Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 4ydd Medi, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: To view meeting: https://join-emea.broadcast.skype.com/monmouthshire.gov.uk/98d9e01e4f2d4cac836b8763f0c05b14 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm):

3a

CYFRANIADAU A106 - SAFLEOEDD GWLEDIG pdf icon PDF 4 MB

Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Cil-y-coed, Cas-gwent, Mill, The Elms a Llanelly Hill

 

Pwrpas:Yn argymell i’r Cyngor llawn y dylid cynnwys y cyllid cyfalaf yn Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2019/20;

Yn argymell defnyddio’r balans A106 sydd wedi ei gasglu i ariannu nifer o brosiectau gwledig/seilwaith gwyrdd yn y sir.

 

Awdur:Colette Bosley, Prif Swyddog Tirlunio;

 Mike Moran, Cydlynydd Seilwaith Cymunedol

Manylion Cyswllt:colettebosley@monmouthshire.gov.uk; 

                           mikemoran@monmouthshire.gov.uk  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae’r Cabinet yn cytuno ar greu cyllideb o of £21,689 yn 2019/20 i ariannu’r prosiectau canlynol a bod hyn yn cael ei ariannu gan gyfraniad cyfatebol gan arian o’r balans Adran 106 sydd gan y Cyngor Sir fel rhan o’r Cytundebau Adran 106 sydd yn ymwneud â’r datblygiadau canlynol:

 

Cod Cyllid                  Safle                                                   Cyfraniad

                                                                                                £

N588                           Safle Bragdy AB Inbev, Magwyr             5,000

N585                           Safle Gwasanaethau Rhaglan A449    1,968

N582                           Safle Little Mill Sawmill                       2,329

N464                           Warrenslade Wood, Cas-gwent             12,392

Cyfanswm                                          £21,689

 

Mae’r cyllid uchod i’w neilltuo i’r prosiectau canlynol:

Prosiect                                                                                  Swm

1. Llwybrau cerdded Magwyr, hygyrchedd a hyrwyddo            £5,000

2. Gweithredu Cynllun Rheoli Castell Cil-y-coed                     £4,297

3. Rheoli Coetir Warrenslade                                                 £12,392

 

Mae’r balans sy’n weddill a heb ei glustnodi, sef £23,020 o ddatblygiad Cae Meldon yng Ngilwern, o dan cod cyfalaf  98881, i’w ddefnyddio er mwyn ariannu yn rhannol Cynllun Gwella Gweithfeydd Haearn  Clydach.

3b

CYNLLUN GWEITHREDU SEILWAITH DIGIDOL pdf icon PDF 278 KB

Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un

 

Pwrpas: Ystyried cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu Seilwaith Digidol drafft (Atodiad A).

 

Awdur: Cath Fallon, Pennaeth Mentergarwch a  Bywiogi Cymunedau  

Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Seilwaith Digidol atodedig, ac wrth wneud hyn, byddant hefyd yn cymeradwyo’r argymhellion canlynol, hynny yw bod y Cyngor yn:

 

1. Mabwysiadu sefyllfa polisi er mwyn bod yn rhagweithiol wrth annog darparwyr band eang i gyflwyno seilwaith band eang ffeibr  yn y Sir;

2. Sefydlu Gr?p Gwaith Band Eang Strategol er mwyn sicrhau agwedd rhagweithiol er mwyn sicrhau bod holl brosesau’r Cyngor yn cael eu hwyluso i ganiatáu i ddarparwyr band eang i symud ar gyflymder;

3. Ystyried benthyciadau masnachol i gwmnïau sydd yn dymuno gweithredu prosiectau seilwaith digidol o fewn y sir a fydd yn mynd i’r afael gyda materion amddifadedd digidol; a

4. Ystyried unrhyw gyfleoedd yn llawn i ymgysylltu gyda chyfleoedd cyllido er mwyn gosod 5G a Seilwaith LoRaWAN o fewn y Sir lle y mae yna dystiolaeth o ran angen, yn agor y Sir fel arbrawf rhanbarthol a braenaru ar gyfer yr amrywiaeth o geisiadau sydd i’w datblygu o ganlyniad i hyn.  

