Agenda and minutes

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol - Dydd Gwener, 13eg Mawrth, 2020 10.00 am

Lleoliad: Room P4 - County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Diweddariad ar aelodaeth CYSAG

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Aelodau CYSAG ac Angela Hill, Ymgynghorydd Dros Dro Addysg Grefyddol i’r cyfarfod. Estynnwyd dymuniadau gorau i Paula Webber, yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol. Estynnodd y Cadeirydd gydymdeimlad diffuant y gr?p i Aelod oherwydd profedigaeth ddiweddar. Croesawyd Neil Jenkins i’r cyfarfod. Mae Neil yn olynu Rhian Davies fel Cynrychiolydd Athrawon.

 

Cyflwynodd y Clerc adroddiad aelodaeth. Cafodd y newidiadau eu crynhoi fel sy’n dilyn:

Cynghorwyr Sir

 

M. Lane Lle Gwag

Hysbyswyd ymddiswyddiad 26/6/19; anfonwyd nodyn atgoffa at Arweinydd y Gr?p 25/02/20

J. Watkins Lle Gwag

Lle yn parhau’n wag; anfonwyd nodyn atgoffa at Arweinydd y Gr?p 25/02/20

Cynrychioli’r Eglwys Gatholig Rufeinig (1)

 

Penodwyd A. Szwagrzak

 

Cynrychioli’r Ffydd Bwdhaidd:

 

Ngakpa Namgyal Chatral

Wrth gyflwyno ymddiheuriadau, mynegwyd pryderon ei bod yn anodd mynychu cyfarfodydd ym Mrynbuga, ac y dylid trefnu dyddiadau cyfarfodydd gyda chymaint o hysbysiad ag sydd modd.

Cynrychioli’r Ffydd Hind?:

 

Lle Gwag

 

Cynrychioli’r Ffydd Iddewig:

 

Lle Gwag

 

Cynrychioli’r Ffydd Mwslimaidd:

 

Lle Gwag

 

Cynrychioli’r Ffyrdd Sikhaidd:

 

Lle Gwag

 

Cynrychioli Cymdeithasau Athrawon (7)

 

Mr A. JonesLle Gwag

Byddir yn edrych am aelod i olynu

Mr. N. Jenkins

Olynu Mrs R. Davies a ymddiswyddodd 11/11/2019

Aelodau Cyfetholedig (2)

 

Mrs K Fitter  Lle Gwag

ymddiswyddodd

Tudor Thomas Lle Gwag

Symud i fod yn gynrychiolydd Cyngor Sir

Ymgynghorydd Addysg Grefyddol

 

Angela Hill

Llanw dros dro drwy EAS

Cynrychioli’r Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc

 

Sharon Randall-Smith

 

 

Wrth adolygu ei aelodaeth, cytunwyd fod yn well gan CYSAG i aelodau fyw yn Sir Fynwy lle’n bosibl. Wrth ystyried y lleoedd gwag ar gyfer cynrychiolwyr cyfetholedig a chynrychiolwyr ffydd, awgrymwyd y gall fod yn werth chweil ymestyn allan i sefydliadau addysgol tebyg i Goleg Gwent a Phrifysgol De Cymru (Casnewydd) gan y gall fod diddordeb gan ddarlithwyr a myfyrwyr. Cafodd Arweinwyr Gr?p eu hatgoffa am y lleoedd gwag i Gynghorwyr Sir. Gofynnir i gynrychiolwyr proffesiynol gyflwyno enwebiadau ar gyfer lle gwag cynrychiolydd athrawon.

 

Nodwyd nad yw Andrew Jones mwyach yn aelod o CYSAG gan greu lle gwag ar gyfer swydd Is-gadeirydd. Gofynnwyd am enwebiadau ac etholwyd Neil Jenkins yn Is-gadeirydd.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2019 pdf icon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2020 gydag un gwelliant:

 

Eitem11, para 3: Dileu “Ni chafodd y pryderon eu rhannu’n gyffredinol”

 

3.

