Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: This meeting is available to view online using this link: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/669a208ce16149628878cae9c2ada33c
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
||
Datganiadau o Fuddiant |
||
I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm): |
||
Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt : Pob un
Pwrpas: Yn dilyn penderfyniad y Cabinet i weithredu rhaglen Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio ym Mawrth 2016, a Gorffennaf 2017 mae Menter ieuenctid yn ceisio cymeradwyaeth am arian cyfatebol ychwanegol o gronfa wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio’r Awdurdod ar gyfer 2018-19 ac Ystyriaeth Cyllideb Sylfaenol o 2019-20 i 2022-23. Bydd y cyllid yn galluogi estyn y rhaglen I2A bresennol i Ragfyr 2021 sy’n darparu cymorth addysg a lles gyda’r nod o leihau’r risg o ddod yn NEET (Heb Gyfranogi mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) a’r rhaglen I2W bresennol i Ragfyr 2022 sy’n darparu cymorth ôl 16, ymyrraeth a chyfleoedd cyflogaeth gan ddefnyddio arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE).
Awdur: Hannah Jones, Rheolwr Menter Ieuenctid CSF
Manylion Cyswllt: hannahjones@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Wedi’i ohirio.
|
||
ARDAL CHWARAE CHIPPENHAM, TREFYNWY PDF 130 KB Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Wardiau Trefynwy
Pwrpas:Cytuno lleoliad ac adnewyddu’r ardal chwarae yn Chippenham Mead.
Awdur: Mike Moran, Cydgysylltydd Seilwaith Cymunedol
ManylionCyswllt: mikemoran@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r ardal a ddangosir ar y cynllun sydd ynghlwm yn Atodiad B fel y lleoliad a ffafrir ar gyfer ailddatblygu man chwarae Chippenham Mead a'i fod yn mynd rhagddo i gyflwyno ceisiadau am ganiatâd cynllunio a chydsyniad lawnt y pentref i alluogi'r prosiect i fynd rhagddo;
Os a phan roddir caniatâd cynllunio a chydsyniad lawnt y pentref, bydd y Cyngor yn gweithio mewn ymgynghoriad â phartïon â diddordeb yn yr ardal ar gynllun manwl a chynnwys yr ardal chwarae sydd wedi'i hadnewyddu er mwyn sicrhau y darperir amgylchedd diogel, cynhwysol a man chwarae sefydlog cyffrous ar Chippenham Mead.
|
||
THEATR BWRDEISTREF Y FENNI PDF 284 KB
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn ystyried y dadansoddiad o'r sefyllfa ac arfarniad o'r opsiynau ac yn cymeradwyo bod y cynnig i recriwtio Rheolwr Theatr cyfnod penodol, llawn amser, gyda Goruchwylwyr Blaen y T? cynorthwyol, yn cael ei ariannu o fewn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig cymeradwy, er mwyn rhoi'r Theatr ar sylfaen fwy sefydlog a phennu dyfodol tymor canolig/hwy i'r Theatr.
Bod y Cabinet yn cymeradwyo datblygu Siartr neu Goncordat ffurfiol sy'n gweithredu dros y fwrdeistref (A4B), sef hen Bwyllgor Rheoli Theatr y Fwrdeistref.
|
||
CAMAU NESAF - DIGWYDDIADAU A PHROSIECTAU ARBENNIG PDF 395 KB
.gov.uk Penderfyniad: Ystyried y dewisiadau a'r blaengynllun ar gyfer Digwyddiadau a chymeradwyo'r argymhellion i weithredu dull 'Hybrid' a fydd yn rhoi'r Tîm Digwyddiadau a Phrosiectau Arbennig ar sylfaen strategol a sefydlog.
Bod swyddogion yn dychwelyd i'r Cabinet gyda diweddariad 12 mis ar y rhaglen ddigwyddiadau.
|
||
Strategaeth Fasnachol PDF 74 KB Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth Strategaeth Fasnachol gyntaf y Cyngor a’r camau gweithredu a’r cynllun sy’n mynd gydag ef. Mae’r strategaeth yn adeiladu ar agweddau o ‘r strategaethau Caffael, Digidol a Rheoli ac mae’n gyfrwng allweddol drwy ba un y gall y Cyngor chwarae rôl yn hunan-benderfyniad ei hyfywedd a’i gynaliadwyedd yn y dyfodol.
Awdur: Peter Davies – Prif Swyddog Adnoddau Debra Hill-Howells - Pennaeth Gwasanaethau Landlordiaid a Gwasanaethau Masnachol
Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk; DebraHill-Howells@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cabinet yn ystyried y strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu i'w cymeradwyo.
|
||
STRATEGAETH DDIGIDOL PDF 76 KB Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad yw cyflwyno er cymeradwyaeth y Strategaeth Ddigidol a’r cynllun gweithredu ar gyfer 2018/21.
