Agenda and decisions

Special, Cabinet - Dydd Mercher, 15fed Chwefror, 2017 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2017/18 - Cynigion terfynol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus pdf icon PDF 451 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben:Diweddaru'r Cabinet gydag ymatebion yr ymgynghoriad i'r cynigion cyllideb a gyhoeddwyd ganddynt ar 16 Rhagfyr 2016 yng nghyswllt y cyllidebau Cyfalaf a Refeniw.

Diweddaru aelodau gyda'r goblygiadau yn deillio o gyhoeddiad Setliad Terfynol Llywodraeth Cymru.

Gwneud argymhellion i'r Cyngor ar y cyllidebau Cyfalaf a Refeniw a lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18.

Derbyn cyfrifiadau Dangosydd Darbodus cyllido cyfalaf y Swyddog Ariannol Cyfrifol.

Derbyn adroddiad statudol y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar y groses cyllideb ac os yw cronfeydd wrth gefn yn ddigonol.

Awdur: Joy Robson – Pennaeth Cyllid

Manylio Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn argymell i'r Cyngor

 

  1. Cyllideb refeniw 2017/18 fel y'i hatodir yn Atodiad 2
  2. Rhaglen cyfalaf 2017/18 i 2020/21 fel yr Atodir yn Rhaglen J1
  3. Bod cynnydd o 3.95% yn Nhreth Gyngor cyfwerth Band D ar gyfer y Sir yn parhau i gael ei ddefnyddio fel y dybiaeth cynllunio yn y model cynllunio i fod yn weithredol ar gyfer dibenion y Sir yn 2017/18.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynigion arbedion angenrheidiol a rhyddhau £1.653 miliwn o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi i sicrhau'r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi cyllideb refeniw a chyfalaf 2017/18 ac yn nodi'r lefel critigol isel o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi o £4.85 miliwn sydd ar ôl ar ddiwedd 2017/18.

 

Bod y Cyngor yn argymell i'r Cyngor y cedwir gofod yn y gyllideb refeniw i alluogi sicrhau ymrwymiadau cyfalaf allweddol a wnaed eisoes wrth i wybodaeth bellach ddod ar gael a'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo. Defnyddir cronfa wrth gefn Cydraddoli Trysorlys i gynnal y gofod os oes angen.

 

Bod y Cabinet yn argymell fod y Cyngor yn gwaredu ag asedau a ddynodwyd yn y papur cefndir eithriedig am ddim llai na'r ystyriaeth orau y gellir yn rhesymol ei gael.

 

Bod y Cabinet yn ystyried adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar gadernid y broses cyllideb a digonolrwydd yr adnoddau a gyhoeddwyd dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003.

 

Bod y Cabinet yn mabwysiadu adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol am Ddangosyddion Darbodus.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r dilynol::

 

                      i.        Gwneud gwaith pellach i ddatblygu cynllun ariannol tymor canol dros y cyfnod tair blynedd 20187/19 i 2020/21

                     ii.        adolygu'r cynllun ariannol tymor canol yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau'n gyfoes