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol CYSAG 2018-2019 pdf icon PDF 644 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2018/19. Diolchwyd i Sharon Randall-Smith am baratoi’r adroddiad.

 

4.

Datblygu’r Cwricwlwm: pdf icon PDF 419 KB

·         Datganiad i’r Wasg y Gweinidog yn dilyn yr ymgynghoriad

·         Ymateb SACRE ar y drafft fframwaith newydd

 

Cofnodion:

Ystyriodd CYSAG gynigion ar gyfer y cwricwlwm i ysgolion yng Nghymru a chyfeiriodd at ymateb datganiad i’r wasg y Gweinidog mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddar ar y pwyntiau allweddol dilynol.

 

           Dileu hawl rhieni i dynnu eu plant o wersi Addysg Grefyddol, a fydd mae’n debyg yn dod i rym pan lansir y cwricwlwm newydd yn 2022

           Caiff enw Addysg Grefyddol ei newid i Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg pan ddaw’r cwricwlwm newydd i rym

 

Ymddangosai fod yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn dangos fod yr ymgyngoreion yn fras o blaid y newidiadau a gynigir.

 

Yng nghyswllt newid enw i Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, mynegwyd peth pryder fod geiriad cwestiynau’r ymgynghoriad yn ymwneud â mynediad i’r cwricwlwm, heb unrhyw gwestiwn ar wahân am yr enw. Dywedwyd na roddodd y Gweinidog unrhyw ystyriaeth i farn grwpiau ffydd ar yr enw a gynigid, gan gytuno’r dewis i ddysgwyr yn lle hynny.

 

Cadarnhawyd nad oes gan CYSAG unrhyw gylch gorchwyl i ystyried y newid i enw Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg tra’n derbyn y gall fod gorgyffwrdd. Bwriad y Gweinidog yw fod myfyrwyr yn cael addysg eang a chytbwys sy’n adlewyrchu cymdeithas. Mae’n rhaid i addysg Grefyddol, Gwerthoedd a Moeseg fod yn wrthrychol, beirniadol a plwrialaethol.

 

Cytunodd CYSAG ar bwysigrwydd hyrwyddo meysydd ar wahân o’r cwricwlwm. Bydd y Gweinidog yn rhoi cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant i athrawon. Dylai CYSAG fonitro beth sydd, ac sy’n dod, ar gael. Gan y caiff Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg eu cynnwys o fewn Dyniaethau, bydd llawer mwy o athrawon heb fod yn arbenigol yn cyflwyno gwersi. Mae’n rhaid i CYSAG gefnogi athrawon o’r fath i gael mynediad i’r hyfforddiant sydd ar gael, a chefnogi ysgolion a thimau arweinyddiaeth. Mynegwyd peth pryder fod athrawon Addysg Grefyddol yn teimlo ar ôl gyda chynllunio a pharatoadau ar gyfer Meysydd Dysgu a Phrofiad Dyniaethol.

 

Mynegwyd sylwadau i gefnogi’r teitl newydd a symud i Feysydd Dysgu a Phrofiad Dyniaethol a’r ymrwymiad i ymagwedd wrthrychol, beirniadol a phlwrialaethol at ddysgu.

 

Holwyd os bydd y Gweinidog yn ymgynghori ar y fframwaith newydd, gan nodi y cafodd y cyfarfod CYSAG Cymru y bwriadwyd ei gynnal ei ganslo oherwydd COVID 19. Adroddwyd y bydd fersiwn a ailategwyd o’r drafft fframwaith ar Addysg Grefyddol ar gael ar gyfer ymgynghoriad i aelodau unigol CYSAG gydag amserlen fer ar gyfer ymatebion. Cytunwyd cynnal cyfarfod arbennig i CYSAG roi mewnbwn i’r ymgynghoriad. Cadarnhawyd y bwriedir gweithredu newidiadau i’r cwricwlwm o fis Medi 2022.

 

Cadarnhawyd bod CYSAG yn gyfrifol am gytuno am y cwricwlwm cywir i ysgolion yn Sir Fynwy. Nid oedd dull gweithredu rhanbarthol yn cael ei ffafrio.

