Agenda and minutes
Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: To view meeting: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/e33c6b8c888f49e1b242deddfb820051
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fe dderbyniom lythyr blynyddol 2018/19 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac adroddiad cwynion, sylwadau a chanmoliaeth Awdurdod Cyfan Y Cyngor Sir 2018/19.
Nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Gall trigolion Sir Fynwy gwyno dros y ffôn, drwy ddefnyddio gwefan y Cyngor Sir, drwy’r Hybiau Cymunedol neu drwy anfon llythyr.
· Mae’r Ombwdsmon wrthi’n sefydlu Awdurdod Safonau Cwynion newydd gyda’r bwriad o greu meincnod ar draws Cymru. Bydd cwynion yn cael eu categoreiddio o dan amryw o benawdau er mwyn mesur sut y mae pob awdurdod yng Nghymru’n perfformio. Bydd gofyn i bob awdurdod ddarparu ystadegau chwarterol ar y cwynion y maent wedi eu derbyn.
· Y model y mae’r Ombwdsmon yn edrych arno yw Awdurdod Safonau Cwynion yr Alban
· Ymdrinnir â chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â phroses statudol ar wahân. Mae dau gam i’r broses hon ac mae angen swyddog ymchwilio allanol ar gyfer yr ail gam. Os yw’r gwyn yn ymwneud â Gwasanaethau Plant, yna mae angen person annibynnol hefyd. O ganlyniad, mae cost ynghlwm â chwynion gwasanaethau cymdeithasol os ydynt yn cyrraedd cam ffurfiol y broses.
· Mae’r Pwyllgor Safonau’n canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â’r cod ymddygiad yn hytrach nag ar gwynion. Cyflwynir data ar gwynion i’r Pwyllgor Archwilio ac i’r Cabinet.
Nodwyd yr adroddiad.
|
|
PANEL DYFARNU DIWEDDAR AR GANLYNIAD CYMRU Cofnodion: Derbyniom Adroddiad Penderfyniad Panel Dyfarnu Cymru ar doriad honedig o’r Cod Ymddygiad gan y Cynghorydd Graham Down.
Nodwyd bod yr achos wedi ei ollwng am nad oedd cwyn wedi ei wneud i’r Ombwdsmon a fyddai wedi ei alluogi i ymchwilio i mewn i’r mater.
Yn dilyn derbyn yr adroddiad, byddai’r Swyddog Monitro’n ysgrifennu at yr Ombwdsman yn gofyn am eglurder gan ofyn a yw’r pwerau newydd yn ein galluogi i fynd ati ar ein liwt ein hunain i ymchwilio i mewn i awdurdodau lleol o ran materion sy’n ymwneud â chod ymddygiad.
|
|
CYNHADLEDD CLERCOD - ADBORTH A THRAFODAETH Cofnodion: Derbyniom adborth o’r Gynhadledd Clercod. Nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Roedd y clerc a fynychodd yn teimlo bod y gynhadledd wedi bod o fudd mawr. Dylai clercod gael eu grymuso er mwyn iddynt deimlo’n hyderus wrth gynghori eu pwyllgorau.
· Mae’r clercod wedi mynegi y byddai mwy o gynadleddau yn y dyfodol o fudd.
· Roedd y rheiny a fynychodd y gynhadledd yn ddiolchgar iawn iddi gael ei chynnal a diolchodd y Pwyllgor Safonau i’r Swyddog Monitro am ei threfnu.
· Codwyd pryderon gan rai clercod yngl?n â faint o fygythiadau a bwlio y maent yn eu wynebu yn eu rôl fel clercod. Materion eraill yn ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol a lefelau o hyfforddiant.
· Dylai clercod sydd wedi profi bwlio gysylltu â’r Swyddog Monitro yn y lle cyntaf. Os nad oes modd delio â’r mater yn y modd yma, bydd angen i’r clerc gysylltu â’r Ombwdsmon.
