Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Room P3 - County Hall, The Rhadyr, Usk. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Nodi penodiad y Cadeirydd fel yr Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc fel y'i penodwyd gan y Cyngor

Cofnodion:

Nodwyd y penodiad gan y Cyngor o’r Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc i swydd y Cadeirydd, sef y Cynghorydd Sirol R. John.

 

 

2.

Ethol Is-gadeirydd

Cofnodion:

Penodwyd Mr. A. Jones yn Is-gadeirydd

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

4.

I gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019 ac ystyried y materion sy'n codi pdf icon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28ain Mawrth 2019 a'u llofnodi fel bod yn rhai cywir.  Cadarnhawyd bod eitem 9 o'r cofnodion wedi'i hanfon fel yr ymateb i'r Papur Gwyn.

 

 

5.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol.

 

 

6.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am aelodaeth.

Cofnodion:

Darparodd y Clerc ddiweddariad aelodaeth fel a ganlyn:

 

 

Y Cynghorwyr Sirol

Un swydd wag yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Sir J. Watkins

Yr Eglwys Gatholig Rufeinig

Un swydd wag

Cyngor yr Eglwysi Rhyddion

Aelod newydd yn cynrychioli'r Eglwys Fethodistaidd – Dr. L. Brown

Ffydd Hind?aidd

Un swydd wag

Ffydd Iddewig

Un swydd wag

Ffydd Mwslemaidd

Un swydd wag - cafodd Abdul-Azim Ahmed cynnig y sedd.  Yn aros am ymateb.

Ffydd Sîciaeth

Un swydd wag

Cynrychiolydd Athrawon

Mae S. Oram wedi camu lawr oherwydd secondiad ym Mhowys.

Aelodau Cyfetholedig

Un swydd wag

 

Nodwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon at Sefydliad Onyx i ofyn am gymorth i lenwi swyddi gwag y cynrychiolwyr ffydd.  Bydd cyswllt hefyd yn cael ei wneud gyda sefydliad Cytûn.

 

Ceisiwyd arweiniad Llywodraeth Cymru ar gynrychiolaeth Ddyneiddiol ar bwyllgor CYSAG.  Nodwyd nad yw'r mater hwn i CYSAG ei bennu; caiff adroddiad ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Gorffennaf i ddiwygio'r cylch gorchwyl ac i ystyried cynrychiolydd dyneiddiol.

 

Cynhaliwyd trafodaeth ar ddiffinio crefyddau a chredoau.

 

7.

Y diweddaraf ar ddatblygu'r cwricwlwm: Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cwricwlwm drafft ar gyfer Cymru 2022, Meysydd Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau a'r fframwaith ategol ar gyfer Addysg Grefyddol. pdf icon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddwyd bod CYSAGau ledled rhanbarth De-ddwyrain Cymru wedi cytuno i ffurfio gweithgor cydweithredol i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gwricwlwm Cymru 2022. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 19 Gorffennaf. Mae'n bwysig iawn bod barn CYSAGau yn cael eu clywed ar le ac amlygrwydd Addysg Grefyddol o fewn y cwricwlwm, yn enwedig o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Byddai gwahanol safbwyntiau'n cael eu cadw rhwng CYSAGau yn cael eu cofnodi yn yr ymateb cydweithredol. 

 

Y bwriad yw annog cynifer o athrawon â phosibl i gymryd rhan yn y gweithgor hwn a hefyd bod pob CYSAG yn anfon o leiaf un aelod arall.

 

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal y gweithgor hwn ar ddydd Mawrth 9fed Gorffennaf, 10.00am tan 3.00pm.

 

Rhoddwyd diweddariad bod rhai dyddiadau wedi'u trefnu i weithio ar y fframwaith Addysg Grefyddol.  Fe'i cyhoeddir ar ffurf drafft ar gyfer ymgynghori â CYSAGau.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol gyflwyniad ar y Dyniaethau a chytunwyd y bydd yn cael ei ddosbarthu i'r holl Aelodau.

 

 

8.

