiweddar yn Abaty Llantarnam.

 

  • Bydd Simon Oram yn ysgrifennu erthygl i’r Bwletin Newyddion ynghylch y Diwrnod Ffydd a gynhaliwyd yn yr ysgol hon.

 

  • Bydd cynrychiolydd y Ffydd Fwdhaidd yn ysgrifennu erthygl i’r Bwletin Newyddion ynghylch codi arian ar gyfer encil gwledig yn y Gymru wledig.

 

  • Caiff G?yl Hind?aidd Maha Shivaratri ei dathlu ar 24ain Chwefror 2017.

 

  • Rhian Davies, Pennaeth - Mae’i hysgol hi yn ysgol arweiniol ar gyfer Addysg Grefyddol.

 

  • Dathlodd y gymuned Sikh ben-blwydd 350fed geni’r Guru Gobind Singh, y degfed Meistr, yn Ionawr 2017. 

 

  • Adolygiad Thematig Estyn o Gyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 yn 2017 / 2018 i’w ychwanegu i’r Bwletin Newyddion.

 

Penderfynasom dderbyn diweddariad y Bwletin Newydd a nodi’i gynnwys.

 

12.

Nodi'r cynnig ar gyfer Adolygiad Thematig Estyn Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 yn 2017/2018.

Cofnodion:

Hysbysodd yr Ymgynghorydd AG y Pwyllgor bod Estyn yn ymgymryd ag Adolygiad Thematig o Gyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 yn 2017/2018.

 

Mae’r adolygiad yn cynnwys sampl o ysgolion lle mae darpariaeth a safonau AG i gael eu monitro.

 

Penderfynasom dderbyn y diweddariad ar lafar a nodi’i gynnwys.

 

 

13.

Ystyried Amrywiaeth Crefyddol yn Prosiect Ysgolion Cynradd. pdf icon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniasom bapurau ynghylch ymchwil a gyflawnir gan Brifysgol Caerdydd parthed amrywiaeth crefyddol mewn ysgolion cynradd.

 

Wrth wneud hynny, hysbyswyd y Pwyllgor mai’r bwriad yw hyrwyddo darpariaeth AG dda mewn ysgolion. Anfonwyd holiadur i ysgolion ei lenwi yn gofyn am eu safbwyntiau ar yr hyn sydd ei angen i sicrhau darpariaeth AG o ansawdd dda.

 

Cyflwynir drafft cyntaf y pecyn adnoddau fel rhan o weithdy ymgynghori yn ystod digwyddiad seminar y BrifysgolAmrywiaeth Crefyddau mewn Ysgolion Cynradd’, i’w gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd ar ddydd Iau 30ain Mawrth 2017. Gwahoddir holl aelodau CYSAG i fynychu.

 

Penderfynasom dderbyn y papurau a nodi’u cynnwys. 

 

 

14.

Gosod a nodi dyddiadau a lleoliadau'r cyfarfodydd:

Cofnodion:

Cynhelir Cyfarfod nesaf CYSAG yn Nh? Arloesedd, Magwyr, ar ddydd Gwener 9fed Mehefin 2017 am 1.30pm.