Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant |
|
Ystyried adroddiadau gan y Pwyllgorau Dethol (dim) |
|
Cyllid Adran 106 Gilwern PDF 96 KB Ward/Adran yr effeithir arni: Llanelli Hill
Diben:Ystyried cynyddu lefel y grant a gynigir i dri ymgeisydd o weddill Adran 106 a ddelir gan y Cyngor ar gyfer datblygiadau yn T? Mawr a Cae Meldon, Gilwern.
Awdur:Mike Moran, Cydlynydd Seiilwaith Cymunedol
Manylion Cyswllt:mikemoran@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: . PENDERFYNWYD: Gwneud cynigion grant diwygiedig i'r sefydliadau dilynol o falansau Adran 106 a ddelir gan y Cyngor yng nghyswllt Cytundebau Adran 106 T? Mawr a Cae Meldon: Clwb Pêl-droed Clydach £7,128 Clwb Bowlio Gilwern £32,941 Clwb Pêl-droed Gilwern £37,391
Bod y lefel uwch o grant yn gyfanswm o £10,559 am y tri phrosiect yn cael eu talu o'r balans heb ei ddyrannu o £33,394 gan adael gweddill balans heb ei ddyrannu o £22,839.
|
|
Cynnig i Drosglwyddo Ased Gymunedol Neuadd Pentref a Chaeau Chwarae Caerwent PDF 332 KB Ward/Adran yr effeithir arni: Caerwent
Diben: Ystyried y cynnig i Drosglwyddo Ased Gymunedol Neuadd Pentref a Chaeau Chwarae Caerwent i Gyngor Cymuned Caerwent i barhau i ddarparu neuadd pentref a chaeau chwarae cymunedol a datblygu'r adeilad am fwy o weithgareddau cymunedol.
Awdur:Ben Winstanley, Rheolwr Stadau
Manylion Cyswllt:benwinstanley@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 2. PENDERFYNWYD: Cytunwyd i waredu â'r budd rhydd-ddaliad yn Neuadd Pentref a Chaeau Chwarae Caerwent ar Nil Gwerth i Gyngor Cymuned Caerwent yn defnyddio'r pwerau a roddwyd drwy Orchymyn Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003. |
|
Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy PDF 241 KB Ward/Adran yr effeithir arni: y cyfan
Diben: Amlinellu diben, canfyddiadau allweddol a chasgliadau ail Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol.
Awdur:Martin Davies (Rheolwr Polisi Cynllunio), Rachel Lewis (Prif Swyddog Polisi Cynllunio)
Manylion Cyswllt:martindavies@monmouthshire.gov.uk, rachellewis@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo ail Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2016.
Penderfynu dechrau adolygiad cynnar o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy fel canlyniad i'r angen i drin y diffyg yn y cyflenwad tir tai a hwyluso dynodi/dyrannu tir tai ychwanegol.
Nodi'rsylwadau a godwyd gan y Pwyllgor Ethol Economi a Datblygiad (27 Medi 2016). |
|
Ward/Adran yr effeithir arni: Y cyfan
Cynnig: Cynnig datblygu achos busnes llawn i ymchwilio'r opsiynau ar gyfer y gwasanaethau Hamdden, Twristiaeth, Diwylliant ac Ieuenctid yn dilyn gwerthusiad annibynnol o opsiynau gan Anthony Colins Cyfreithwyr.
Awdur: Cath Fallon – Pennaeth Economi a Menter; Ian Saunders – Pennaeth Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant; Marie Bartlett – Rheolwr Cyllid; Tracey Thomas – Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid.
Manylion Cyswllt: Cathfallon@monmouthshire.gov.uk, Iansaunders@monmouthshire.gov.uk Mariebartlett@monmouthshire.gov.uk, Traceythomas@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Rhoi ystyraieth lawn i'r Achos Amlinellol Strategol a atodir yn seiliedig art ganfyddiadau annibynnol Anthony Collins Cyfreithwyr.
Cytuno i symud i gam nesaf datblygu Achos Busnes Llawn i'w ystyried ymhellach gan Aelodau.
Parhauâ'r broses ymgynghori gyda staff, y gymuned a defnyddwyr gwasanaeth.
|