Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Perfformiad Diwedd Blwyddyn 2015/16 ar Ddiogelu Awdurdod Cyfan PDF 284 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben:Cyflwynotrosolwg i aelodau Cabinet o berfformiad diogelu awdurdod cyfan yn 2015/16.
Awdur: Teresa Norris, Swyddog Polisii a Pherfformiad
Manylion Cyswllt: teresanorris@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod aelodau'n ystyried y wybodaeth yma ar y cyd â'r adroddiad ar wahân ar y newidiadau arfaethedig i ymagwedd diogelu'r awdurdod cyfan.
Bod aelodau'n ceisio sicrwydd y bydd y newidiadau arfaethedig yn gwella perfformiad o ran materion a amlinellir trwy gydol yr adroddiad hwn. |
|
Newidiadau arfaethedig i ddull diogelu awdurdod cyfan PDF 170 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben:Cyflwynonewidiadau arfaethedig i'r dull diogelu awdurdod cyfan i aelodau'r Cabinet.
Awdurr: Teresa Norris, Swyddog Polisi a Pherfformiad
Manylion Cyswllt: teresanorris@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Bod aelodau'n cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig: · I gyflwyno Strategaeth Diogelu. · I danategu'r strategaeth gyda rhaglen o dair elfen benodol, sy'n cynnwys: Corfforaethol, Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion. · I newid cylch gorchwyl a chynrychiolaeth Gr?p Cydlynu Diogelwch yr Awdurdod Cyfan. · I ddisodli'r mecanwaith adrodd cyfredol ar berfformiad gyda cherdyn sgôr o fesurau diogelu allweddol i fonitro perfformiad.
|
|
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 154 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol i aelodau't Cabinet.
Awdur: Claire Marchant, Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Manylion Cyswllt: clairemarchant@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod aelodau'n cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig: · I gyflwyno Strategaeth Diogelu. · I danategu'r strategaeth gyda rhaglen o dair elfen benodol, sy'n cynnwys: Corfforaethol, Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion. · I newid cylch gorchwyl a chynrychiolaeth Gr?p Cydlynu Diogelwch yr Awdurdod Cyfan. · I ddisodli'r mecanwaith adrodd cyfredol ar berfformiad gyda cherdyn sgôr o fesurau diogelu allweddol i fonitro perfformiad.
|
|
Adroddiad Monitro Iaith Gymraeg 2015/16 PDF 78 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Gofyn i'r Cabinet nodi cynnwys Adroddiad Monitro Iaith Gymraeg a atodir 2015-2016 a gynhyrchwyd yn unol â gofynion Mesur Iaith Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'r adroddiad monitro yn rhoi manylion ein cydymffurfiaeth gyda meysydd a nododd Comisiynydd y Gymraeg.
Awdur:Alan Burkitt, Swyddog Polisi Cydraddoldeb a'r Gymraeg
Manylion Cyswllt: alanburkitt@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod aelodau'n cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig: · I gyflwyno Strategaeth Diogelu. · I danategu'r strategaeth gyda rhaglen o dair elfen benodol, sy'n cynnwys: Corfforaethol, Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion. · I newid cylch gorchwyl a chynrychiolaeth Gr?p Cydlynu Diogelwch yr Awdurdod Cyfan. · I ddisodli'r mecanwaith adrodd cyfredol ar berfformiad gyda cherdyn sgôr o fesurau diogelu allweddol i fonitro perfformiad.
|
|
Cynigion ar gyfer darparu meysydd parcio cyhoeddus gan Gyngor Sir Fynwy yn y dyfodol PDF 352 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Ceisiocymeradwyaeth i hysbysebu a gweithredu gorchymyn maes parcio newydd a gweithredu newidiadau eraill i ddarpariaeth meysydd parc cyhoeddus gan Gyngor Sir Fynwy.
