Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant |
|
Penderfyniad: Nodwyd |
|
DIWALLU ANGHENION LLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR - CYNNIG I DDYNODI SAFLE Rhanbarthau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un
Diben: Darparu diweddariad ar weithrediad y broses o adnabod safle, i ddynodi safle addas i’w ddatblygu, fel safle Sipsiwn a Theithwyr. Mae'r gweithgareddau wedi cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ac arolygon o ymchwiliadau safle ar dir y Cyngor yn Langley Close, Magwyr; Fferm Oakgrove, Porthsgiwed a Fferm Bradbury, Crug.
Awduron: Ian Bakewell – Rheolwr Tai a Chymunedau; Cath Fallon – Pennaeth Datblygu Gwledig, Tai a Phartneriaethau
Manylion Cyswllt: ianbakewell@monmouthshire.gov.uk Cathfallon@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Tynnu Langley Close, Magwyr a Fferm Oakgrove, Porthsgiwed o’r broses dynodi safle yn seiliedig ar dystiolaeth o’r ymgynghoriad cyhoeddus ac arolygon ymchwilio safle, ac oherwydd bod y gofyniad lleiniau wedi gostwng i saith (gweler Paragraffau 3.3.2 a 3.3.3).
Cymeradwyo defnyddio tir yn Fferm Bradbury, Crug (gweler Atodiad 1) ar gyfer y safle Sipsiwn a Theithwyr arfaethedig, i’w ddatblygu a’i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (gweler Paragraff 3.3.4). Bydd y penderfyniad terfynol yn amodol ar ganlyniad y gwaith dylunio cysyniad dangosol sy’n mynd rhagddo a chanfyddiadau ac argymhellion gwaith pellach ar arolwg gwerthuso yng nghyswllt lliniaru s?n.
Bod Fferm Bradbury wedyn yn ffurfio rhan o ymgynghoriad cyhoeddus manwl ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd Adnau lle gall preswylwyr roi sylwadau pellach ar y cynigion i ddyrannu’r tir hwn i ateb angen y Cyngor am dai Sipsiwn a Theithwyr. |
|
DYFODOL HEN GANOLFAN DDYDD TUDOR STREET, Y FENNI Rhanbarthau/Wardiau yr effeithir arnynt: Grofield, Y Fenni
Diben: Ystyried argymhelliad y swyddog yngl?n â dyfodol hen Ganolfan Ddydd My Day My Life yn Stryd Tudor, Y Fenni.
Awduron: Nicholas Keyse – Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Landlord Jane Rodgers - Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol
Manylion Cyswllt: nicholaskeyse@monmouthshire.gov.uk janerodgers@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Datgan cyn Ganolfan Fy Niwrnod Fy Mywyd yn Stryd Tudur, y Fenni yn safle dros ben a’I throsglwyddo I Gwasanaethau Landlordiaid.
Bod Gwasanaethau Landlordiaid yn cytuno ar delerau prydles gyda gr?p cymunedol ‘The Gathering’ am feddiannaeth 12-mis o’r safle yn Stryd Tudur, y Fenni. |