Skip to Main Content

Agenda and decisions

Lleoliad: Remote Teams Meeting

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

2019/20 DATGANIAD ALL-DRO REFENIW A CHYFALAF pdf icon PDF 734 KB

Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt:Y cyfan.

 

DibenDiben yr adroddiad yma yw rhoi gwybodaeth i Aelodau ar sefyllfa refeniw a chyfalaf yr Awdurdod yn seiliedig ar lithriad cyfalaf a defnydd a gohirio cronfeydd wrth gefn.

 

Awduron: Peter Davies – Prif Swyddog, Adnoddau

Jonathan Davies – Rheolwr Cyllid

 

Manylion Cyswllt:peterdavies@monmouthshire.gov.uk; jonathansdavies@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod yr Aelodau’n ystyried y diffyg alldro o ran refeniw net o £3.76m a eglurir yn adran 3 yr adroddiad, a’r eitemau untro a osodir yn erbyn y diffyg er mwyn creu cyfanswm gwarged net i’r cyfrif refeniw o £1.8m.

 

Bod Aelodau’n cymeradwyo defnyddio’r gwarged refeniw am y flwyddyn o £1.8m er mwyn cynyddu balans cronfa’r Cyngor er mwyn galluogi’r Awdurdod i fod mor hyblyg a phosibl o ran ymateb a lliniaru’r risgiau ariannol sy’n ymwneud â sefyllfa barhaus COVID19.

 

Bod Aelodau’n nodi faint o symud sydd wedi bod o ran tyniadau unigol wedi’u cyllidebu ar falensau ysgolion fel y gwelir yn adran 8 yr adroddiad, a’r adroddiad pellach a fydd yn cael ei gynnal fel rhan o adroddiad monitro cyllideb mis 5.

 

Bod Aelodau’n nodi cyflawni’r 84% o arbedion gorfodol wedi’u cyllido, a gytunwyd gan y Cyngor Lawn yn flaenorol, a’r camau adferol/arbediadau goblygedig sydd wedi eu cynnwys yn y monitro ariannol er mwyn gwneud yn iawn am tua 16% o arbedion (£1.03m) sydd, yn ôl adroddiadau gan reolwyr gwasanaeth, yn anghyraeddadwy neu’n debygol o fod yn hwyr.

 

Bod aelodau’n ystyried y gwariant alldro cyfalaf o £24.0m, gan gyflwyno tanwariant o £1.55m yn bennaf oherwydd tanwariant cynlluniau penodol sy’n gysylltiedig â grantiau ac yn derbyn cymeradwyo ceisiadau am lithriant o £24.8m (a restrir yn Atodiad 2) ynghyd â’r rhagdybiaethau cysylltiedig a wnaed o ran goblygiadau ariannol a welir yn adran 6.

4.

DIWEDDARIAD CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR FYNWY YNG NGOLEUNI COVID-19 pdf icon PDF 298 KB

Adrannau/Wardiau yr Effeithir Arnynt:Y cyfan

 

Diben: Diben yr adroddiad hwn yw rhoi diweddariad i’r Cabinet ar baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (RLDP) yng ngoleuni pandemig cyfredol COVID-19. Mae’n gwahodd y Cabinet i adolygu’r Materion, Gweledigaeth ac Amcanion sy’n ffurfio sail cyfeiriad strategol y Cabinet ac yn gofyn am gadarnhad y Cabinet fod y Materion, Gweledigaeth ac Amcanion yn dal yn gywir ac y dylai’r RLDP barhau i fynd rhagddo yn cynnwys cwblhau’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffafrir ac ail alwad am safleoedd ymgeisiol. Mae’r adroddiad yn gwahodd y Cabinet i nodi paratoi’r RLDP oherwydd COVID-19, fydd yn golygu y bydd angen i’r Cyngor gymeradwyo Cytundeb Cyflenwi diwygiedig yn y misoedd nesaf, ac yn tynnu sylw at y materion sylweddol a achosir gan ddarpariaethau ‘disgyn yn farw’ yr LDP.

 

Awduron: Mark Hand, Pennaeth Gwneud Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd

Craig O’Connor, Pennaeth Cynllunio

Rachel Lewis, Rheolwr Polisi Cynllunio

 

Manylion Cyswllt: markhand@monmouthshire.gov.uk

craigoconnor@monmouthshire.gov.uk

rachellewis@monmouthshire.gov.uk  

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo Materion, Gweledigaeth ac Amcanion y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a chyfeiriad strategol y cynllun yng ngolau pandemig COVID-19, ei fod yn parhau’n berthnasol a phriodol ac yn cymeradwyo y dylid parhau i weithio ar y CDLlN.

 

Bod y Cabinet yn ysgrifennu at y Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol yn galw am newid y Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 er mwyn cael gwared â’r darpariaethau deddfwriaethol ‘drop dead date’ er mwyn atal polisïau rhag cael eu sugno a galluogi penderfyniadau i gael eu gwneud o fewn y CDLl presennol nes i’r CDLlN gael ei fabwysiadu, oni bai bod polisi neu dystiolaeth cenedlaethol fwy newydd yn dangos yn wahanol.