Monitro Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd

8a

Adroddiadau arholiadau TGAU a TAG (i'w cyflwyno)

Cofnodion:

Derbyniwyd yr adroddiad a gwnaed y sylwadau canlynol:

 

  • Gostyngodd y nifer a oedd yn dilyn y cwrs TGAU llawn o'r flwyddyn flaenorol ond mae'r cyfraddau llwyddo wedi cynyddu.  Nodwyd bod ysgolion a oedd gynt yn cyflwyno carfannau cyfan wedi symud i system opsiynau.  Y flwyddyn nesaf fe ddychwelant at garfannau cyfan a manyleb newydd.  Bydd y fanyleb newydd yn fwy heriol a gellir disgwyl gostyngiad cenedlaethol mewn perfformiad.
  • Roedd y canlyniadau yn Sir Fynwy yn cymharu'n dda â’r GCA a Chymru ac mae'r canlyniadau wedi codi'n sylweddol.
  • Roedd canlyniadau'r cwrs byr yn cymharu'n dda â blynyddoedd blaenorol.
  • Roedd niferoedd Lefel A wedi cynyddu ac nid oedd unrhyw bryderon mawr.  Roedd y canlyniadau uwchlaw perfformiad cenedlaethol a rhanbarthol.

 

</AI9>

<AI10>

 

8b

Adroddiadau Arolygu Estyn (i'w cyflwyno)

Cofnodion:

Ystyriodd CYSAG drosolwg arolygiad Estyn a nododd y bydd Estyn yn awr yn rhoi sylwadau ar ddatblygiad ysbrydol, lle o'r blaen roedd yn aml yn farn ar addoli ar y cyd. Mae Estyn wedi gofyn i NAPFRE am ragor o fanylion i'w helpu i lunio barn.

 

Ni nodwyd unrhyw faterion.  Roedd cyfeiriadau da at ansawdd addoli ar y cyd, gan nodi bod gwasanaethau'n cael eu harwain gan ddisgyblion weithiau a bod cyfleoedd ar gyfer ymwybyddiaeth foesol megis gwrth-fwlio.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth CYSAG ei bod hi'n trefnu bod hyfforddiant ar gael i godi proffil datblygiad ysbrydol ar draws y cwricwlwm.

 

Nodwyd bod y fframwaith arolygu wedi newid ac y bydd mwy o hunanwerthuso.  Mae'r awdurdod lleol yn galw am adroddiadau manylach.  Awgrymwyd bod angen ail-werthuso sut rydym yn adolygu Addysg Grefyddol mewn ysgolion a sut y byddwn yn monitro hyn hefyd.  Bydd atal y cylch arolygu ym 2020 yn rhoi'r cyfle i gynnal adolygiad.

 

Bydd yr awdurdod yn aros i weld y newidiadau o adolygiad Estyn yna ystyried diwygio'r ffurflen hunan-arfarnu.

 

Eglurwyd bod y broses hunan-arfarnu yn cynnwys argymhellion o feysydd i'w datblygu a gellir ychwanegu'r rhain at Gynllun Datblygu'r Ysgol.

 

Awgrymwyd, fel dilyniant i dderbyn adroddiadau arolygu, y gellid danfon llythyron llongyfarch neu lythyron yn cynnig cymorth oddi wrth CYSAG.

 

Gellir gofyn i ysgolion hefyd a ydynt yn barod i rannu'r arferion gorau.  Bydd CYSAG yn trefnu i ymweld ag ysgolion arfer gorau.

 

8c

Adroddiadau Hunan-arfarnu (i'w cyflwyno)

Cofnodion:

Dywedodd un aelod ei bod yn destun pryder gweld bod adroddiad Ysgol Cas-gwent yn nodi wrth fynd ymlaen nad oedd myfyrwyr AS ac nid oedd blwyddyn 9.  Byddai wedi disgwyl gweld rhywfaint o'r opsiynau'n cael eu dewis.  Rhoddwyd diweddariad mai'r adroddiad yw'r un hynaf a gyflwynwyd ac mae llawer wedi digwydd ers ei gyhoeddi.  Mae trafodaeth ar y gweill am y potensial ar gyfer gwaith cydweithredol gydag Ysgol Cil-y-coed. 

 

Cytunwyd y bydd adroddiad hunan-arfarnu Ysgol Cil-y-coed yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

 

 

9.

CCYSAGauC

9a

I dderbyn a nodi cofnodion drafft cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019 pdf icon PDF 371 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar yr 28ain Mawrth 2019.

 

Hysbyswyd CYSAG bod cyfarfod wedi'i gynnal gyda Kevin Palmer (Llywodraeth Cymru, Diwygio'r Cwricwlwm) i edrych ar ddysgu proffesiynol a chyllid ar gyfer Addysg Grefyddol.  Roedd yr ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn bresennol yn y cyfarfod a gobeithiai mai un canlyniad fydd cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon Addysg Grefyddol.

 

 

9b

Ystyried enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith CCYSAGauC pdf icon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ardystiodd CYSAG yr enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gweithredol CCYSAGauC fel: Mark Prevett, Andrew Jones a Matthew Maidment.

