Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 11eg Medi, 2024 4.30 pm

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

DEFNYDDIO ADRAN 106 O DIR N584 AR SAFLE GWYDDONIAETH FFORENSIG CAS-GWENT pdf icon PDF 221 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Cas-gwent gyfan

 

Pwrpas: Cytuno i gynnwys cyllid adran 106 yng nghyllideb gyfalaf 2024/25

 

Awdur: Christian Schmidt, Rheolwr Cynllunio a Phrosiectau Trafnidiaeth Teithwyr

 

Manylion Cyswllt:christianschmidt@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

Cais wedi ei dynnu’n ôl.

 

4.

CANLYNIAD Y CYFNOD GWRTHWYNEBU STATUDOL YNGHYLCH CYNIGION I ADLEOLI A CHYNYDDU CAPASITI YSGOL GYMRAEG Y FENNI pdf icon PDF 336 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Y Fenni

 

Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad yw rhoi canlyniad y cyfnod gwrthwynebu statudol i'r Cabinet ynghylch y cynigion i gynyddu capasiti Ysgol Gymraeg y Fenni i 420 o leoedd drwy ei adleoli i hen safle Ysgol Gynradd Deri View.

 

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno'r adroddiad gwrthwynebu (atodiad 1) i'r Cabinet ac yn gofyn am eu cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â'r cynnig.

 

Awdur: Matt Jones, Rheolwr Uned Mynediad

 

Manylion Cyswllt: matthewdjones@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytuno i fwrw ymlaen â chynigion fel yr ymgynghorwyd arnynt, sef cynyddu capasiti Ysgol Gymraeg y Fenni i 420 o leoedd (ynghyd â 60 lle Meithrin) drwy ei hadleoli i hen safle Ysgol Gynradd Deri View.

 

Cytunwyd y bydd y cynigion uchod yn cael eu gweithredu o’r 1af Medi 2025.

5.

POLISI CLUDIANT O'R CARTREF I'R YSGOL 25-26 ARFAETHEDIG pdf icon PDF 779 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob Un

 

Pwrpas: Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn nodi'r cyfrifoldebau cyfreithiol dros ddarparu cludiant ysgol sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu eu polisi trafnidiaeth yn flynyddol. 

 

I roi canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar i'r Cabinet i'w cynorthwyo i benderfynu a ddylid gweithredu unrhyw un o'r opsiynau yn y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol 25-26.

 

Awdur: Debra Hill-Howells     Pennaeth Datgarboneiddio, Trafnidiaeth a Gwasanaethau Cymorth

 

Manylion Cyswllt:debrahill-howells@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ynghyd â chynnwys yr adroddiad hwn a'r dogfennau ategol.

 

Gweithredu’r canlynol ym Mholisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol 25-26:

• Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r meini prawf cymhwyster pellter statudol o ddwy filltir ar gyfer dysgwyr oed cynradd sy'n mynychu eu hysgol addas neu ddalgylch agosaf.

• Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r meini prawf cymhwyster pellter statudol o dair milltir ar gyfer dysgwyr oed uwchradd sy'n mynychu eu hysgol addas neu ddalgylch agosaf.

• Ehangu cymhwysiad cyllidebau cludiant personol lle mai dyma'r opsiwn mwyaf manteisiol yn economaidd i'r Cyngor. Byddai’r opsiwn hwn yn cael ei weithredu dim ond os yw’r rhieni/gwarcheidwaid yn cytuno â’r cynnig, a bod ganddynt fodd i gludo eu plentyn/plant yn ddyddiol.

 

Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cymunedau a Lleoedd i ddatblygu a/neu ddiwygio'r Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol ac unrhyw ganllawiau ategol i adlewyrchu penderfyniad y Cabinet.

6.

CYNLLUN CYMUNEDOL A CHORFFORAETHOL: FFRAMWAITH MESUR pdf icon PDF 283 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob Un

 

Pwrpas: Cyflwyno diweddariad o'r fframwaith mesur a'r targedau cysylltiedig a ddefnyddir i olrhain a rheoli cyflawni'r amcanion yn y Cynllun Corfforaethol a Chymunedol

 

Awdur(on): Richard Jones, Rheolwr Mewnwelediad Perfformiad a Data

Matthew Gatehouse, Prif Swyddog – Pobl, Perfformiad a Phartneriaethau

 

Manylion Cyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r fframwaith mesur wedi'i ddiweddaru (ynghlwm fel atodiad 1).

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r targedau sydd wedi'u diweddaru (ynghlwm fel atodiad 2).