· Codwyd pryderon yngl?n ag ymwybyddiaeth clercod yngl?n â’r lefelau amrywiol o hyfforddiant sydd ar gael. Un o’r amcanion a ddeilliodd o’r gynhadledd oedd sicrhau bod clercod yn dysgu oddi wrth eu gilydd. Ar y cyfan, nid oedd hyfforddiant yn cael ei gydlynu ond yn hytrach, byddai’r cyfrifoldeb yn syrthio ar gynghorau unigol i drefnu hyfforddiant.
· Awgrymwyd y dylid darparu llyfryn cod ymddygiad i gynghorwyr sir a chynghorwyr cymuned er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth a chadw at safonau.
· Nodwyd na chafodd y gynhadledd ei mynychu gan oddeutu chwarter y cynghorau cymuned. Os yw’r gynhadledd yn cael ei chynnal yn y dyfodol, dylid annog y cynghorau yma i fynychu. Nododd y Swyddog Monitro y byddai cynadleddau’n cael eu sefydlu yn y dyfodol, gan gyfuno ag awdurdodau cyfagos o bosib.
· Daeth i’r amlwg nad oedd unrhyw ganllawiau i gynghorau ar p’unai y dylid sefydlu gwefannau ar gyfer cynghorau unigol.
· O ran cofnodi cyfarfodydd, cyfrifoldeb y cynghorau cymuned yw penderfynu os bydd eu cyfarfodydd yn cael eu cofnodi neu peidio. Pe byddai atgyfeiriad yn cael ei wneud i’r Pwyllgor Safonau, gellid gwneud cais i gael gweld copi o gofnod o gyfarfod pe byddai’r cyngor dan sylw’n cofnodi ei gyfarfodydd.
· Daeth i’r amlwg bod diffyg gwybodaeth ymysg clercod yngl?n â goddefebau ac nad oeddent yn teimlo’n hyderus o ran rhoi arweiniad i gynghorwyr.
· Mae grymuso’r clercod yn hanfodol o ran datrys y broblem hon a phroblemau eraill sy’n ymwneud â’r cyngor. Mae’r Swyddog Monitro’n cynnwys y clerc pan fydd yn delio â mater sydd wedi ei godi gan gynghorydd.
Nodwyd y diweddariad:
|
|
CANLLAW AR ASESU CYFARFODYDD Y CYNGOR Cofnodion: Cafwyd diweddariad ar drafodaeth yngl?n ag asesu ac arsylwi cyfarfodydd y cyngor. Nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae cyfarfodydd yn amrywio’n sylweddol o un Cyngor Cymuned i’r llall. Gall hyd cyfarfodydd amrywio’n sylweddol wrth i fater dan sylw gael ei ystyried mewn manylder neu ei weinyddu’n gyflym.
· Mae’n hanfodol bod clerc a’r cadeirydd yn gwybod yn union beth yw eu rôl ac yn gallu cefnogi’r pwyllgor o ran materion sy’n ymwneud â chod ymddygiad a hyfforddiant er mwyn gallu helpu’r cyngor cymuned i gefnogi’r gymuned leol.
· Mae’n bosib y byddai cael trosolwg o bob un o’r 33 cyngor cymuned a chyngor tref yn Sir Fynwy o fudd wrth geisio deall eu hanghenion.
· Dylai safonau o fewn pob cyngor fod yn uchel ac aros ar y lefel yma.
· Pe byddai ymweliadau arsylwi’n cael eu gwneud i’r 33 cyngor tref a chyngor cymuned, gellid creu adroddiad y gellid ei ddosbarthu i’r cynghorau a fyddai’n amlinellu ymarfer da, mannau y gellid gwella a rhoi gwybodaeth am hyfforddiant sydd ar gael er enghraifft.
· Fel cam cyntaf, gellid cynnal ymweliadau gyda’r bwriad o ddeall yr hyn y mae pob cyngor yn ei wneud. Gellid anfon cais at bob cyngor i holi a fyddent yn fodlon i gynrychiolydd o’r Pwyllgor Safonau ymweld a mynychu un o’u cyfarfodydd yn y dyfodol.