Awdur: Roger Hoggins, Pennaeth Gweithrediadau, Amanda Perrin, Rheolwr Meysydd Parcio
Manylion Cyswllt: rogerhoggins@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod aelodau'n nodi cynnwys y gorchymyn drafft ar feysydd parcio a'r datganiad o resymau - atodiadau 1a, 1b, 1c, ac yn dilyn yr ymarfer ymgynghori ac adborth o Bwyllgor Dethol yr Economi a Datblygiad, yn addasu'r gorchymyn fel a ganlyn:
· Ni fydd unrhyw dâl yn cael ei gyflwyno ar gyfer deiliaid bathodyn glas ond mae pob rheoliad arall yn berthnasol (arhosiad byr, parcio y tu allan i'r bae ayyb) · Bod y trefniadau codi tâl cyfredol ar gyfer maes parcio Lôn Byefield, y Fenni, yn parhau (h.y. ni fydd tâl dyddiol yn cael ei gyflwyno ond mae tâl dydd Mawrth yn parhau). · Bod y trefniadau rheolaeth a chodi tâl cyfredol ar gyfer Maes Parcio Welsh Street, Cas-gwent yn parhau (h.y. bod Welsh Street ddim yn dod yn faes parcio arhosiad byr ac yn parhau fel maes parcio arhosiad hir). · Bod y cynnig o 'barcio am awr am ddim' ym meysydd parcio arhosiad byr Cas-gwent ac ar ôl 4.00 yn y Fenni yn cael ei dynnu yn ôl tan fod goblygiadau ariannol y gorchymyn meysydd parcio newydd (gan gynnwys yr addasiadau a restrir uchod a'r gofynion ar fuddsoddiad cyfalaf) yn gallu cael eu hail-asesu er mwyn pennu a yw'r cynnig o awr am ddim yn fforddiadwy. · Bod y mannau parcio am ddim am 30 munud a oedd i gael eu cyflwyno ym maes parcio Stryd Glyndwr, Trefynwy yn cael eu tynnu yn ôl, eto er mwyn disgwyl am asesiad ariannol.
Yn dilyn addasiad, y dylid hysbysebu gorchymyn a'i roi ar waith yn dilyn y cyfnod hysbysebu statudol (gan gymryd bod dim heriau cyfreithiol).
Bod y cyflwyniad o fannau gwefru cerbydau trydan yn mynd yn ei blaen (yn amodol ar ddadansoddiad incwm ac o ba mor fforddiadwy ydyw yn y dyfodol) mewn un maes parcio yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy a bod refeniw meysydd parcio yn cael ei defnyddio i greu unrhyw fuddsoddiad cyfalaf sy'n angenrheidiol (os ydyw'n fwy na'r cyllidebau cyfalaf a argymhellir isod)
Bod aelodau'n cydnabod derbyn deiseb o'r enw 'Deiseb i atal Cyngor Sir Fynwy rhag cyflwyno ffioedd parcio dyddiol ym maes parcio Byefield' - Atodiad 6.
Bod cyllidebau cyfalaf o (i) £250,000 ar gyfer peiriannau tocynnau newydd yn y meysydd parcio, (ii) £300,000 ar gyfer gwelliannau/ailwampiad i feysydd parcio cyfredol, mannau cerbydau trydan ac arwyddion yn cael eu creu a bod y rhain yn cael eu hariannu gan 'fuddsoddiad i arbed' gan ddefnyddio refeniw a gynhyrchwyd trwy'r gorchymyn meysydd parcio a'r drefn rheoli newydd (yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor o gyllideb ddiwygiedig 2016/17).
Bod dichonoldeb cael pris gostyngedig yn y maes parcio ar gyfer defnyddwyr y trên sy'n parcio ym Maes Parcio'r Orsaf yng Nghas-gwent yn cael ei asesu a'i gyflwyno.
Bod yr ased, cynnal a chadw a rheolaeth o feysydd parcio Brynbuga yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref Brynbuga (yn amodol ar drefniadau 'adfachu' pe fydd angen defnyddio'r meysydd parcio neu unrhyw ran ohonynt at ddiben gwahanol).
Bod y Cabinet yn cydnabod yr angen ac yn cadarnhau bod ymchwiliadau'r parhau i ddarpariaeth cyfleusterau parcio ar ... view the full Penderfyniad text for item 3e |
|
Rheoli rhwystrau masnachol yn y briffordd PDF 97 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer mabwysiadu polisi dan y teitl 'Darparu Rheoli Rhwystr Masnachol ar y Briffordd'. Bydd y polisi yn cynnwys gwahanol achlysuron pan mae'r busnes eisiau defnyddio'r briffordd gyhoeddus er mwyn budd i'r cwmni. Bydd yn dod â chysondeb i'r polisi, o fewn prosesau Cyngor Sir Fynwy a hefyd y gymuned Awdurdod Lleol yn ehangach drwy ddefnyddio dull trwyddedu a chodi tâl penodol ar gyfer unrhyw sefydliad sy'n dymuno defnyddio'r briffordd cyhoeddus.
