Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
Ystyried adroddiadau gan y Pwyllgorau Dethol (dim) PDF 354 KB Penderfyniad: Bod y Cabinet yn cydnabod cyfraniad Pwyllgorau Dethol y Cyngor at ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau.
Bod Aelodau'r Cabinet yn dod yn gyfarwydd gyda chanlyniadau'r Pwyllgorau Dethol i sicrhau eu bod yn ymateb mewn modd priodol i'r argymhellion a cheisiadau'r Pwyllgorau Dethol, yn unol â Phrotocol Craffu a Gweithrediaeth y Cyngor. |
|
I ystyried yr adroddiadau canlynol (copïau ynghlwm): |
|
Gweithgor Cronfa Eglwysi Cymru PDF 131 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Dim
Diben: Diben yr adroddiad yma yw gwneud argymhellion i'r Cabinet ar y Rhestr Ceisiadau ar gyfer cyfarfod 3 Gweithgor Cronfa Eglwysi Cymru blwyddyn ariannol Cymru a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2016.
Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd – Cefnogaeth Busnes Canolog Cyllid
Manylion cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd dyfarnu'r grantiau dilynol yn ôl y rhestr ceisiadau.. |
|
Ailstrwythuro'r Adran Trwyddedu PDF 145 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Dim
Diben: Ystyried ailstrwythuro adran Trwyddedu yr Awdurdod.
Awdur: David H Jones, Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd
Manylion cyswllt: davidjones3@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytuno ar y newid mewn swyddi fel yr amlinellir yn Atodiad 1, sef dileu swyddi presennol 'Uwch Swyddog Trwyddedu' (2) a 'Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu' (2), a rhoi 3 swydd 'Swyddog Trwyddedu' yn lle hynny.
PennaethDiogelu'r Cyhoedd yn gweithredu'r ailstrwythuro mewn ymgynghoriad gyda'r swyddogion yr effeithir arnynt, SC&H DMT, Cyllid ac yn y blaen, yn unol â 'Phrotocol Ailstrwythuro/Ailddylunio Gwasanaeth' y Cyngor. |
|
Gwasanaethau Plant - Ailddylunio Gwasanaeth Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Diben: Diben yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth i ailgyflunio'r ffordd yr ydym yn cyflenwi ein gwasanaethau o fewn Gwasanaethau Plant.
Awdur: Jane Rodgers, Pennaeth Gwasanaethau Plant
Manylion cyswllt: janerodgers@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod Aelodau'n cymeradwyo a chadarnhau'r cynnig ar gyfer ailddylunio model cyflenwi Gwasanaethau Plant.
Cymeradwyo a chadarnhau strwythur newydd Gwasanaethau Plant.
Cymeradwyo'rgalwad ar gronfeydd cadw yn 2017/18 hyd at £86,000, gan gydnabod y bydd Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant yn sicrhau cydbwysedd ariannol erbyn 2018/19.
Cymeradwyo'r newid yn statws 4 swydd gweithiwr cymdeithasol o dros dro i barhaol.
|
|
Astudiaeth Ailddylunio Canolfan Hamdden Trefynwy ac Astudiaeth Dichonolrwydd Pwll Nofio PDF 401 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Trefynwy
Diben: Cyflwyno'r achos busnes amlnelllol am gomisiynu gwaith dylunio a dichonolrwydd perthnasol i ddarparu ar gyfer cynnig hamdden estynedig a darparu pwll newydd yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy, yn gysylltiedig gyda datblygiad cyd-leoli 'Ysgol y Dyfodol' newydd.
Awdurr: Kellie Beirne, Prif Swyddog, Arloesedd a Menter
Manylion cyswllt: kelliebeirne@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Buddsoddi'r £204,050 angenrheidiol o danwariant a ddynodwyd o fewn Rhaglen Ysgolion y Dyfodol i gynnal y gwaith dylunio manwl fydd yn trosi'r achos busnes amlinellol yn achos buses llawn, gan sefydlu'r sicrwydd cost sydd ei angen i ddatblygu'r cynnig hamdden, yn cynnwys pwll newydd, yn llawn.
Aeth y Cabinet i bwyllgor i drafod atodiadau 2 a 3. |
|
Cynllun Strategol Cymreg mewn Addysg 2017-20 PDF 231 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Cyfan
Diben: Ceisio cymeradwyaeth aelodau i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) 2017-2020 Cyngor Sir Fynwy.
Awdur: Sharon Randall-Smith - Pennaeth Gwasanaeth Cyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc
Manylion cyswllt: sharonrandall-smith@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn derbyn Drafft Gynllun WESP 2017-2020 Sir Fynwy ac yn cytuno i'r cynigion o fewn Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Fynwy (WESP) 2017-2020 |