Agenda and decisions

Special, Cabinet - Dydd Mercher, 28ain Chwefror, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: This meeting is available to watch online at: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/0f56c90c055d468a8fb83394cbb6fe13/en-US/ 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2018/19 - Cynigion Terfynol yn dilyn ymgynghori cyhoeddus pdf icon PDF 2 MB

Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Cabinet ynghylch yr ymatebion i’r ymgynghori ar gynigion y gyllideb a gyflwynwyd ganddynt hwy ar 22ain Tachwedd mewn perthynas â’r cyllidebau Cyfalaf a Refeniw.

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch y goblygiadau’n codi o gyhoeddi’r Setliad Terfynol gan Lywodraeth Cymru.

Gwneud argymhellion i’r Cyngor ar y cyllidebau Cyfalaf a Refeniw a lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2018/19.

Derbyn cyfrifiadau Dangosydd Darbodus y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar gyfer ariannu cyfalaf.

Derbynadroddiad statudol y Swyddog Ariannol Cyfrifol  ar broses y gyllideb a digonolrwydd cronfeydd wrth gefn..

 

Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Dros Dro

 

ManylionCyswllt:

markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghori ac yn argymell i’r Cyngor:

 

·       Y gyllideb refeniw ar gyfer 2018/19 fel yr atodir yn Atodiad I.

·       Y rhaglen gyfalaf 2018/19 i 2021/22 fel yr atodir yn  Atodiad J1.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo blaen argymhelliad i'r Cyngor i newidiadau yn y rhaglen gyfalaf y tynnir sylw ati ym mharagraff 3.17 isod, ac yn benodol i ganiatáu i gyfraniad o £ 1.487m gael ei dalu o'r rhaglen gyfalaf bresennol cyn diwedd 2017-18.

 

Bod  cynnydd  o 4.95% yn y dreth gyngor gyfwerth â band "D" ar gyfer y Sir yn parhau i gael ei ddefnyddio fel y dybiaeth gynllunio yn y model cyllidebol a chymhwyso at bwrpasau sirol yn 2018/19.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo ailgyfeirio £155,000 o arian wrth gefn wedi'i glustnodi o gronfa Gydraddoli'r Trysorlys i'r gronfa Fuddsoddi Flaenoriaethol i  alluogi blaenoriaethau polisi yn y dyfodol.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynigion cynilo angenrheidiol, yn nodi'r symudiadau a ragwelir mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi yn ystod 2018/19 gan arwain at ragolwg balans wrth gefn wedi'i glustnodi o £4,950,000 ar ddiwedd 2018/19.

 

Bod y Cabinet yn argymell y Cyngor i waredu'r asedau a nodwyd yn y papur cefndir eithriedig ar ei werth gorau.

 

Bod y Cabinet yn ystyried adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar gadernid proses y gyllideb a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn a gyhoeddwyd o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003.

 

Bod y Cabinet yn mabwysiadu adroddiad y Swyddog ar Ddangosyddion Darbodus.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r canlynol:

:

 

Bod gwaith pellach yn cael ei gyflawni i ddatblygu Cynllun Ariannol Tymor Canolig cytbwys (CATC) dros y cyfnod o 3 blynedd o 2019/20 i 2021/22.

·       Bod y CATC yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau’n gyfredol.

 

3b

Theatr y Fwrdeistref, Y Fenni pdf icon PDF 143 KB

Is-adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

 

Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i dderbyn ildio'r brydles rhwng Cyngor Sir Fynwy ac Ymddiriedolaeth Theatr y Fwrdeistref, dyddiedig Hydref 2013, a drosglwyddodd fuddiant llesddaliadol Theatr y Fenni i Ymddiriedolaeth newydd Theatr y Fwrdeistref sydd newydd gael ei ffurfio. Wrth wneud hynny, cydnabod bod y Cytundeb Rheoli a wnaethpwyd gan y ddau barti yn dod i ben ac y bydd Theatr y Fenni yn dychwelyd i berchnogaeth a rheolaeth Cyngor Sir Fynwy. Mae Ymddiriedolaeth Theatr y Fwrdeistref yn cytuno â'r cam gweithredu hwn a bydd yn peidio â gweithredu ac yn ceisio dadgofrestru ei hun ar ddiwedd y trosglwyddiad hwn.

 

Bydd y Cyngor yn adolygu holl weithrediadau Theatr y Fenni yn y chwe mis nesaf ac yn cyflwyno gwerthusiad opsiynau fel adroddiad dilynol i'r Cabinet ar gyfer dyfodol tymor canolig y Theatr. Ni chaiff unrhyw opsiynau eu dwyn ymlaen i'w hystyried sy'n rhagori ar yr adnoddau sydd ar gael o fewn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig a gymeradwywyd.

 

Awdur: Kellie Beirne, Dirprwy Brif Weithredwr

 

Manylion Cyswllt : kelliebeirne@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

 

 

Cytuno i derfynu prydles y Cyngor ar unwaith ac o ganlyniad ei Gytundeb Rheoli gydag Ymddiriedolaeth Theatr y Fwrdeistref ar gyfer Theatr y Fenni.

 

Wrth gytuno 2.1, esgusodi holl Ymddiriedolwyr Theatr y Fwrdeistref mewn termau absoliwt o unrhyw rwymedigaethau atgyweirio a chynnal a chadw sydd heb eu cyflawni ar gyfer yr adeilad. Amcangyfrifir mai £119,611 yw'r rhain a bydd y Cyngor yn gyfrifol am benderfynu a fydd model hyfyw ar gyfer y Theatr y tu hwnt i'r cyfnod o 6 mis cychwynnol. 

 

Mae'r Cyngor yn cytuno i ymgymryd â throsglwyddiad TUPE o chwe chyflogai presennol y theatr ar sail eu telerau a'u hamodau cyfredol. Wrth wneud hynny, mae'r Cabinet yn derbyn ei fod yn wynebu risg o orfod talu costau diswyddo ar gyfer yr unigolion hyn os na cheir model parhaus hyfyw ar gyfer y Theatr.

 

Cytuno bod adnoddau presennol tîm Economi a Menter y Cyngor yn cael eu defnyddio i gynorthwyo gydag arwain a rheoli yn y cyfnod o chwe mis pan  gaiff hyfywedd y theatr yn y dyfodol ei ystyried.