Skip to Main Content

Agenda and decisions

Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: To view meeting: 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad yn ymwneud gyda chynnig i gau Ysgol Arbennig Mounton House pdf icon PDF 183 KB

Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob un

 

Pwrpas:Dros y ddwy flynedd ddiwethaf,  mae swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc wedi gweithio gyda chydweithwyr  ar draws ysgolion Sir Fynwy ac o fewn yr awdurdod er mwyn trefnu darpariaeth i gefnogi ein dysgwyr bregus. Elfen benodol o’r gwaith hwn yw ffocysu ar anghenion y plant sydd yn cyflwyno ymddygiad heriol. 

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar gau Ysgol Arbennig Mounton House, pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno’r adroddiad ar yr ymgynghoriad i’r Cabinet a gofyn am eu cymeradwyaeth i symud ymlaen i’r cam nesaf i gau Ysgol Arbennig Mounton House a chyhoeddi hysbysiadau statudol.

 

Bydd y papur hwn yn darparu manylion i’r sawl sydd yn gwneud penderfyniadau yngl?n â sut y mae’r awdurdod lleol yn cefnogi’r myfyrwyr hynny, sydd yn Mounton House ar hyn o bryd, ar ôl yr 31ain o Awst 2020.

 

Awdur: Will McLean, Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc

 

Manylion Cyswllt: willmclean@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Yn cytuno i gyhoeddi hysbysiadau ar gyfer cau Ysgol Arbennig  Mounton House.

 

Mae’r Cabinet yn cytuno i ddefnyddio arian wrth gefn sy’n rhan o’r gronfa Buddsoddi i Arbed er mwyn ymestyn y Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion  ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol. Bydd hyn yn cael ei ad-dalu  yn y ddwy flynedd ariannol.

3b

CYNLLUN CYLLIDOL TERM CANOLIG REFENIW A'R BROSES GYLLIDEB 2020/21 - 2023/24 pdf icon PDF 176 KB

Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob un

 

Pwrpas:Amlygu’r cyd-destun ar gyfer datblygu’r Cynllun Cyllidol Term Canolig  (MTFP) ar gyfer 2020/21 - 2023/24

 

Cytuno ar y rhagdybiaethau sydd i’w defnyddio er mwyn diweddaru’r MTFP, a darparu syniad cychwynnol o’r arbedion sydd i’w canfod yn y gyllideb.   

 

Cytuno ar y prosesau a’r amserlen ar gyfer datblygu’r MTFP a’r gyllideb benodol ar gyfer 2020/21.

 

Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol

 

Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Mae’r rhagdybiaethau cyllideb sydd wedi eu hamlinellu ym mharagraffau  3.6 i 3.13 yn yr adroddiad i’w cytuno a’u diweddaru yn ystod y broses gyllideb os daw gwybodaeth well i’r amlwg.  

 

Mae’r broses gyllideb a’r amserlen fel sydd wedi eu hamlinellu ym mharagraff 3.26 yn cael eu mabwysiadu gan gynnwys craffu’r gyllideb gan aelodau a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan seminarau  aelodau, Grwpiau Gwaith yr Aelodau a Swyddogion, Ymgysylltu Cymunedol, cyfarfodydd Dethol ac Ymgynghoriad (at ddibenion Cyfraddau Busnes).

3c

TREFNIADAU RHEOLI TRETH AR WERTH pdf icon PDF 94 KB

Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob un

 

Pwrpas:Cadarnhau’r effaith y bydd unrhyw fuddsoddiad arfaethedig yng nghyfleusterau hamdden yr awdurdod yn ei gael pan yn cyfuno hyn gyda phenderfyniad y Cyngor i fabwysiadu  dyfarniad TAW Ealing ar yr hawl gyffredinol i  adennill TAW ar holl gostau’r Cyngor. 

 

Mae’r adolygiad yn modelu’r lefel gyfredol sydd yn cael ai hamcangyfrif ac yn cynghori y bydd angen talu TAW ar y cynigion i ail-ddatblygu’r cyfleusterau hamdden o ran unrhyw wariant TAW  sydd wedi ei gynllunio neu’n rhan o’r gyllideb er mwyn cefnogi’r broses o ddarparu’r cynlluniau gwasanaeth cyfredol ar draws y Cyngor.    

Awdur: Peter Davies, Prif Swyddog Adnoddau

 

Manylion Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

:

Yn cyflwyno ceisiadau ôl-weithredol  o ran y dyfarniad TAW Ealing.

 

Mae prosesau a systemau'r Cyngor wedi eu diwygio er mwyn caniatáu bod y Dyfarniad Ealing yn cael ei fabwysiadu o’r 1af o Dachwedd 019.

 

Dylid cynnal gwerthusiad i wneud cais i ddarparwyr allanol/trydydd parti i fuddsoddi yng nghanolfan hamdden Cil-y-coed. 

 

Yn parhau i fonitro costau TAW yn agos, yn enwedig y costau sydd wedi eu gwario mewn meysydd sydd wedi eu heithrio o ran TAW,  a lle bod angen, yn adnabod ac yn cynghori ar opsiynau gan ‘edrych ymlaen’ a lleihau unrhyw golledion TAW nad oes modd eu hail-hawlio yn sgil tramgwyddo cyfrifiad esemptiad rhannol y Cyngor a’r trothwy