Agenda and minutes

Special, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol - Dydd Mercher, 7fed Chwefror, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau o fuddiant.

 

2.

Cynnig Panel Penodi CYS pdf icon PDF 348 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol yr adroddiad yn absenoldeb y Pennaeth Gwasanaeth, Cyflawniad a Gwasanaethau Estynedig. Y diben oedd edrych eto ar yr adroddiad blaenorol a gymeradwywyd gan CYS ar 4 Hydref 2023 yn sefydlu panel apwyntiadau ar gyfer lleoedd gwag ar CYS.

 

Cynigiodd yr adroddiad dynnu lleoedd gwag ar gyfer cynrychiolwyr athrawon o gylch gorchwyl y panel apwyntiadau a chafodd hynny ei gynnwys drwy gamgymeriad yn yr adroddiad ar 4 Hydref 2023. Mae eisoes broses wedi ei sefydlu lle mae cymdeithasau proffesiynol addysgu yn gwneud enwebiadau ar gyfer swyddi gwag drwy’r Cyd-gr?p Ymgynghori gyda phenodiad gan y Cyngor Llawn. Yn ymarferol, byddai hyn yn cyfyngu cylch gorchwyl y panel apwyntiadau i ystyried enwebiadau ar gyfer lleoedd gwag yn y gr?p ffydd a chredo yn unig.

 

Yn ail, cynigir fod y panel apwyntiadau yn cynnwys Cadeirydd CYS, Is-gadeirydd CYS ac un Aelod etholedig o bob un o’r ddau gr?p gwleidyddol mwyaf sy’n ffurfio’r Cyngor Sir cyfredol. Bydd gan bob Aelod Panel un bleidlais. Os bydd pleidlais glwm, bydd gan Gadeirydd CYS bleidlais fwrw. Bydd gan y panel y p?er i argymell penodi ymgeisydd i CYS. Bydd Cadeirydd CYS yn hysbysu’r Cyngor Llawn am unrhyw argymhelliad o’r fath. Caiff y penderfyniad terfynol i benodi ei wneud gan y Cyngor Llawn.

 

Unwaith y bydd y Cyngor Llawn wedi gwneud penderfyniad i benodi, bydd Cadeirydd CYS yn hysbysu’r ymgeisydd am y canlyniad ac, os y caiff ei benodi, yn gwahodd yr ymgeisydd i gyfarfod nesaf CYS.

 

Gofynnodd Aelod os byddai aelodau presennol CYS yn trosglwyddo eu haelodaeth i’r CYS newydd. Eglurwyd y byddai’r panel penodiadau yn ystyried lleoedd gwael ar sail ad hoc yn unig fel a phan maent yn digwydd. Nid oes unrhyw fwriad i adolygu aelodaeth bresennol CYS ond gellir gwneud hynny maes o law. Nodwyd yn unol ag adroddiad 4 Hydref 2023 y bydd cyfnodau swydd ar CYS yn bedair blynedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am aelodau cyfetholedig i CYS, cadarnhawyd bod y rhain yn lleoedd heb bleidlais ac y cânt eu nodi gan y CYS llawn.

 

Wrth ystyried cynrychiolaeth athrawon, deellir fod y cymdeithasau proffesiynol wedi gwneud rhai enwebiadau. Caiff y rhain eu cyflwyno i’r Cyd-gr?p ac, os yn foddhaol, eu trosglwyddo i’r Cyngor Llawn i’w cadarnhau. Cytunwyd y dylai’r Cyd-gr?p sicrhau y caiff enwebiadau eu rhannu’n gyfartal rhwng yr holl gymdeithasau proffesiynol addysgu i sicrhau cynrychiolaeth gytbwys. Dylai’r Cyd-gr?p hefyd ystyried y dylai cynrychiolwyr fod yn staff cyfredol sy’n gweithio o fewn Sir Fynwy.

 

Yn unol â chynrychiolaeth athrawon, cytunwyd y dylai cynrychiolwyr y gr?p ffydd a chredo gael eu seilio o fwn Sir Fynwy i roi’r ffocws lleol hwnnw.

 

GWEITHREDU: Gofynnwyd i’r Clerc drefnu cyfarfod arbennig ymlaen llaw o’r panel recriwtio i drafod materion ymarferol a sut y bydd y panel yn cyflawni ei gyfrifoldebau.

 

Cymeradwywyd yr adroddiad.

 

3.

Cyfarfod Nesaf: 13eg Mawrth 2024