Awdur: Steve Lane, Rheolwr Gweithrediadau, Priffyrdd Sirol
Manylion Cyswllt: stevelane@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Bod aelodau'n nodi cynnwys y gorchymyn drafft ar feysydd parcio a'r datganiad o resymau - atodiadau 1a, 1b, 1c, ac yn dilyn yr ymarfer ymgynghori ac adborth o Bwyllgor Dethol yr Economi a Datblygiad, yn addasu'r gorchymyn fel a ganlyn:
Ni fydd unrhyw dâl yn cael ei gyflwyno ar gyfer deiliaid bathodyn glas ond mae pob rheoliad arall yn berthnasol (arhosiad byr, parcio y tu allan i'r bae ayyb) Bod y trefniadau codi tâl cyfredol ar gyfer maes parcio Lôn Byefield, y Fenni, yn parhau (h.y. ni fydd tâl dyddiol yn cael ei gyflwyno ond mae tâl dydd Mawrth yn parhau). Bod y trefniadau rheolaeth a chodi tâl cyfredol ar gyfer Maes Parcio Welsh Street, Cas-gwent yn parhau (h.y. bod Welsh Street ddim yn dod yn faes parcio arhosiad byr ac yn parhau fel maes parcio arhosiad hir). Bod y cynnig o 'barcio am awr am ddim' ym meysydd parcio arhosiad byr Cas-gwent ac ar ôl 4.00 yn y Fenni yn cael ei dynnu yn ôl tan fod goblygiadau ariannol y gorchymyn meysydd parcio newydd (gan gynnwys yr addasiadau a restrir uchod a'r gofynion ar fuddsoddiad cyfalaf) yn gallu cael eu hail-asesu er mwyn pennu a yw'r cynnig o awr am ddim yn fforddiadwy. Bod y mannau parcio am ddim am 30 munud a oedd i gael eu cyflwyno ym maes parcio Stryd Glyndwr, Trefynwy yn cael eu tynnu yn ôl, eto er mwyn disgwyl am asesiad ariannol.
Yn dilyn addasiad, y dylid hysbysebu gorchymyn a'i roi ar waith yn dilyn y cyfnod hysbysebu statudol (gan gymryd bod dim heriau cyfreithiol).
Bod y cyflwyniad o fannau gwefru cerbydau trydan yn mynd yn ei blaen (yn amodol ar ddadansoddiad incwm ac o ba mor fforddiadwy ydyw yn y dyfodol) mewn un maes parcio yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy a bod refeniw meysydd parcio yn cael ei defnyddio i greu unrhyw fuddsoddiad cyfalaf sy'n angenrheidiol (os ydyw'n fwy na'r cyllidebau cyfalaf a argymhellir isod)
Bod aelodau'n cydnabod derbyn deiseb o'r enw 'Deiseb i atal Cyngor Sir Fynwy rhag cyflwyno ffioedd parcio dyddiol ym maes parcio Byefield' - Atodiad 6.
Bod cyllidebau cyfalaf o (i) £250,000 ar gyfer peiriannau tocynnau newydd yn y meysydd parcio, (ii) £300,000 ar gyfer gwelliannau/ailwampiad i feysydd parcio cyfredol, mannau cerbydau trydan ac arwyddion yn cael eu creu a bod y rhain yn cael eu hariannu gan 'fuddsoddiad i arbed' gan ddefnyddio refeniw a gynhyrchwyd trwy'r gorchymyn meysydd parcio a'r drefn rheoli newydd (yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor o gyllideb ddiwygiedig 2016/17).
Bod dichonoldeb cael pris gostyngedig yn y maes parcio ar gyfer defnyddwyr y trên sy'n parcio ym Maes Parcio'r Orsaf yng Nghas-gwent yn cael ei asesu a'i gyflwyno.
Bod yr ased, cynnal a chadw a rheolaeth o feysydd parcio Brynbuga yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref Brynbuga (yn amodol ar drefniadau 'adfachu' pe fydd angen defnyddio'r meysydd parcio neu unrhyw ran ohonynt at ddiben gwahanol).
Bod y Cabinet yn cydnabod yr angen ac yn cadarnhau bod ymchwiliadau'r parhau i ddarpariaeth cyfleusterau parcio ... view the full Penderfyniad text for item 3f |
|
Adolygu Cronfeydd Cadw a Neilltuwyd PDF 220 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Adolygu lefel y cronfeydd a neilltuwyd a gedwir gan y Cyngor ar ddiwedd 2015/16, y rhesymeg am bob cronfa gadw a'r protocolau ar gyfer eu defnyddio.
Awdur: Joy Robson
Manylion Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r protocolau diwygiedig ar gyfer defnyddio cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi sy'n gynwysedig yn y Polisi ar Gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi yn Atodiad 1 er mwyn sicrhau defnyddio pwrpasol cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi. |
|
Gweithgor Cronfa Eglwys Cymru PDF 140 KB Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Diben yr adroddiad yma yw gwneud argymhellion i'r Cabinet ar y Rhestr Ceisiadau ar gyfer cyfarfod 1 Gweithgor Cronfa Eglwys Cymru blwyddyn ariannol 20916/17 a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2016
Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd – Cymorth Busnes Cylid Canolog
Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Fe benderfynon ni y dylid dyfarnu grantiau i'r canlynol:
CEISIADAU A YSTYRIWYD 2016/17 - CYFARFOD 1.