3c

LLYTHYR BLYNYDDOL 2018/19 OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU AC ADRODDIAD CWYNION, SYLWADAU A CHANMOLIAETH AWDURDOD CYFAN CYNGOR SIR FYNWY AR GYFER 2018/19 pdf icon PDF 109 KB

Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un

 

Pwrpas: Y pwrpas yw cwrdd â disgwyliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus  Cymru fod ei adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r hyn yr ydym yn ei wneud.  

 

Yn darparu manylion o adborth cwsmeriaid Awdurdod Cyfan y Cyngor.  

 

Awdur: Annette Evans, Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid

Manylion Cyswllt: annetteevans@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae’r Cabinet yn nodi cynnwys llythyr blynyddol PSOW (Atodiad 1) ac yn hysbysu’r PSOW o’u hystyriaethau ac yn cynnig unrhyw gamau erbyn 31 Hydref 2019.

 

Mae’r Cabinet yn nodi cynnwys adroddiad blynyddol Awdurdod Cyfan y Cyngor (Atodiad 2).

 

Bydd y DMT yn adolygu ei berfformiad yn delio gyda chwynion, yn gwella’r gwasanaeth y mae’n yn darparu, yn ystyried y dystiolaeth  a ddaw o’r cwynion sydd wedi eu derbyn.  

 

Bydd  y DMT yn monitro ymatebion i gwynion a’n ffocysu ar arferion da a chydymffurfiaeth.

3d

CYTUNDEBAU PARTNERIAETH YSGOLION A GYNHELIR pdf icon PDF 186 KB

Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un

 

Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad yw i aelodau gytuno gyda’r Cytundebau Partneriaeth Statudol wedi iddynt ystyried y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn ystod y cyfarfod yn Ionawr  2019.

 

Awdur: Cath Saunders, Rheolwr Llywodraethiant, CYP

Manylion Cyswllt: cathsaunders@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Mae’r Cabinet yn cytuno gyda’r Cytundeb Partneriaeth Statudol. Agreement.

3e

GLINIADURON W10 NEWYDD pdf icon PDF 169 KB

Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un

 

Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn chwilio am gyllid er mwyn disodli neu uwchraddio'r stoc o liniaduron gwaith, gan sicrhau eu bod oll o leiaf yn defnyddio Windows 10 ac yn cwrdd â’n gofynion diogelwch o ran TGCh.    

 

Awdur:Sian Hayward

Manylion Cyswllt: sianhayward@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Mae’r Cabinet yn cymeradwyo’r defnydd o gyllid cyfalaf neu refeniw un tro o £239,300 er mwyn sicrhau bod ein gweithlu a’n cyfarpar ar y safle yn cwrdd â’r gofynion diogelwch isafswm o ran system weithredol Windows 10 erbyn Ionawr 2020.

 

Mae’r Cabinet yn cymeradwyo taliad ychwanegol un tro o’r gyllideb cyfarpar ychwanegol o £67,000 er mwyn delio gydag adnewyddiadau cyfarpar gweithredol  ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol.  

 

Mae’r Cabinet yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y gyllideb cyfarpar canolog sydd  yn deillio o gynnydd mewn teclynnau cyffredinol ynghyd â gostyngiad yn oes y gliniaduron. Er mwyn mynd i’r afael gyda hyn, rydym yn gofyn i’r Cabinet i ystyried cymeradwyo’r pwysau hwn fel rhan o’r broses o osod y gyllideb flynyddol.

3f

ADNODDAU - CANIATÁU CYNGOR SYDD YN FFOCYSU AR Y DYFODOL pdf icon PDF 124 KB

Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un

 

Pwrpas: Ystyried cynigion ar gyfer strwythur y Tîm Rheoli  newydd ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, strwythur diwygiedig o ran yr uwch gyllid ac ailstrwythuro’r timau yn Adnoddau Dynol, y Swyddfa Rhaglen Ddigidol a’r timau Gwasanaethau Masnachol a Landlordiaid Integredig.  

 

Yn cryfhau’r trefniadau cyfredol gyda’r timau cyllid datganoledig o fewn y cyfarwyddiaethau Plant a Phobl Ifanc a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Bydd y Rhaglen Swyddfa Ddigidol yn cymryd cyfrifoldeb am lywodraethiant a diogelwch gwybodaeth.    

