Lleoliad: Rooms 6 & 7 Innovation House Magor
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant gan yr Aelodau.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 102 KB Cofnodion: Cadarnhawydcofnodion y cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 10fed Mehefin 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd yn amodol ar y newid canlynol:
Tudalen 5, agenda eitem 13 – Bwletin Newyddion CYSAG, pwynt bwled cyntaf:
Wrthwneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniasomadborth oddi wrth Ysgol Cil-y-coed ynghylch y Diwrnod AG a gynhaliwyd ar 28ain Mehefin 2016.
RoeddAelodau CYSAG yn falch â chanlyniadau’r digwyddiad gan fod nifer o ymatebion cadarnhaol wedi’u derbyn. Roedd disgyblion wedi cymryd rhan ac wedi profi gwahanol weithdai ac roeddent wedi cael cipolwg gwerthfawr ar amrywiol ffyddau.
Rhoesomddiolch i’r Cynghorydd AG, yr athrawon a’r cynrychiolwyr ffydd am eu cyfraniadau.
|
|
Ystyried trefnu digwyddiad hyfforddiant ar gyfer ynrychiolwyr ac athrawon ffydd – gweithdai darparwyr rhannu ffydd. Cofnodion: Cytunasom y byddai’r Cynghorydd AG a’r Pennaeth Cyflawniad a Chyrhaeddiad yn ymgynghori gyda nifer o benaethiaid ysgolion cynradd ynghylch y galw posib am achlysur hyfforddiant i gynrychiolwyr ffydd ac athrawon o gwmpas thema ‘darparu gweithdai rhannu ffydd’,
|
|
Cael cydnabyddiaeth am eich CYSAG. PDF 195 KB Cofnodion: Hysbysodd y Cynghorydd AG yr Aelodau i CYSAG Sir Fynwy gael ei wahodd i wneud cais am Wobr Cynwysoldeb Accord, sy’n ceisio gwobrwyo CYSAGau sy’n gweithio galetaf yn eu hardal tuag at hybu twf cynhwysiant, cydlyniant a chyd-ddealltwriaeth rhwng y rheiny o wahanol grefyddau a chredoau. Roedd y Cadeirydd wedi penderfynu cynnig am y gydnabyddiaeth a byddai’n llanw’r ffurflen gais ar ran y Pwyllgor.
|
|
Coladiad CYSAGau o ymatebion i’r arolwg gan ysgolion (cyflwyniad). PDF 345 KB Cofnodion: Derbyniasomgyflwyniad oddi wrth Gymdeithas CYSAGau Cymru, yn cael ei gyflwyno gan y Cynghorydd AG, ynghylch Bagloriaeth newydd Cymru ac AG. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Derbyniwydymatebion i’r cwestiynau canlynol:
C1. Ers gweithredu Bagloriaeth newydd Cymru, a yw’ch ysgol yn darparu Addysg Grefyddol statudol yn unol â’rMaes Llafur a Gytunwyd yn Lleol ar gyfer AG yng Nghyfnod Allweddol 4?
Dywedodd 10 ysgol ‘Nac ydyw’ (14%). Dywedodd 60 ysgol ‘Ydyw’ (86%).
Darparodd 40 ysgol fanylion i gefnogi’u hateb.
C2. Ers gweithredu Bagloriaeth newydd Cymru, a yw’ch ysgol yn cynnig cymhwyster Addysg Grefyddol TGAU fel un o’r cymwysterau ategol ar gyfer Bagloriaeth Cymru yng Nghyfnod Allweddol 4?
Dywedodd 11 ysgol ‘Nac ydyw’ (16%). Dywedodd 59 ysgol ‘Ydyw’ (84%).
Darparodd 28 ysgol fanylion i gefnogi’u hateb
C2.a) Os mai ‘Ydyw’, a yw cwrs Astudiaethau Crefyddol TGAU yn cael ei addysgu o fewn: a) Amser craidd AG (ar gyfer yr holl ddisgyblion Cyfnod Allweddo), neu b) Dewis yn unig, c) Arall?
Dywedodd 32 ysgol (46%) a) Amser craidd AG. Dywedodd 21 ysgol (30%) b) Dewis yn unig. Dywedodd 11 ysgol (16%) c) Arall.
Darparodd 29 ysgol fanylion i gefnogi’u hateb
C3. A gafodd Bagloriaeth newydd Cymru effaith fwy cadarnhaol / fwy negyddol neu ddim effaith ar AG?
Dywedodd 47 ysgol (67%) ‘Dim effaith’. Dywedodd 11 ysgol (16%) ‘Effaith gadarnhaol’. Dywedodd 12 ysgol (17%) ‘Effaith negyddol’.
Darparodd 1 ysgol fanylion i gefnogi’i hateb
SynnwydAelodau CYSAG gan y ffigurau.
C4. Sut mae Bagloriaeth newydd Cymru wedi cael effaith gadarnhaol ar AG yn eich ysgol?
C5. Sut mae Bagloriaeth newydd Cymru wedi cael effaith negyddol ar AG yn eich ysgol?
20 ymateb negyddol (40%). 28 ymateb cadarnhaol (60%).
