Agenda and minutes

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol - Dydd Mercher, 19eg Mai, 2021 10.00 am

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cadarnhad o benodiad yr Aelod Cabinet dros Addysg gan Gyngor y Cabinet fel Cadeirydd CYSAG

Cofnodion:

Cadarnhawyd mai’r Cynghorydd Sir P. Pavia, Aelod Cabinet Addysg, yw’r Cadeirydd a benodwyd gan y Cyngor Sir.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn brseennol.

 

3.

Diweddariadau Aelodaeth CYSAG

Cofnodion:

Rhoddodd y Clerc ddiweddariad ar yr aelodaeth fel sy’n dilyn

 

Cynghorwyr Sir:      

Cynghorydd Sir L. Brown:      Wedi symud o fod yn cynrychioli’r Eglwys Fethodistaidd

Cynghorydd Sir T. Thomas   

Cynghorydd Sir  P. Pavia      

Cynghorydd Sir M. Powell (newydd): Penodwyd 12 Mai 2021

Lle gwag (yn flaenorol Cynghorydd Sir A. Webb)     

Lle gwag (yn flaenorol Cynghorydd Sir  J. Watkins)

 

Cynrychiolwyr Ffydd:

Cynrychioli’r Eglwys yng Nghymru (1): Lle gwag (Sharon Randall-Smith i gysylltu

Cynrychioli’r Eglwys Gatholig (1):  A. Szwagrzak     

Cynrychioli Cyngor yr Eglwysi Rhyddion (4) 

·         Lle gwag (Cynghorydd Sir L Brown i wneud trefniadau i lenwi’r lle gwag)   

·         Suzanne Gooding (Eglwys Bresbyteraidd/Eglwys y Bedyddwyr)    

·         Parch J Greaves        

·         Nick Pryor (Byddin yr Iachawdwriaeth)         

Cynrychioli’r Ffydd Baha’i:  Mrs. S. Cave     

Cynrychioli’r Ffydd Bwdhaidd: Ngakpa Namgyal Chatral     

Cynrychioli’r Ffyrdd Hind?aidd: Lle gwag     

Cynrychioli’r Ffydd Iddewig: Lle gwag           

Cynrychioli’r Ffydd Mwslimaidd: Lle gwag    

Cynrychioli’r Ffydd Sikhaidd: Lle gwag         

 

Cynrychioli Cymdeithasau Athrawon (7)  

 

Lle gwag

Mr. N. Jenkins

Lle gwag - Ms. C. Smith: yn awr yn gweithio tu allan i’r sir

Lle gwag posibl - Ms. K. Wilding: ar secondiad

Lle gwag - Ms. K. Christofi: Gormod o ymrwymiadau – hapus i gamu lawr.

Ms. M. Millington        

Mrs. S. Hamar

 

GWEITHREDU: Sharon Randall -Smith i godi mater lleoedd gwag gyda JAG

 

Aelodau Cyfetholedig (2)    

Lle gwag

Lle gwag

 

Ymgynghorydd Addysg Grefyddol

Paula Webber

 

Cynrychioli’r Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc  

Sharon Randall-Smith

 

Mynegwyd pryder am y diffyg amrywiaeth yn y ffyddau a gaiff eu cynrychioli a phenderfynwyd cysylltu â’r Cyngor Rhyng-ffydd i gael cymorth wrth lenwi lleoedd gwag. Cytunwyd y gellid enwebu person ifanc fel Aelod Cyfetholedig drwy’r Fforwm Ieuenctid (gyda sicrwydd asesiad risg diogelu perthnasol). Cytunwyd hefyd i gynnig lle cyfetholedig i’r Cyngor Rhyng-ffydd.

 

CAMAU GWEITHREDU: Y Clerc/Paula Webber i gysylltu â Chyngor Rhyng-ffydd Cymru yng nghyswllt cynrychiolaeth ffydd. Sharon Randall-Smith i wneud trefniadau ar gyfer cynrychiolydd pobl ifanc.