 

Awdur:Peter Davies, Prif Swyddog ar gyfer Adnoddau

Manylion Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Yn cymeradwyo strwythur DMT Adnoddau newydd. (Atodiad 1a)

 

Yn cymeradwyo’r uwch strwythur gyllid a chreu rôl newydd fel Pennaeth Gwasanaeth (Pennaeth Cyllid Prosiectau)  a thîm Cyllid Prosiectau er mwyn cefnogi’r broses o ddarparu prosiectau  sydd o bwys strategol. (Atodiad 5)

 

Cymeradwyo ailstrwythuro’r timau yn Adnoddau Dynol, y DPO a’r timau Gwasanaethau Masnachol a Landlord Integredig. (Atodiadau 2, 3 a 4)

 

Diweddaru’r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y Rheolwyr Cyllid o fewn y cyfarwyddiaethau Plant a Phobl Ifanc a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a’r Rheolwr Cyllid Dros Dro yn MonLife er mwyn sicrhau bod yna eglurder o ran atebolrwydd i’r Prif Swyddog ar gyfer Adnoddau, y Swyddog  A151 a’r Dirprwy Swyddog A151 ar gyfer materion proffesiynol, technegol a chyllidol statudol ac er mwyn sicrhau  rheolaeth gyllidol, rheoli a llywodraethiant effeithiol ar draws yr Awdurdod cyfan.  

 

Bydd gweithredu’r cynigion ailstrwythuro llawn yn cynnig arbedion ariannol cychwynnol o  £32,000 yn y flwyddyn gyllidol yn 19/20. Mae disgwyl i hyn gynyddu i isafswm o £150,000 ym mlwyddyn ariannol 20/21 ac isafswm o  £250,000 ym mlwyddyn ariannol 21/22.

 

Bydd y sefydliad cymeradwy yn tyfu  o ran y nifer o swyddi parhaol i 16.86, ac ni fydd 2 o’r rhain yn cael eu llenwi yn y tymor byr, ac mae mwy o fanylion a’r rhesymeg wedi eu cynnwys ym mhara 3.10.

 

Bydd y model cyllido yn profi gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer ffioedd proffesiynol allanol o £25,000, gostyngiad yn y gyllideb goramser o £17,000 ac incwm masnachol o £201,000. Wrth wneud hyn, byddwn yn sicrhau  arbedion maint mewnol priodol / creu cymysgedd o sgiliau  a fydd yn cynnig sicrwydd / buddiannau o ran lles staff yn y rhaglenni a’r prosiectau sydd yn cael eu cyflenwi. 

 

Bydd y newidiadau yn cael effaith ar gytuneddau lefel gwasanaeth /  ni fydd perthnasau codi ffioedd gydag ysgolion  yn cael eu gweithredu/  tan ei fod yn eglur bod yr ysgolion yn cefnogi’r newidiadau arfaethedig / yn derbyn unrhyw addasiadau  o ran codi ffioedd sydd yn disgyn o fewn cyllidebau’r ysgol.

 

Mae unrhyw gostau sydd yn ymwneud gyda gweithredu’r strwythur (e.e. costau diswyddo) i’w talu o gyllideb Adnoddau ond os yw hyn yn annigonol, bydd yna gais m gyllid corfforaethol  i dalu am gostau diswyddo un tro.  

 

Mae’r Prif Swyddog ar gyfer Adnoddau yn bwrw ymlaen gyda gweithredu’r strwythur newydd ac yn gwneud unrhyw addasiadau sydd yn dod yn amlwg yn ystod y  broses gan ymgynghori gyda’r aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau.

3g

PARODRWYDD AR GYFER BREXIT pdf icon PDF 112 KB

Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob Un

 

Pwrpas: Darparu diweddariad ar ffurf gwybodaeth yn unig i Aelodau am Barodrwydd y Cyngor i ddelio gyda Brexit, a hynny’n dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor ar 11eg Ebrill  2019.

 

Awdur:Frances O’Brien, Prif Swyddog ar gyfer Mentergarwch 

Manylion Cyswllt: francesobrien@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

WEDI EI DDATRYS:

Dim penderfyniad – er gwybodaeth yn unig.