C6. A ydych chi angen cefnogaeth gan eich CYSAG lleol?
Dywedodd 8 ysgol (11%) ‘Ydym’. Dywedodd 53 ysgol (76%) ‘Nac ydym’. Ni roddodd 9 ysgol (13%) ateb.
Darparodd 23 ysgol fanylion i gefnogi’u hateb.
Penderfynasomdderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys.
|
|
Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar ddiffyg cydymffurfio ag AG. PDF 248 KB Cofnodion: Derbyniasomlythyr ynghylch cyngor oddi wrth Lywodraeth Cymru i CYSAGau ar ddiffyg cydymffurfio âgofynion AG yng ngoleuni Bagloriaeth newydd Cymru.
Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru mewn cyfarfod Gweithredol Cymdeithas CYSAGau Cymru pa gamau y gellid eu cymryd gan CYSAGau yn nigwyddiad ysgol neu ysgolion o fewn eu Hawdurdod lleol, sydd, o ganlyniad i gymhwyster Bagloriaeth newydd Cymru, ar hyn o bryd heb gwrdd â’ugofyniad statudol ar gyfer Addysg Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 4.
Roedd y cyngor a roddwyd fel a ganlyn:
Penderfynasomdderbyn y wybodaeth a nodi’i chynnwys.
|
|
Y sefyllfa yn ysgolion Sir Fynwy. Cofnodion: Derbyniasomddiweddariad geiriol ar y sefyllfa yn ysgolion Sir Fynwy. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae gan bob un o’r pedair ysgol uwchradd agwedd wahanol at ddarpariaeth AG ochr yn ochr â Bagloriaeth Cymru.
· Mae dwy ysgol ar hyn o bryd yn cydymffurfio’n llawn â’rgofynion i ddarparu AG.
· Nidyw un ysgol yn cydymffurfio’n llawn â’rgofynion statudol i ddarparu AG ar gyfer yr holl ddisgyblion oherwydd bod rhai disgyblion ag AG fel elfen yn unig o Fagloriaeth Cymru.
· Mae un ysgol yn dal yn y broses o benderfynu sut y bydd yn darparu ar gyfer AG ochr yn ochr â Bagloriaeth Cymru.
· Mae rhai ysgolion yn hyderus y gallant gwrdd â’rmesurau gofynnol tra mae eraill yn amheus.
· Mae’rniferoedd sy’n cymryd Cwrs llawn AG TGAU yn uchel.
· Mae’rniferoedd sy’n cymryd Lefel A mewn pynciau sy’n gysylltiedig ag AG yn uchel.
· Mewnun ysgol (Blwyddyn 10) mae dewis i gymryd AG yng Nghyfnod Allweddol 4, yna yng Nghyfnod Allweddol 5, and adolygir y sefyllfa’n flynyddol.
· Mae Bagloriaeth Cymru bellach wedi’i sefydlu.
· Mae rhai ysgolion yn hyderus y byddant yn cwrdd â’rmesurau gofynnol.
· Mae’ngalonogol gweld bod nifer dda yn cymryd AG.
· Mae gofyniad statudol i ddarparu AG i fyny at addysg ôl-ysgol. Mynegwyd pryder y gallai Bagloriaeth Cymru fethu âdarparu darpariaeth AG lawn.
· Mae Ysgol Trefynwy wedi ceisio cefnogi darpariaeth AG drwy’i hymgorffori i mewn i faes llafur Bagloriaeth Cymru ond bu’n anodd cyflawni hyn oherwydd y pwysau a fu ar staff nad ydynt yn broffesiynol sy’n gorfod paratoi myfyrwyr ar gyfer cymhwyster TGAU. Mae’n anodd cyflawni darpariaeth AG lawn yn yr amser sydd ar gael. .
· Roeddyn angenrheidiol cydnabod y sefyllfa y cafodd ysgolion eu hunain ynddi.
· DywedoddPennaeth Cyflawniad a Chyrhaeddiad y byddai’n dwyn nôl y materion a godwyd a’u trafod gyda’r ysgolion dan sylw.
· Mae ysgol Cil-y-coed wedi ymladd i ysgaru darpariaeth AG o Fagloriaeth Cymru ac mae wedi dynodi amser ym Mlwyddyn 10 ar gyfer Darpariaeth AG. Addysgir darpariaeth AG gan arbenigwyr.
Wediderbyn y diweddariad geiriol a’r safbwyntiau a fynegwyd, penderfynasom fod y Cadeirydd a’r Cynghorydd AG yn paratoi llythyr i’w ddangos i aelodau CYSAG cyn ei anfon at Kirsty Williams A.C. Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn amlinellu pryderon Pwyllgor CYSAG. Anfonid copi o’r llythyr i Gymdeithas CYSAGau Cymru yn ogystal.
Penderfynasomdderbyn y diweddariad geiriol a nodi’i gynnwys.
|
|
Manyleb AG achrededig CBAC. PDF 850 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniasomfanyleb Astudiaethau Crefyddol achrededig CBAC sy’n cwrdd âMeini Prawf Cymhwyster TGAU i’w addysgu yng Nghymru o Fedi 2017.
Wrthwneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Cynhwysai’rfanyleb bwyslais trwm ar gysyniadau Cristnogol a diwinyddiaeth. .
· Roeddyn rhy drwm a systematig ac roedd ofn na fyddai’r myfyrwyr yn mwynhau’r cwrs, a allai, yn ei dro, effeithio ar nifer y myfyrwyr yn cymryd y pwnc.
· Byddyn anodd cyflawni drwy gyfrwng cwrs byr AG.
Penderfynasomdderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys a byddwn yn monitro faint fydd yn cymryd y cwrs a chyflawniadau’r disgyblion mewn arholiadau yn y dyfodol. .
|
|
Cofnodion: Hysbyswydni y cynghorwyd gr?p Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol (PYCAG) fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid ar gael i bob Consortium i gefnogi athrawon pynciau di-graidd i weithio gyda’i gilydd i baratoi ar gyfer y manylebau TGAU newydd. .
Dywedodd y Pennaeth Cyflawniad a Chyrhaeddiad y bydd yn dilyn y mater hwn i fyny gyda’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg.
Penderfynasomdderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys.
|
|
Adolygiad Barnwrol o Astudiaethau Crefyddol TGAU yn Lloegr Cofnodion: Derbyniasom y wybodaeth ganlynol:
Wrthwneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Penderfynasomdderbyn y ddogfennaeth a nodi’i chynnwys.
|
|
Derbyn a nodi cofnodion drafft cyfarfod CYSAGau ar 23ain Mehefin 2016. PDF 283 KB Cofnodion: Derbyniasomgofnodion Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 23ain Mehefin 2016. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Cyfarwyddydar reoli’r hawl i dynnu’n ôl o Addysg Grefyddol
Byddai’rcyfarwyddyd yn gymorth i rieni os ydynt wedi tynnu neu’n meddwl am dynnu’u plant yn ôl o ddarpariaeth AG. Mae’r ddogfen wedi bod allan i ymgynghoriad a derbyniwyd ymatebion cadarnhaol. Bu’r gefnogaeth oddi wrth grwpiau ffydd yn dda hefyd. Cyhoeddir y ddogfen a bydd ar gael i’r holl ysgolion.
Penderfynasomdderbyn y cofnodion a nodi’u cynnwys.
|
|
Paratoadau i gynnal cyfarfod CYSAGau ar 3ydd Mawrth, 2017. PDF 93 KB Cofnodion: Derbyniasomrestr wirio’r paratoadau ar gyfer croesawu Cymdeithas CYSAGau Cymru 3ydd Mawrth 2017. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Penderfynasomdderbyn y diweddariad a nodi’i gynnwys. .
|
|
Derbyn Adroddiad Blynyddol drafft 2015 / 2016 (i ddilyn). Cofnodion: Nodwydadroddiad blynyddol drafft 2015/16.
|
|
Ysgol Gyfun Trefynwy. PDF 220 KB Cofnodion: Derbyniasomadroddiad hunanarfarnu Ysgol Gyfun Trefynwy.
Roeddyr ysgol wedi derbyn graddfa ardderchog/dda mewn perthynas â’rcwestiynau allweddol a amlinellir yn yr adroddiad.
Nodwyd bod gwybodaeth Cyfnod Allweddol 5 trwy amryfusedd wedi cael ei hepgor. Byddai’r wybodaeth hon yn cael ei darparu gan Sharon Perry Phillips.
Penderfynasomfod y Cynghorydd AG yn ysgrifennu at y Pennaeth yn llongyfarch yr ysgol ar gynhyrchu adroddiad hunanarfarnu da.
|
|
Ysgol Gynradd Kymin View. PDF 250 KB Cofnodion: Derbyniasomadroddiad hunanarfarnu Ysgol Gyfun Trefynwy.
Roeddyr ysgol wedi derbyn graddfa ardderchog/dda mewn perthynas â’rcwestiynau allweddol a amlinellir yn yr adroddiad.
Nodwyd bod gwybodaeth Cyfnod Allweddol 5 trwy amryfusedd wedi cael ei hepgor. Byddai’r wybodaeth hon yn cael ei darparu gan Sharon Perry Phillips.
Penderfynasomfod y Cynghorydd AG yn ysgrifennu at y Pennaeth yn llongyfarch yr ysgol ar gynhyrchu adroddiad hunanarfarnu da.
|
|
Bwletin Newyddion CYSAG. PDF 393 KB Cofnodion: Derbyniasomffurf ddrafft Bwletin Newyddion Tymor yr Hydref 2016 CYSAG. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Penderfynasomdderbyn diweddariad y Bwletin Newyddion a nodi’i gynnwys.
|
|
Nodi dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd 2016 / 2017: Dydd Gwener 10fed Chwefror 2017. Dydd Mawrth 16eg Mai 2017. Cofnodion: Byddcyfarfodydd nesaf Pwyllgor CYSAG fel a ganlyn::
DyddGwener 10fed Chwefror 2017 am 1.30pm – T? Arloesi, Magwyr.
DyddMawrth 23ain Mai 2017 am 1.30pm – Neuadd y Sir, Rhadyr, Brynbuga.
|