· O’i gymharu ag awdurdodau eraill sydd ag aelodau o’u Pwyllgor Safonau’n ymweld â chynghorau cymuned, mae gan Sir Fynwy nifer sylweddol yn fwy o gynghorau cymuned na’r awdurdodau yma.
· Dylid annog Cynghorwyr Sir i fynychu cyfarfodydd eu cynghorau cymuned os nad ydynt yn gwneud hynny’n barod.
Cytunwyd:
1.
Y byddai’r Swyddog
Monitro’n trafod gyda’r swyddog cyfatebol yng Nghyngor
Dinas Caerdydd a gwneud cais am y canllawiau ar sut y mae eu
Pwyllgor Safonau’n ymgymryd ag ymweliadau arsylwi i
gyfarfodydd ei gynghorau cymuned. Yn y dyfodol, pe byddai’r Swyddog Monitro’n dymuno, gallai ysgrifennu at nifer ddethol o gynghorau tref / cymuned o fewn Sir Fynwy gan egluro bod y Pwyllgor Safonau eisiau gwell dealltwriaeth o sut mae cynghorau’n gweithredu a holi pe byddai’r cynghorau yma’n fodlon i aelod o’r Pwyllgor Safonau fynychu un o’u cyfarfodydd.Mae disgwyl y bydd hyn yn arwain at Bwyllgor Safonau Gwybodus a gallai adeiladu ar gyngor y clerc yn y dyfodol. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Cofnodion: Cadarnhawyd ac arwyddwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y 17eg o Fehefin 2019 gan y Cadeirydd yn ddarostyngedig i’r newidiadau canlynol:
· Roedd Mr. T. Auld a Mr. R. Stow yn bresennol yn y cyfarfod.
· Cael gwared â ‘Cynghorydd Sir’ wrth gyfeirio at yr Aelodau Annibynnol yn y rhestr o’r rheiny sy’n bresennol.
Materion yn codi:
Cofnod 7: Trafodaeth ar gais Goddefeb
· Mae amser penodol wedi ei glustnodi mewn cyfarfodydd Cyngor Tref a Chyngor Cymuned ar gyfer rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd siarad. Nodwyd bod unigolyn wedi cael ei atal rhag siarad mewn cyfarfod cyngor cymuned rai blynyddoedd yn ôl a’i fod wedi cysylltu gyda’r Swyddog Monitro o ganlyniad. Nodwyd mai ar ddisgresiwn y Cadeirydd y gall y cyhoedd siarad ac mae’r amser sydd ar gael yn cael ei wneud yn glir i’r sawl sy’n cael caniatâd i siarad yn y cyfarfod.
· Roedd y ffurflen Oddefiad yn anodd i’w deall ac nid oedd yn hawdd i’w defnyddio. Cytunwyd y byddai fformat y ffurflen yn cael ei diweddaru ar y wefan gan y Swyddog Monitro.
|
|
Cofnodion: Penderfynwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o’r eitem ganlynol ar y sail y byddai gwybodaeth wedi ei eithrio yn cael ei ddatgelu fwy na thebyg.
|
|
DELIO Â CHWYNION CYFNOD CYNNAR Y SWYDDOG MONITRO Cofnodion: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Swyddog Monitro yngl?n a delio gyda chwynion yn y cyfnod cynnar.
Drwy gyfrwng y diweddariad, rhoddwyd diweddariad i’r Pwyllgor Safonau yngl?n â rhai problemau gweithredol sydd wedi codi mewn perthynas â chyngor cymuned. Nodwyd bod y cyngor cymuned bellach mewn sefyllfa well o ran cydbwysedd.
Nodwyd y diweddariad.
|
|
CYFARFOD NESAF I'W GYNNAL AR 16EG RHAGFYR 2019 AM 10AM Cofnodion: Dydd Llun 16eg o Ragfyr 2019 am 10.00am.
|