(1) Gofynnodd Tîm Tref Cil-y-Coed am £1,000 i gynorthwyo gyda phrynu offer stondin marchnad wedi'i brandio i gynyddu nifer y cwsmeriaid a denu cwsmeriaid newydd i'r farchnad. Argymhelliad - Dyfarnwyd £500 i gynorthwyo gyda phrynu offer arbenigol wedi'i brandio i gynorthwyo'r gr?p cymunedol hwn.
(2) Gofynnodd Neuadd Bentref Goetre am £500 i gynorthwyo gydag amnewid drysau er mwyn iddynt gydymffurfio â gofynion mynediad anabl. Argymhelliad - Dyfarnwyd £500 i gynorthwyo gyda phrynu cyfarpar i gynorthwyo gyda mynediad i'r anabl i'r cyfleuster cymunedol.
(3) Gofynnodd Pwyllgor Adnewyddu Cae Eglwys Penterry am £2,500 i gynorthwyo gydag adnewyddu to'r eglwys. Argymhelliad - Dyfarnwyd £1,250 i gynorthwyo gydag adnewyddu to'r eglwys.
(4) Gofynnodd John Richard Buck am £618 tuag at y gost o addasu cegin ar gyfer anabledd. Argymhelliad - Dyfarnwyd £618 oherwydd bod galw am ddiweddaru'r cyfleuster hwn.
(5) Gofynnodd Ffrindiau 'Morwyn Tyndyrn' am £1,000 i gynorthwyo gyda chynnal digwyddiad di-gost 'Sungvespars' yn Nhyndyrn. Argymhelliad - dyfarnwyd £250 i gynorthwyo gyda threfnu'r digwyddiad cymunedol poblogaidd hwn.
(6) Gofynnodd Emma Thomas am £150 i gynorthwyo gyda mynychu cwrs preswyl Cerddorfa Genedlaethol y Sgowtiaid a'r Geidiaid Argymhelliad - Dyfarnwyd £150 i gynorthwyo gyda helpu'r ymgeisydd ennill cymhwyster a ellid ei defnyddio i fuddio eraill yn y gymuned.
(7) Gofynnodd Eglwys Fethodistaidd y Fenni am £1,000 i gynorthwyo i dalu am adnewyddu cyntedd / ffrynt yr Eglwys a gwella draeniad ar dir yr eglwys. Argymhelliad - Dyfarnwyd £1,000 er mwyn gallu cynnal atgyweiriadau hanfodol i'r eglwys.
(8) Gofynnodd Eglwys y Santes Fabli, y Fenni am £5,000 tuag at y gost o osod toiled anabl a chegin newydd ynghyd ag unrhyw waith tir cysylltiedig. Argymhelliad - gofyn am ragor o wybodaeth am ffynonellau cyllid eraill arfaethedig ar gyfer y prosiect mawr hwn cyn ystyried dyfarniad.
(9) Gofynnodd Ymddiriedolaeth Gadwraeth Gerddi Nelson am £1,000 i gynorthwyo gyda chadwraeth yr adeiladau yn yr ardd a darparu toiled anabl. Argymhelliad - Dyfarnwyd £500 tuag at gostau prosiect y gr?p cymunedol hwn.
(10) Gofynnodd Olivia Bartieri am £450 tuag at allu cystadlu ym Mhencampwriaeth Ffensio Ieuenctid Prydain. Argymhelliad - Dyfarnwyd £200 i helpu darparu cefnogaeth i un o drigolion Sir Fynwy gystadlu ar lefel cenedlaethol.
(11) Gofynnodd yr Eglwys Unedig Ddiwygiedig, y Fenni am £1,000 i helpu i amnewid tair ffenestr newydd ym mlaen y capel sydd angen eu trwsio/hamnewid. Argymhelliad - Dyfarnwyd £500 i gynorthwyo gyda'r gwaith o gynnal a chadw'r eglwys ar ôl ystyried yr adnoddau ariannol eraill ar gael.
(12) Mae H. E. Lawton angen cymorth (cais am £750) i dalu'r ffioedd am leoliad yn yr Academi Gerddoriaeth Frenhinol i astudio Gradd Meistr mewn Perfformiad o fis Medi 2016. Argymhelliad - Dyfarnwyd £500 i gyfrannu tuag at gyrhaeddiad academaidd un o drigolion Sir Fynwy.
(13) Gofynnodd Eglwys Blwyf y Rhaglan am £1,000 i gynorthwyo gyda gosod a phrynu offer ar gyfer cegin fach yn festri'r eglwys. Argymhelliad - Dyfarnwyd £1,000 tuag at gyfleusterau arlwyo ar gyfer defnyddwyr yr eglwys. ... view the full Penderfyniad text for item 3h |