Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
Ystyried adroddiadau gan y Pwyllgorau Dethol (dim) + |
|
I ystyried yr adroddiadau canlynol (copïau ynghlwm): |
|
Polisi Gofalwyr mewn Cyflogaeth PDF 198 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Diben yr adroddiad yw cyflwyno polisi newydd Gofalwyr mewn Cyflogaeth. Mae'r polisi hwn yn weithredol ar gyfer yr holl gyflogeion yn cynnwys y rhai sy'n seiliedig mewn ysgolion.
Awdur: Sally Thomas – Rheolwr Adnoddau Dynol
Manylion Cyswllt:sallythomas@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod polisi newydd Gofalwyr mewn Cyflogaeth yn cael ei dderbyn a'i gylchredeg i'r holl gyflogeion a'i gymeradwyo i gyrff llywodraethu i gael ei fabwysiadu cyn gynted ag sydd modd. |
|
Adeilad Canolfan Ieuenctid y Fenni PDF 151 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Trosglwyddo'r adeilad a ddefnyddir ar hyn o bryd gan y Gwasanaeth Ieuenctid o fewn y Gyfarwyddiaeth Menter i Stadau.
Awdur: Josh Klein – Rheolwr Dros Dro Gwasanaeth Ieuenctid
Manylion Cyswllt: joshklein@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Gohirio'reitem. |
|
Asesiad Risg Strategol Awdurdod Cyfan PDF 740 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Rhoi trosolwg i'r Cabinet o'r risgiau strategol cyfredol sy'n wynebu'r Awdurdod; ceisio cymeradwyaeth y Cabinet y'r asesiad risg awdurdod cyfan.
Awdur: Matthew Gatehouse – Rheolwr Polisi a Pherfformiad
Manylion Cyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: Bod Aelodau'r Cabinet yn cymeradwyo'r asesiad risg a ddangosir yn atodiad 1 fel gwerthusiad realistig a gyda thystiolaeth o'r risgiau strategol sy'n wynebu'r awdurdod dros y tair blynedd nesaf. |
|
Ardal Chwarae Chippenham Mead, Trefynwy PDF 407 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob ward yn Nhrefynwy.
Diben: Cytuno ar leoliad Ardal Chwarae Chippenham Mead yn Nhrefynwy.
Awdur: Mike Moran, Cydlynydd Seilwaith Cymunedol
Manylion Cyswllt: mikemoran@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Gohirio'reitem. |
|
Monitro Refeniw a Chyfalaf 2016/17 - Datganiad rhagolwg alldro Cyfnod 3 Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Diben yr adroddiad yw rhoi gwybodaeth i Aelodau ar ragolwg sefyllfa alldroi refeniw yr Awdurdod ar ddiwedd cynfod 3 sy'n cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 9 blwyddyn ariannol 2016/17.
Caiff yr adroddiad hefyd ei ystyried gan y Pwyllgor Dethol fel rhan o'u cyfrifoldeb i:
• asesu os oes monitro effeithlon ar y gyllideb. • monitro i ba raddau y gwerir cyllidebau, yn unol â'r gyllideb a fframwaith polisi a gytunwyd, • herio os yw gorwariant neu danwariant yn rhesymol, • monitro cyflawni enillion effeithiolrwydd a ragwelwyd neu gynnydd yng nghyswllt cynigion arbedion.
Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol
Manylion Cyswllt:markhowcroft@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cabinet yn nodi maint y tanwariant refeniw a ragwelir yn defnyddio data cyfnod 3 o £79,000, gwelliant o £919,000 ar y sefyllfa flaenorol a adroddwyd yng nghyfnod 2.
Bod y Cabinet yn disgwyl i Brif Swyddogion barhau i adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac ailddyrannu cyllidebau i ostwng maint sefyllfaoedd iawndal sydd angen eu hadrodd ar gylchoedd chwarterol.
Mae'r Cabinet yn gwerthfawrogi maint y defnydd a ragwelir ar gronfa gadw ysgolion, ei effaith ar lefelau rhagolwg cronfa gadw alldro a'r disgwyliad cysylltiedig y bydd 6 ysgol arall mewn sefyllfa diffyg erbyn diwedd 2016-17.
Mae'r Cabinet yn ystyried y monitro cyfalaf, gorwariant a thanwariant penodol ac yn bwysig mae'r Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnydd derbyniadau cyfalaf ym mlwyddyn y gwerthiant a'r potensial i hyn gael pwysau refeniw sylweddol os caiff derbyniadau eu hoedi ac y gall fod angen benthyca dros dro.
Mae'r Cabinet yn cymeradwyo buddsoddiad ychwanegol o £30,000 i'r gyllideb cyfalaf Grant Cyfleusterau i'r Anabl er mwyn ymateb i'r galwadau a roddir ar yr agenda presennol, a gyllidwyd gan y trosglwyddiad o gyllidebau presennol Cynnal a Chadw Priffyrdd a Mynediad i Bawb.
Mae'r Cabinet yn cymeradwyo cynnydd o £30k i gynllun cyswllt Woodstock Way a fforddiwyd drwy danwariant cyfwerth i gynllun gwella ardal arall (y Fenni). |