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y GCA

Cofnodion:

Rhoddodd Paula Webber, Cynghorydd Addysg Grefyddol, gyflwyniad i ddiweddaru pawb ar ddatblygiadau ers y cyfarfod blaenorol gan roi sylw i’r dilynol:

·         Datblygu Cwricwlwm ac Asesiad: gwnaed rhai addasiadau yn dilyn derbyn ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r Bil Cwricwlwm ac Asesu yn awr yn gyfraith. Mae’n rhaid i’r maes llafur a gytunwyd gennym roi ystyriaeth i’r Cwricwlwm i Gymru a maes dysgu a phrofiad Dyniaethau. Cylchredwyd y sleidiau’n amlinellu’r prif newidiadau.

·         Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol: Mae EAS wedi dechrau dysgu proffesiynol Uwch Arweinyddiaeth. bydd hyfforddiant Arweinyddiaeth Ganol yn dechrau ar ôl hanner tymor. Trefnwyd cyfarfodydd gyda Phenaethiaid Dyniaethau a Phenaethiaid Crefydd Gwerthoedd a Moeseg (RVE). Mae Paula ar gael i gwrdd gydag ysgolion yn y Sir, hefyd yr arweinwyr cwricwlwm o Rhwydwaith Dysgu Ysgolion ar gyfer datblygu cwricwlwm.

·         Cyllid ar gyfer rhaglen o Ddysgu Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer RVE: Croesawyd y newyddion y rhoddwyd cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol.

·         Fframwaith cefnogi RVE – credir y cafodd y drafft ei gwblhau. Disgwyliwn hysbysiad am drefniadau ymgynghori.

·         Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru: nid oes diweddariad ar gael. Cyflwynwyd ymateb CYSAG a disgwylir y canlyniad.

·         TGAU a Lefel A: cydnabyddir fod athrawon dan bwysau sylweddol wrth gynnal asesiadau ar y ddwy lefel.

·         Rôl CYSAG mewn Monitro a Chefnogi RVE: Disgwylir canllawiau. Cytunwyd y dylai CYSAG drafod y cyfrifoldeb hwn ac yn y cyfamser gofynnwyd am fynediad i’r Hwb ar gyfer aelodau CYSAG sy’n dymuno cael mynediad i adnoddau.

·         Estyn: Holwyd am ddulliau arolygu’r dyfodol a rôl CYSAG. Cytunwyd y dylid gofyn i CYSAG Cymru os oes cynlluniau i gwrdd gydag Estyn. Rhoddwyd diweddariad am newidiadau i arolygu oherwydd y pandemig ac i newidiadau yn y rheoliadau ar gyfer casglu a chofnodi data. Ni fydd arolygiadau yn cynnwys barn a rhoddir enghreifftiau yn y testun o safonau a welwyd. Bydd hunanarfarnu yn allweddol. Dylai CYSAG ei fodloni ei hun am reolaeth ysgolion wrth gyflwyno’r cwricwlwm yn RVE. Fel man cychwyn, byddwn yn gofyn am ddatganiad safle a hwyluswyd gan EAS [GWEITHREDU: SRS].

·         Gweithgor Gweinidogol (cyfraniadau BAME, y gymuned a Cynefin yn y cwricwlwm newydd). Bydd y Cynghorydd Addysg Grefyddol yn canfod os oes dolen ar gael i’r recordiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 51 argymhelliad gyda £500,000 ar gyfer gweithredu yng Nghymru. Rhaid bod dull gweithredu ysgol gyfan a bydd RVE yn ffurfio rhan sylweddol. Mae angen i CYSAG drafod yr hyn y gall ei wneud i gefnogi ysgolion.

·         Podlediadau Dyniaethau EAS: Mae detholiad ar gael yn gyfleus ar wefan EAS.

·         Adnoddau ar gyfer ysgolion: Mae’r adnoddau a argymhellir ar gael i’r Rhwydwaith Rhyng-ffydd (DU). Dylid anfon y ddolen i ysgolion ond gall fod yn rhaid addasu’r cynnwys er mwyn cydymffurfio.

