Skip to Main Content

Agenda and decisions

Lleoliad: Remote Meeting Online

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Due to technical issues we are unable to live stream this meeting. A recording of the meeting is available here: https://youtu.be/yTreKptNilo 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Datganiad oddi wrth y Cynghorydd Sir Peter Fox, Arweinydd y Cyngor

4.

Adroddiad Estyn i mewn i Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol o fewn Cyngor Sir Fynwy pdf icon PDF 225 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt:Pob un

 

Diben:Diben yr adroddiad hwn yw rhoi gwybod i aelodau yngl?n â chanlyniadau adroddiad arolygu Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r gweithrediadau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â’i awgrymiadau.

 

Awdur:Will McLean

 

Manylion Cyswllt: willmclean@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn:

 

i) Derbyn yr adroddiad a gyhoeddwyd ar y 21ain o Ebrill 2020

ii) Nodi’r cryfderau a’r argymhellion o fewn yr adroddiad

iii) Cytuno ar yr amserlenni a’r dulliau arfaethedig ar gyfer cyflawni argymhellion yr adroddiad

 

5.

Gwneud Penderfyniadau mewn perthynas â Chofid 19 pdf icon PDF 125 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt:Pob un

 

Diben:Cyflwynir yr adroddiad hwn er mwyn roi gwybod i Gabinet am yr effaith bod y cyfnod Cofid 19 (CV19) wedi’i gael ar y broses o wneud penderfyniadau o fewn y cyngor ac er mwyn adnabod y camau nesaf.

 

Awdur:Matt Phillips

 

Manylion Cyswllt: matthewphillips@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Nodi bod y Cyfansoddiad yn rhoi awdurdod, mewn rhai amgylchiadau, i benderfyniadau a fyddai fel arfer yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor neu Swyddog Gweithredol, gael eu gwneud gan y Prif Weithredwr, Prif Swyddogion neu Swyddogion Statudol. Nid oes penderfyniadau o’r fath wedi gorfod cael eu gwneud yn ystod y cyfnod CV19.

 

Y bydd MCC yn parhau i ddatblygu ei allu i gynnal cyfarfodydd o bell gyda'r bwriad o gynnal Cyfarfod Llawn o’r Cyngor. Mae’n bosib y bydd angen gwneud gwaith deddfwriaethol pellach er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor Cynllunio a’r Pwyllgorau Trwyddedu a Rheoleiddio, sy’n gyrff sy’n gwneud penderfyniadau, weithredu eto, ac wrth i fusnesau ddod o hyd i gydbwysedd yn ystod y cyfnod CV19 a fydd yn galluogi gwaith dydd i ddydd a gwneud penderfyniadau ddychwelyd, bydd swyddogaethau’r Pwyllgorau Dethol hefyd yn dychwelyd o ganlyniad. Mae’n bosib y gellir cynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol unrhyw bryd yn ystod 2020 a gall yr holl Aelodau sy’n Gadeiryddion, Is-Gadeiryddion, wedi eu penodi i gyrff, cyd-bwyllgorau a swyddi cyffelyb barhau yn y swydd nes Ebrill 2021.

 

6.

Ymateb i'r Coronafeirws: Nodau Strategol pdf icon PDF 154 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt:Pob un

 

Diben: I gynnig trosolwg i’r Cabinet o’r nodau strategol bydd yn bodoli trwy gydol pandemig y Coronafeirws.

 

Awdur: Matthew Gatehouse, Pennaeth Polisi a Llywodraethu

 

Manylion Cyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Adnabod bod cyfnewidiad rhwng yr angen i achub bywydau ac atal ymlediad y firws a chyflawni’r goliau a osodwyd o fewn y Cynllun Corfforaethol.

 

Cymeradwyo’r amcanion strategol a welir ym mharagraff 3.2.

7.

Ymateb i'r Coronafeirws: Rheoli Risg pdf icon PDF 735 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt:Pob un

 

Diben:  I gynnig trosolwg i’r Cabinet o’r trefniadau a osodwyd gan y Cyngor i adnabod, i reoli ac i liniaru risg mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws (COFID-19).

 

I gynnig trosolwg i’r Cabinet o’r risgiau lefel uchel a chanolraddol cyfredol bod y Cyngor yn eu rheoli yn ymwneud â’r ymateb i’r Coronafeirws.

 

Awdur:Frances O’Brien, Prif Swyddog Menter

 

Manylion Cyswllt: francesobrien@monmouthshire.gov.uk

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r trefniadau sydd gan y Cyngor yn eu lle a chytuno bod y risgiau’n cael eu rheoli o ran yr ymateb i bandemig y coronafirws.