 

Cefnogwyd enwebiad Rachel Samuel i swydd yr Is-gadeirydd gan CYSAG.

 

9c

I nodi dyddiadau cyfarfodydd CCYSAGauC y dyfodol: Dydd Gwener 28ain Mehefin 2019 - Bae Colwyn, Conwy.

Cofnodion:

Nodwyd y byddai Paula Webber, Andrew Jones a Dr Louise Brown yn bresennol yn y cyfarfod; y lle dros ben i'w gynnig i Aelodau CYSAG eraill.

 

10.

Bwletin Newyddion CYSAG - i ystyried sesiynau briffio gwybodaeth gan Aelodau i'w cynnwys ym Mwletin Newyddion nesaf CYSAG.

pdf icon PDF 740 KB

Cofnodion:

 Derbyniodd CYSAG gopi o Fwletin Newyddion yr Haf.  Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol at erthygl sydd wedi'i hepgor o'r rhifyn hwn.  Bydd hwn yn cael ei chyhoeddi yn y bwletin nesaf.

 

  • Caiff awduron yr ‘Abergavenny Parables’ eu gofyn i ddarparu erthygl ar gyfer rhifyn yn y dyfodol;
  • Mynegodd Aelod bryder ynghylch y ffaith bod RE: Online ac RE Today yn cynnwys gwybodaeth am gredoau nad ydynt yn grefyddol; ardystiodd Aelodau eraill y wybodaeth a oedd ar gael yn RE Today.
  • Gofynnodd un aelod i Care.org gael ei ychwanegu at y rhestr;
  • Gwnaeth digwyddiad Ysgol Cil-y-coed ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn argraff ar yr aelodau;

 

 

11.

Diweddariad Gohebiaeth

Cofnodion:

 Anfonwyd gwahoddiad i aelodau CYSAG i gynhadledd AREIAC ar y 1af Gorffennaf 2019.

 

Derbyniwyd y ddogfen Archwilio Seciwlariaeth.  Cytunodd Andrew Jones i adolygu'r llyfryn ac adrodd yn ôl ar ei addasrwydd i gael ei gymeradwyo gan CYSAG.

 

Roedd Aelod o'r farn y dylid rhoi llai o bwyslais ar bynciau nad ydynt yn grefyddol er mwyn caniatáu mwy o amser ar gyfer Addysg Grefyddol, gan nodi bod cwricwlwm yr Alban yn cwmpasu prif grefyddau yn bennaf a bod ganddynt lai o gynnwys ar gredoau'r byd.  Awgrymwyd y bydd dyraniad amser yn llai pwysig gan nad yw'r cwricwlwm yn ymestyn i gredoau anghrefyddol, gan fod y rhain eisoes mewn lle.  Nid oedd y pryderon yn cael eu rhannu’n gyffredinol.  Ychwanegwyd mai'r pwyslais o fewn y cwricwlwm newydd fydd y dylai addysgu am farn grefyddol ac anghrefyddol fod yn wrthrychol, beirniadol a lluosol.

 

 

12.

Effeithiolrwydd CYSAG (i gynnwys trafodaeth ar yr argymhellion a wnaed gan Estyn) pdf icon PDF 41 KB

Cofnodion:

Trafododd CYSAG argymhellion yr adroddiad.  Nodwyd bod y GCA yn cyflwyno hyfforddiant ar y Dyniaethau.

 

Gall CYSAG helpu gyda chyngor i ysgolion ar faterion sensitif yn ôl y gofyn a gall ysgolion gael eu cefnogi'n fwy cyffredinol ar faterion addysg grefyddol.  Nodwyd bod rhai rhieni weithiau'n pryderu am ymweld â safleoedd crefyddol, er enghraifft. Gall CYSAG hefyd hwyluso'r broses i ysgolion gwrdd â phobl o grefyddau eraill drwy ddatblygu cysylltiadau.  Cytunwyd y byddai'r ymweliadau a chanllaw ymwelwyr a awgrymwyd yn cael eu hailgyhoeddi i ysgolion ar y ddealltwriaeth nad yw hon yn rhestr gymeradwy.

 

GWEITHREDU (PW): Cytunwyd bod angen gwirio canlyniadau'r arolwg ar gyfer Sir Fynwy ar dynnu allan o addysg grefyddol.

 

13.

Nodi dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd y dyfodol

Cofnodion:

Cytunwyd i bennu cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn ac i'w dosbarthu i Aelodau yn unol â hynny.