Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 6ed Tachwedd, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: To view the meeting: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/b5c99c93a7c84cd3a0787a1efea0be1d 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

CROESONEN S106 CYLLID HAMDDEN ODDI AR Y SAFLE pdf icon PDF 176 KB

Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Maerdy

 

Diben: Cymeradwyo cynnwys cyllid cyfalaf yng Nghyllideb Gyfalaf 2020/21;

Cymeradwyo dyrannu cyllid grant i brosiect tyfu cymunedol.

Awdur: Mike Moran, Cydlynydd Seilwaith Cymunedol

 

Manylion Cyswllt: mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Mae grant o £24,669 (sydd yn cynnwys y grant gwreiddiol o £18,900 a ddynodwyd yn wreiddiol i’r prosiect rhandiroedd ym Mardy) i’w glustnodi i’r Gr?p Tyfu Gofod er mwyn bod yn gyfrifol am fenter tyfu cymunedol yng Nghanolfan Adnoddau Parc Mardy ac mae hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol o’r balans A106 sydd gan y Cyngor o’r safleoedd Fferm Croesonen a’r Ysgol i Fabanod.

3b

TREFYNWY S106 CYLLID HAMDDEN ODDI AR Y SAFLE pdf icon PDF 187 KB

Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob Ward yn Nhrefynwy

 

Diben: Cymeradwyo cynnwys cyllid cyfalaf yng Nghyllideb Gyfalaf 2019/20;

Cymeradwyo dyrannu grantiau o’r cyllid sydd ar gael.

Awdur: Mike Moran, Cydlynydd Seilwaith Cymunedol                             

 

Manylion Cyswllt: mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Mae’r gyllideb o £149,000 wedi ei greu yn 2019/20 er mwyn ariannu’r prosiectau canlynol ac mae hyn wedi ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol  o’r balans A106 sydd gan y Cyngor o’r Cytundeb A106 o ran datblygu’r tir ger Heol Wonastow, Trefynwy;

 

Mae’r grantiau yn y symiau a ddangosir isod wedi eu clustnodi i’r prosiectau canlynol o’r cyllid sydd ar gael:

 

1. Canolfan Hamdden Trefynwy – ail-osod y maes 3G MUGA £40,000

2. Meysydd Tenis Trefynwy £35,000

3. Stondin Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Trefynwy £10,000

4. Rhandiroedd Trefynwy £25,000

5. Maes Chwarae Chippenham Mead   £10,000

6. Man Agored a Man Chwarae Rockfield Central £29,000

 

Cyfanswm  £149,000

 

3c

TREFYNWY S106 CYLLID HAMDDEN ODDI AR Y SAFLE pdf icon PDF 193 KB

Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Goetre Fawr

 

Diben: Cytuno cynnwys cyllid cyfalaf yng Nghyllideb Gyfalaf 2019/20 a 2020/21;

Argymell dyrannu grantiau o’r cyllid sydd ar gael.

Awdur: Mike Moran, Cydlynydd Seilwaith Cymunedol

 

Manylion Cyswllt: mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Bydd cyllideb o £127,191 yn cael ei greu yn 2019/20 er mwyn ariannu’r prosiectau canlynol a bod hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol o’r balans A106 sydd gan y Cyngor o’r Cytundebau A106 sydd yn ymwneud gyda datblygu’r tir i’r de o Lôn yr Ysgol, Penperlleni a’r tir y tu ôl i’r  Pleasant Retreat, Star Road, Goitre (Codau Cyllidol N610 a N565);

 

Mae’r grantiau yn y symiau a ddangosir isod i’w clustnodi i’r saith prosiect canlynol:

 

1. Newidiadau Mewnol i Gapel Ed £20,000

2. Gardd Gymunedol Goitre £5,700

3. Clwb Pêl-droed Goitre  – Cyfarpar Cynnal a Chadw £6,000

4. Cynaliadwyedd Amgylcheddol Ysgol Gynradd Goitre £30,870

5. Sgowtiaid Goitre – Adnoddau Ceufadu £20,658

6. Neuadd Bentref y Sgowitiaid – Addasiadau a Gwelliannau Strwythurol

£29,663

7. Camlesi Trefynwy, Aberhonddu a’r Fenni- Cwch Cymunedol £14,300

 

Cyfanswm  £127,191

 

Bydd y balans A106 o £82,572 sy’n weddill yn cael ei lanlwytho i gyllideb cyfalaf 2020/21 ac yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwella adnoddau hamdden a chwarae Maes Chwarae Goitre. 

3d

GRŴP GWEITHIO CRONFA’R EGLWYS YNG NGHYMRU pdf icon PDF 64 KB

Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un

 

Diben:Diben yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i Gabinet yngl?n ag Amserlen Ceisiadau ar gyfer cyfarfod 5 Gr?p Gweithio Cronfa'r Eglwys yng Nghymru y’i cynhaliwyd ar y 19eg o Fedi 2019 a chyfarfod 6 y’i cynhaliwyd ar y 24ain o Hydref 2019.

 

Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd – Cymorth Busnes Cyllid Canolog

 

Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Roedd y Cynghorydd Sir Councillor Sara Jones wedi datgan buddiant rhagfarnus fel ymgeisydd, wedi gadael y cyfarfod ac nid oedd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth.  

 

Roedd y Cabinet wedi cytuno y dylid dyfarnu’r grantiau yn unol gyda’r atodlen o ymgeiswyr.   

3e

GWELEDIGAETH SIR FYNWY 2040: DATGANIAD TWF AC UCHELGAIS ECONOMAIDD pdf icon PDF 232 KB

Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un

 

Diben: Cyflwyno ‘Gweledigaeth Sir Fynwy 2040: Datganiad Twf ac Uchelgais Economaidd’ drafft yn dilyn casgliad dadansoddiad ‘Economïau’r Dyfodol’ a chyfnod ymgynghori gydag Aelodau a’r gymuned fusnes leol.

 

Diben ‘Gweledigaeth Sir Fynwy 2040: Twf ac Uchelgais Economaidd’ yw gosod yr uchelgais economaidd ar gyfer y sir.  Dilynir y Datganiad gan ‘Strategaeth Twf Busnes a Menter Sir Fynwy’ mwy manwl yn ogystal â Phrosbectws Mewnfuddsoddiadau sy'n cyd-fynd.  Bydd y set o ddogfennau hon yn gweithio ochr yn ochr â’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd, yn nodi safleoedd ac adeiladau cyflogi addas, er mwyn galluogi bod busnesau cyfredol yn tyfu ac i ddenu mewnfuddsoddiad o fusnesau newydd mewn sectorau twf allweddol.  Bydd y CDLl hefyd yn ceisio cynyddu argaeledd safleoedd tai er mwyn cynnig cynhyrchion preswyl gwahanol, i alluogi cyfraddau uwch o swyddi fesul annedd.

 

Awdur: Cath Fallon, Pennaeth Menter ac Animeiddiad Cymunedol

 

Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Roedd y Cynghorwyr Sir S. Jones a P. Fox wedi datgan buddiant personol a rhagfarnus yn sgil y ffaith fod yr adroddiad sydd yn amlygu CDLl yn amlygu eiddo personol fel rhan o setliad newydd posibl.

 

Mae’r Cabinet yn cymeradwyo’r ‘Datganiad Gweledigaeth Sir Fynwy 2040: Twf Economaidd ac Uchelgais’ drafft.