Agenda and minutes

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol - Dydd Mercher, 11eg Medi, 2024 3.00 pm

Lleoliad: Room M1 - M1. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cadeirydd, croesawodd yr Is-gadeirydd bawb i’r cyfarfod.

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

3.

I nodi cofnod y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 136 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

4.

Sleidiau hyfforddiant GCA/Consortiwm (gwahanol grefyddau) pdf icon PDF 6 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Aelodau adborth ar yr adnoddau hyfforddiant EAS sydd ar gael ar Hwb. Nododd aelodau fod y casgliad adnoddau yn fan cychwyn ac y bwriedir eu datblygu i fod yn ehangach ac i edrych ar agweddau mwy penodol o grefydd. Mae’r Cynghorydd Addysg Grefyddol yn croesawu pawb sy’n fodlon gweithio i ddatblygu adnoddau yn arbennig brofiadau bywyd o ffydd neu gredo. Gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

·        Dylid newid y cyfeiriad at feganiaeth i ddangos y gall fod yn gred athronyddol heb fod yn grefyddol.

·        Dywedwyd fod y cydbwysedd rhwng y cynnwys ar gyfer rhai mathau o ffydd a chredoau yn anghymesur i eraill. Roedd naws y cynnwys hefyd yn amrywio gan olygu fod rhai mathau o ffydd a chredoau yn ymddangos yn fwy diddorol nag eraill.

·        Gall y sleid sy’n cyfeirio at ganlyniadau’r cyfrifiad yng nghyswllt dim crefydd/Cristnogaeth fod yn gamarweiniol e.e. nid yw’n rheidrwydd fod dim cred grefyddol yn gyfeirio at ddyneiddiaeth a gallai gynnwys amrywiaeth o gredoau.

·        Gall y sleid yn cyfeirio at y cwis cyflym ar y Cyfrifiad fod yn gamarweiniol gan fod Cristnogaeth yn dal i fod yr ymateb mwyaf cyffredin a roddir gan rai sydd â chrefydd.

·        Mae’r adnoddau sydd ar gael mathau o ffydd a chredoau yn gyfyngedig.

·        Awgrymwyd y gellid ychwanegu sleid i amlinellu’r gofynion cyfreithiol ar gyfer addysgu Crefydd Gwerthoedd a Moeseg gyda dolen i’r maes llafur a gytunwyd yn lleol. Trafodwyd y posibilrwydd o ychwanegu sleidiau neu adran ar wahân, pwrpasol i Sir Fynwy, ei hysgolion a’r maes llafur a gytunwyd yn lleol.

·        Awgrymwyd y gellid ychwanegu ardaloedd lleol o bererindod at yr adnoddau Cristnogaeth.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa fod yr adnoddau ar Hwb yn cynnwys fideos e.e. cyfrifon personol o brofiad bywyd nad oeddent wedi eu cylchredeg gyda’r sleidiau. Gwahoddir sylwadau a diwygiadau gan Aelodau a gellir eu hanfon yn uniongyrchol at y Cynghorydd Addysg Grefyddol  (hayley.jones@sewaleseas.org.uk).

 

 

5.

CCYSAGauC

1.    Adroddiad Cynhadledd yr Haf

2.    Busnes Arall CYSAGauC

 

Cofnodion:

Roedd y gynhadledd yn llwyddiannus gyda llawer o fodiwlau ar-lein ar gael. Mae trefniadau mewn llaw i wneud y rhain ar gael yn dilyn y digwyddiad. Roedd ymgysylltu sylweddol gydag athro, sesiwn hynod ar Athroniaeth ar gyfer Plant a phrif siaradwyr diddorol a bydd eu clipiau hefyd ar gael. Yn ychwanegol, dangoswyd clip ffilm hyrwyddo ar gyfer CYSAG Cymru, Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog a Chrefydd Gwerthoedd a Moeseg yng nghynhadledd CYSAG Cymru.

6.

Cyfarfod CYSAGauC yr Hydref:

Cofnodion:

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Sir Fynwy fydd yn lletya cyfarfod yr Hydref o CYSAG Cymru. Caiff ei gynnal yn llwyr ar Zoom a chaiff ei drefnu gan CYSAG Cymru. Gall holl aelodau Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Sir Fynwy fynychu’r cyfarfod.

 

Cytunwyd y gofynnid i rai ysgolion gyfrannu fideo i ddangos peth gwaith. Gall hyn fod ar wedd pytiau byr y gellir eu casglu mewn montage. Caiff hyn ei godi yng nghyfarfod Penaethiaid Ysgolion ar 30 Medi (Sharon Randall-Smith/Cynghorydd Addysg Grefyddol i ddilyn ar hyn).

 

Nodwyd y bydd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc yn rhoi Araith Groeso (Sharon i sicrhau dyddiad addas ym mis Tachwedd).

 

7.

Diweddariad ar Aelodaeth pdf icon PDF 281 KB

Cofnodion:

Dywedodd Sharon Randall-Smith, Pennaeth Cyflawni a Gwasanaethau Estynedig, yr ysgrifennwyd yr adroddiad ar gyfer y Cyngor Lleol ac mae’n disgwyl cyfathrebu ar enwebiad gan un gymdeithas broffesiynol. Hyd yma mae dau enwebiad ar gyfer ysgolion cynradd a dau ar gyfer ysgolion uwchradd. Os na dderbynnir mwy o enwebiadau, caiff y ddau le gwag sydd ar ôl eu cynnig i’r Gr?p Penaethiaid Ysgol Uwchradd a’r Gr?p Penaethiaid Ysgol Cynradd.

 

Atgoffwyd yr aelodau y caiff enwebiadau athrawon gan Gyd-Gr?p Ymgynghori felly nid oes unrhyw ymgyfraniad ffurfiol gan Banel Penodiadau’r Cyngor Ymgynghori Sefydlog.

 

Dywedwyd y bydd yr Eglwys yng Nghymru yn gwneud enwebiad i olynu Rebecca Morteo maes o law.

 

Cadarnhawyd mai dim ond ceisiadau ar gyfer enwebiadau Ffydd a Chredo y mae’r Cyngor Ymgynghori Sefydlog yn eu hystyried, yna gwneir argymhelliad i’r Cyngor Llawn. Gofynnwyd i Sharon Randall-Smith anfon ffurflenni at yr Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig yn gofyn am enwebiadau ar gyfer y gwahanol leoedd gwag.

 

8.

Adroddiad Blynyddol ACA (CGM) pdf icon PDF 544 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd y drafft Adroddiad Blynyddol i aelodau fel y’u paratowyd gan y Cynghorydd Addysg Grefyddol. Cytunwyd y dylai’r adroddiad gynnwys dolen i’r maes llafur a gytunwyd yn lleol. Gwahoddwyd aelodau i adolygu’r adroddiad am gywirdeb am wythnos ac i hysbysu’r Cynghorydd Addysg Grefyddol am unrhyw ychwanegiadau a/neu ddiwygiadau, cyn ei gyfieithu a’i gyhoeddi.

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Addysg Grefyddol am ei gwaith yn paratoi’r adroddiad.

9.

Unrhyw Fater Arall

10.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 18fed Rhagfyr 2024