 

 

5.

Monitro Darpariaeth a Safonau pdf icon PDF 340 KB

Adroddiadau Arolygu Ysgolion Sir Fynwy

 

Cofnodion:

Ystyriodd CYSAG yr adroddiadau a gyflwynwyd gan Ysgol Cil-y-coed ac Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Osbaston. Cyflwynir adroddiadau ar gyfer Ysgol Gynradd Goetre Fawr ac Ysgol Gynradd Thornwell yn y cyfarfod nesaf.

 

Roedd y ddau adroddiad, oedd ar gael yn gyfrinachol i aelodau, yn cynnwys llawer o agweddau cadarnhaol yn yn dangos safonau uchel, fel y crynhoir gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol. Bydd pwyntiau datblygu yn ffocws ar gyfer gwella yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad oes gan CYSAG unrhyw rôl ffurfiol wrth fonitro darpariaeth mewn Ysgolion Cymorth Gwirfoddol ond y gall gynnig cefnogaeth, llongyfarchiadau ac yn y blaen. Mae gan CYSAG rôl monitro mewn Ysgolion Rheolaeth Wirfoddol ac ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

 

Eglurwyd ymhellach na fydd unrhyw ymgyfraniad gan CYSAG os oes prolemau mewn Ysgolion Cymorth Gwirfoddol. Byddai ymyriad gan yr Esgobaeth neu Archesgobaeth fel sy’n briodol. Tanlinellwyd fod perthynas dda iawn rhwng yr awdurdod lleol, CYSAG a Chyfarwyddwyr Addysg Esgobaethol. Bydd CYSAG bob amser yn cynnig cefnogaeth i bob ysgol fel sy’n briodol.

 

Cytunwyd y bydd y Cadeirydd a’r Swyddog Addysg i gydnabod deilliannau arolwg yn Ysgol Cil-y-coed ac Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru.

 

 

6.

Busnes CYSAG Cymru pdf icon PDF 394 KB

·         Derbyn a nodi cofnodion cyfarfod CYSAG Cymru a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019

·         Nodi dyddiad cyfarfod nesaf CYSAG Cymru ym Merthyr Tudful ar 17 Mawrth 2020 a chadarnhau cynrychiolwyr

·         Enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gweithredol CYSAG ac Is-gadeirydd CYSAG

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  i.    Derbyniwyd a nodwyd cofnodion CYSAG Cymru a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019.

 

ii.    Nodwyd y cafodd cyfarfod CYSAG Cymru oedd i’w gynnal ym Merthyr ar 17 Mawrth ei ganslo oherwydd COVID 19. Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod y cyfarfod hwnnw i fod i drafod yr ymgynghoriad ar y pryd, diweddariad ar y fframwaith Addysg Grefyddol a’r cwricwlwm. Rhoddwyd peth gwybodaeth am y cymhwyster Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sy’n dyfarnu 2 radd B TGAU i fyfyrwyr. Esboniwyd fod Penaethiaid rhai ysgolion yn ceisio gwneud hyn yn lle Addysg Grefyddol ar CA4. Dywedwyd nad yw’r cymhwyster yn cynnwys y gofynion. Ysgrifennwyd at Brif Swyddogion a chysylltir ag ysgolion maes o law. Awgrymwyd y dylai aelodau ymchwilio manyleb y cwrs. Mae Llywodraeth Cymru a CYSAG Cymru yn cadw golwg ar y sefyllfa.

 

iii.    Enwebwyd Mrs Suzanne Gooding ar gyfer Pwyllgor Gweithredol CYSAG Cymru a Dr Louise Brown i fod yn Is-gadeirydd CYSAG Cymru.

 

7.

Cadarnhau dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol o CYSAG.

Cofnodion:

26 Mehefin 2020 am 10.00am – mewn ysgol gyda chyflwyniad i ddisgyblion

 

13 Tachwedd 2020 am 10.00am - lleoliad