Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 2ail Tachwedd, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Ystyried adroddiadau gan y Pwyllgorau Dethol (dim)

4.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

4a

Polisi Talu Tai yn ôl Disgresiwn pdf icon PDF 321 KB

Ward/Adran yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben:

 

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i weithredu ei rhaglen o ddiwygio llesiant. Mae gan y rhaglen nifer o amcanion polisi, i annog y rhai ar fudd-daliadau i ganfod gwaith a symud i ffwrdd o ddibynnu ar fudd-daliadau ac ar yr un pryd yn cyfrannu cyfran sylweddol o arbedion tuag at ostyngiadau gwariant cyhoeddus y Llywodraeth

 

Mae'r adroddiad yn crynhoi prif effeithiau'r rhaglen diwygio llesiant yn neilltuol yng nghyswllt gostyngiadau mewn Budd-dal Tai a gallu aelwydydd Sir Fynwy i fforddio eu taliadau rhent. Mae'n cynnwys cyfeiriad at ddiwygio sylweddol pellach, gostwng Cap Budd-daliadau aelwydydd.

 

Mae'r prif liniariad ymarferol a gynigir gan y Cyngor drwy weinyddu Taliadau Tai ar Ddisgresiwn er mwyn cynorthwyo cwsmeriaid i lenwi'r bwlch rhent oherwydd diwygiadau llesiant. Gofynnir i'r Cabinet ystyried y polisi diwygiedig ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn.

 

Awdurr: Richard Davies, Pennaeth Gwasanaethau Rhannu Buddion

 

Manylion Cyswllt: Richard.davies@torfaen.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo'r Polisi Talu Tai yn ôl Disgresiwn a atodir isod ac ailddatgan y meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau.

 

Nodiargymhellion craffu'r Pwyllgor Dethol Oedolion fel y nodir ym mharagraff 4.19 isod.

 

Bod y Cabinet yn dod i wybod am unrhyw ddiffygion cyn gynted â phosib, er mwyn eu hystyried ymhellach.

4b

Gweithgor Cronfa Eglwysi Cymru pdf icon PDF 140 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan

 

Diben:  Diben yr adroddiad yma yw gwneud argymhellion i'r Cabinet ar y Rhestr Ceisiadau ar gyfer ail gyfarfod Gweithgor Cronfa Eglwysi Cymru blwyddyn ariannol 2016/17 a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016.

 

Awdur: David Jarrett, Uwch Gyfrifydd – Cymorth Busnes Cyllid Canolog

 

Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

TY dylid dyfarnu'r grantiau yn ôl amserlen y ceisiadau

4c

Cynllun Ariannol Tymor Canol a Phroses Cyllideb 2017/18 i 2020/21 pdf icon PDF 494 KB

Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Cyfan

 

Diben:

 

Amlygu'r cyd-destun y caiff y Cynllun Ariannol Tymor Canol ei ddatblygu ynddo ar gyfer 2017/18 i 2020/21.

 

Cytuno ar y tybiaethau a ddefnyddir i ddweddaru'r Cynllun Ariannol Tymor Canol a rhoi arwydd cynnar o lefel yr arbedion cyllideb y mae'n rhaid eu canfod.

 

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau gyda'r goblygiadau yn deillio o'r cyhoeddiad darpariaethol ar setliad gan Lywodraeth Cymru.

 

Cytuno ar y broses ar gyfer datblygu'r Cynllun Ariannol Tymor Canol a chyllideb ar gyfer 2017/18.

 

Awdur: Joy Robson - Pennaeth Cyllid

 

Manylion Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y dylid cytuno ar y tybiaethau cyllideb a amlinellir ym mharagraffau 3.19 i 3.21 yn yr adroddiad ac y dylid eu diweddaru yn ystod y broses o gyllidebu pe ddaw gwell gwybodaeth i'r amlwg.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r ymateb ddrafft i Lywodraeth Cymru ar y setliad dros dro.

 

Y dylid mabwysiadu'r broses o gyllidebu fel yr amlinellir ym mharagraff 3.24 gan gynnwys craffu ac ymgynghori ar gyllidebau ar y cyd â Phwyllgorau Dethol, ac ymgynghoriad gyda'r cyhoedd, busnesau, JAG, fforwm cyllideb ysgolion a'r Gr?p Cydraddoldeb ac Amrywiaeth..

4d

Monitro Refeniw a Chyfalaf 2016/17 - Datganiad Rhagolwg All-dro Cyfnod 2 pdf icon PDF 702 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfanl

 

Diben:

 

Diben yr adroddiad hwn yw rhoi gwybodaeth i Aelodau ar sefyllfa rhagolwg all-dro refeniw yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 2 sy'n cynrycholi gwybodaeth ariannol mis 6 ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Caiff yr adroddiad hefyd ei ystyried gan Bwyllgorau Dethol fel rhan o'u cyfrifoldeb yw:

 

·         asesu os yw'r gyllideb yn cael ei monitro'n effeithlon;

·         monitro i ba raddau y caiff cyllidebau eu gwario yn unol â';r gyllideb a gytunwyd a'r fframwaith polisi,

·         herio os yw troswariant neu danwariant arfaethedig yn rhesymol, a

·         monitro cyflawni arbedion effeithiolrwydd neu gynnydd a ragwelir yng nghyswllt  cynigion am arbedion.

 

Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cynorthwyol Cyllid

 

Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Mae'r Cabinet yn nodi ystent y gorwariant ar y datganiad cyfalaf ar gyfer cyfnod 2 o £839,000, gwelliant o £529,000 ar y safle a adroddwyd yn flaenorol yng nghyfnod 1.

 

Mae'r Cabinet yn disgwyl i Brif Swyddogion barhau i adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac ailddyrannu cyllidebau i leihau ystent sefyllfaoedd cydadferol sydd angen adrodd amdanynt o 6 mis ymlaen.

 

Mae'r Cabinet yn gwerthfawrogi ystent y defnydd wrth gefn arfaethedig o ysgolion a disgwyliad y bydd 4 ysgol arall mewn sefyllfa o ddiffyg erbyn diwedd 2016-17.

 

Mae'r Cabinet yn cymeradwyo defnydd â chafeat o gronfeydd wrth gefn i ariannu £318,000 o gostau tribiwnlys cyflogaeth os nad yw cyllideb y Cyngor yn gallu amsugno'r gwariant anarferol hwn dros y 6 mis sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol.

 

Mae'r Cabinet yn ystyried a monitro cyfalaf, gorwariant a thanwariant penodol, ac mae'n bwysig nodi bod y Cabinet yn adnabod y risg sy'n gysylltiedig â gorfod dibynnu ar ddefnydd o dderbynebau cyfalaf ym mlwyddyn y gwerthiant a'r potensial i hyn roi pwysau sylweddol ar refeniw pe ddylai fod oedi gyda'r derbynebau a bod angen benthyg cyllid dros dro.