Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: This meeting is available to view at: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/0803a3aeb83347259004ca436742533a
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|||
Datganiadau o Fuddiant |
|||
Ystyried adroddiadau gan y Pwyllgorau Dethol (dim) |
|||
I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm): |
|||
Adolygiad Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy Drafft PDF 421 KB
Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un
Diben:I geisio cefnogaeth Cabinet am Adroddiad Adolygu Drafft y Cynllun Datblygiad Lleol (CDLl), gyda’r nod o’i gyhoeddi am ddibenion ymgynghori.
Bydd yr ymatebion ymgynghori’n cael eu bwydo i mewn i’r Adroddiad Adolygu terfynol a bydd yn helpu penderfynu os a sut ddylai’r CDLl gael ei adolygu yn y dyfodol. Bydd yr Adroddiad Adolygu a’r penderfyniad yngl?n ag adolygu'r CDLl yn ddarostyngedig i adroddi gwleidyddol ar wahân yn gynnar yn 2018.
Awdur: Mark Hand (Pennaeth Cynllunio, Tai a
Llunio Lle);
Manylion Cyswllt: markhand@monmouthshire.gov.uk; rachellewis@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: |
|||
Adroddiad Gwerthuso Diogelu Ebrill - Hydref 2017 PDF 456 KB Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un
Diben: Gwerthuso gweithrediad blaenoriaethau diogelwch allweddol Cyngor Sir Fynwy, yng nghyfnod Ebrill – Hydref 2017, gan ddefnyddio mesurau adnabyddedig er mwyn tanlinellu gwelliant, adnabod risgiau a nodi camau a blaenoriaethau gwella clir ar gyfer datblygiad pellach.
I roi gwybod i Aelodau Cabinet am effeithlonrwydd diogelwch yn Sir Fynwy a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn cefnogi dibenion y Cyngor i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed a chamdriniaeth.
I roi gwybod i aelodau Cabinet am y gwaith sy'n cael ei wneud tuag at gwrdd â’r safonau ym Mholisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor cafodd ei gymeradwyo gan Gyngor yng Ngorffennaf 2017.
Awdur: Gr?p Diogelu’r Holl Awdurdod
Manylion Cyswllt: cathsheen@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: |
|||
Ail-Ddarpariaeth Severn View, adeilad cartref preswyl newydd - Ffordd Crick PDF 261 KB Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un
Diben: Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r achos cychwynnol am ddatblygu cartref preswyl newydd yn lle'r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd yng Nghartref Preswyl Severn View yng Nghas Gwent. Cyfle unigryw yw’r datblygiad hwn i Sir Fynwy arwain model newydd o ofal preswyl o fewn y sir a'r wlad sy’n seiliedig ar ddyluniad adeilad pwrpasol a model staffio pwrpasol sy’n cefnogi’r ansawdd bywyd uchaf bosib i bobl sydd angen gofal 24 awr sy’n byw gyda dementia. Mae’r adroddiad yn esbonio’r rhesymau sy’n tanategu’r angen am y datblygiad hwn, yr opsiynau sydd ar gael ond yn benodol yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau cam nesaf y prosiect.
Awdur: Colin Richings – Rheolwr Gwasanaethau Integredig [Y Fenni] ac Arweinydd Gwasanaethau Gofal Uniongyrchol
Manylion Cyswllt: colinrichings@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
|
|||
Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un
Diben: Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno achos i adlinio'r gwasanaeth Tîm o Amgylch y Teulu o fewn y strwythur gwasanaethau cefnogi teuluoedd ehangach i gwrdd ag anghenion y boblogaeth leol yn fwy effeithiol ac i gyfrannu at ddarpariaeth Sir Fynwy o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru (2014) (SSW-bWA)
Awdur: Charlotte Drury
Manylion Cyswllt: charlottedrury@monmouthshire.gov.uk |
|||
Cyflawni Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Plant - Tîm Lleoli a Chefnogi PDF 676 KB Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un
Diben:I gynnig manylion adluniad arfaethedig o fodel darparu Gwasanaethau Plant Sir Fynwy yn benodol mewn perthynas â’r Tîm Lleoli a Chefnogi (PAST).
I danlinellu gwelliant mewn perthynas â’r targedau cafodd eu nodi o fewn yr achos busnes cychwynnol a gymeradwywyd yn flaenorol gan Gabinet gan gynnwys braslun o’r camau nesaf.
Awdur: Rhian Evans
Manylion Cyswllt: Rhianevans@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: |
|||
Cyflawni Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Plant - Gweithlu PDF 448 KB Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un
Diben: I gynnig crynodeb o gynigion gweithlu i’r Cabinet am gam nesaf Rhaglen ‘Darparu Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Plant”.
I gyflwyno sail y dystiolaeth a’r achosion busnes i gefnogi’r cynigion.
Awdur: Jane Rodgers
Manylion Cyswllt: janerodgers@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: |
|||
Sylfaen Treth y Cyngor 2018/19 a materion cysylltiedig PDF 98 KB Adran/Wardiau sy’n cael eu Heffeithio: Pob un
Diben: I gytuno ffigwr sylfaen Treth Cyngor i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â’r gyfradd casglu i’w weithredu yn 2018/19 ac i wneud penderfyniadau statudol perthnasol ac angenrheidiol eraill.
Awdur: Sue Deacy – Rheolwr Refeniw; Ruth Donovan - Dirprwy Bennaeth Cyllid, Refeniw, Systemau a Thrysorlys
Manylion Cyswllt:suedeacy@monmouthshire.gov.uk ruthdonovan@monmouthshire.gov.uk
|
|||
Cronfa Eglwysi Cwmreig PDF 81 KB
Dogfennau ychwanegol: |
|||
Ffordd Crick - Gwerthiant posib i Melin Homes PDF 307 KB
Dogfennau ychwanegol: |