Awdur: Sian Hayward – Pennaeth Gwasanaethau Digidol
Cyswllt: sianhayward@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn ystyried y strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu i'w cymeradwyo.
|
||
Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno ailadroddiad o Strategaeth Pobl y Cyngor a’rcynllun gweithredu sy’n mynd gyda’r strategaeth.
Ceisiocymeradwyaeth i’r strategaeth fel y prif gyfrwng o sicrhau y cefnogir ein pobl a’n sefydliadau ac y galluogir hwy i ddatrys heriau sy’n hynod gymhleth a sicrhau gwelliant parhaus.
Awdur:Tracey Harry – Pennaeth Gwasanaethau Pobl a Rheoli Gwybodaeth
Cyswllt:traceyharry@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cabinet yn ystyried y Strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu i'w cymeradwyo fel ein fframwaith cyffredinol ar gyfer Pobl a Datblygu Sefydliadol. I gefnogi ei rôl o ran sicrhau bod gan y sefydliad y capasiti, y gallu a'r meddylfryd cyfunol i gyflawni heriau ariannol a gwella ac ymateb i gyfleoedd sy'n ymddangos.
|
||
Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno’r ailadroddiad nesaf o Strategaeth Gaffael y Cyngor a’r cynllun gweithredu sy’n mynd gyda’r strategaeth. Mae’r Strategaeth yn adeiladu ar sesiynau gweithdai a fynychwyd gan y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu a’r nodau, y dyheadau a’r blaenoriaethau ar gyfer caffael, a adwaenir drwy’r broses gyfranogol.
Awdur:Peter Davies – Prif Swyddog Adnoddau Debra Hill-Howells – Pennaeth Gwasanaethau Landlordiaid a Gwasanaethau Masnachol
Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk DebraHill-Howells@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cabinet yn ystyried y strategaeth ddrafft a'r cynllun gweithredu i'w cymeradwyo.
|
||
DATGANIAD ALLDRO MONITRO REFENIW A CHYFALAF 2018/19 Isadrannau/wardiau yr Effeithir arnynt :Pob un
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoddi i’r Aelodau wybodaeth ar sefyllfa alldro refeniw a chyfalaf yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod cofnodi 1 sy’n cynrychioli’r sefyllfa ariannol alldro ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 yn seiliedig ar weithgareddau sy’n cynnwys mis Mai.
Caiffyr adroddiad hwn hefyd ei ystyried gan Bwyllgorau Dethol fel rhan o’u cyfrifoldebau i:
• asesu a yw monitro effeithiol o’r gyllideb yn digwydd, • fonitro’rgraddau y mae cyllidebau’n cael eu gwario yn unol â’rgyllideb a’r fframwaith polisi a gytunwyd; • heriorhesymoldeb gorwariant a thanwariant cynlluniedig, a • monitrocyflawni enillion effeithlonrwydd disgwyliedig neu gynnydd mewn perthynas âchynigion i arbed.
Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol
Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod yr Aelodau'n ystyried y gorwariant refeniw net o £471,000 a rhagwelwyd.
Bod Aelodau'n ystyried gwariant alldro cyfalaf o £35.7 miliwn, sy'n unol â darpariaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn, ar ôl y llithriant arfaethedig o £75,000. Mae hyn yn disgrifio'r sefyllfa o ran mantoli'r gyllideb yn gynnar yn y flwyddyn, er bod posibilrwydd o gostau ychwanegol i ysgolion yr 21ain ganrif o ran dileu mwy o asbestos a chostau trin nas rhagwelwyd, y mae cydweithwyr yn nodi gall fod gwerth tua £350,000.
Bod Cabinet yn ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn a gynigir ym mharagraff 3.8.1,
Bod Aelodau'n nodi y bydd y lefel isel o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn lleihau’n sylweddol hyblygrwydd y Cyngor i gwrdd â her adnoddau prin yn y dyfodol.
Bod Aelodau'n nodi graddau'r symudiadau mewn cyllidebau unigol a gyllidebwyd ar gyfer balansau ysgolion, ac yn cydnabod diffyg rhagamcanol net a gofnodwyd o £622 mil sy’n ganlyniad i hynny, a chefnogi diwygiadau i Reoliadau Ariannu Tecach Cyngor Sir Fynwy fel y'u disgrifir ym mharagraff 3.8.13 ar gyfer ymgysylltu pellach â fforymau ysgolion a chyrff llywodraethu.
|