 

Gwnaeth Aelod o’r gr?p y pwyntiau dilynol:

 

·         Gofynnwyd am y sleidiau cyflwyno. 

·         Yng nghyswllt BAME, dywedwyd nas ymgynghorwyd â Grwpiau Ffydd. Cytunwyd fod hwn yn bwynt pwysig. Holwyd os bydd ymgynghoriad tebyg gyda ffydd a chredo. Byddir yn codi’r pwynt hwn gyda CYSAG Cymru.

·         Ar gyfer yr ymgynghoriad ar ddrafft fframwaith RVE, gofynnwyd am i ddolen gael ei chylchredeg at bob aelod.

·         Yng nghyswllt ymgynghoriad Estyn a  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau ategol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Llywodraeth Cymru (mwy o wybodaeth i ddilyn)

Dolenni pellach i Bapurau/Gwybodaeth er gwybodaeth ac ystyriaeth

·         Adnoddau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gan sefydliad Inter Faith Network UK (Blynyddoedd 7 – 9) - wedi’u cynllunio i'w defnyddio yn Lloegr ond gellir eu haddasu i gyd-fynd â chwricwlwm Dyniaethau/Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar lefel eich ysgol. Gweithgaredd Rhyng-Ffydd yn y DU: adnodd athrawon ar gyfer disgyblion uwchradd 11-14 oed - Adnoddau - y sefydliad Inter Faith Network UK

 

 

 

Cofnodion:

Nodwyd y bu oedi yn y dyddiad ymgynghori. Gobeithir y bydd ar gael ar gyfer i ni ei ystyried yn y dyfodol agos. Caiff ei gylchredeg cyn gynted ag y bydd ar gael.

 

Cytunwyd y byddai angen i ni roi ystyriaeth fanwl i’r canllawiau cefnogi RVE a chynigwyd cynnal cyfarfod arbennig (gofynnwyd am gyfarfod wyneb i wyneb). Gofynnwyd i Aelodau ddarllen ac anodi’r ddogfen cyn y cyfarfod.

 

Tanlinellwyd pwysigrwydd ymgynghori ar y canllawiau gan mai hyn yn y pen draw fydd y sail ar gyfer y gynhadledd ar y maes llafur a gytunwyd.

 

6.

Busnes CYSAG Cymru

·          

     i.        Derbyn cofnodion cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar Ddydd Mawrth, 23ain Mawrth, 2021 (ynghlwm)

    ii.        Pleidlais Etholiad Gweithredol CCYSAGauC (papurau i'w hanfon ymlaen pan gânt eu derbyn)

   iii.        Nodi dyddiadau cyfarfodydd CCYSAGauC yn y dyfodol a chadarnhau cynrychiolaeth:

  • Haf – Cyfarfod Microsoft Teams a gynhelir gan CYSAG Powys 16 Mehefin 2021
  • Hydref – Torfaen (i'w gadarnhau)

 

 

Cofnodion:

Bydd Sue Cave a’r Cynghorydd Sir Louise Brown yn mynychu cyfarfod CYSAG Cymru o bell ar 16 Mehefin 2021. Mae un lle arall ar gael felly gofynnwyd am ddatganiadau diddordeb.

 

7.

Cofnodion cyfarfod CYSAG Cymru a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2021 pdf icon PDF 549 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd y cofnodion. Dan ‘Cyflwyniad NAPfRE – Bil Cwricwlwm’ nodwyd y dylai’r ddilynol ddarllen:

 

“Yn y ddeddfwriaeth ar gyfer y ddeddf cydraddoldeb maent yn rhoi eithriad ar gyfer gwahaniaethu yng nghyswllt cyd-destun cynnwys addysg grefyddol sydd angen ei gadw mewn cof”.

 

8.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ddydd Mercher, 24ain Chwefror, 2021 am 10.00am pdf icon PDF 279 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cofnodion.

 

9.

I gadarnhau dyddiad cyfarfod nesaf CYSAG fel yr 20fed Hydref 2021