Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2017/18 - Cynigion terfynol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus PDF 451 KB Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben:Diweddaru'r Cabinet gydag ymatebion yr ymgynghoriad i'r cynigion cyllideb a gyhoeddwyd ganddynt ar 16 Rhagfyr 2016 yng nghyswllt y cyllidebau Cyfalaf a Refeniw. Diweddaru aelodau gyda'r goblygiadau yn deillio o gyhoeddiad Setliad Terfynol Llywodraeth Cymru. Gwneud argymhellion i'r Cyngor ar y cyllidebau Cyfalaf a Refeniw a lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18. Derbyn cyfrifiadau Dangosydd Darbodus cyllido cyfalaf y Swyddog Ariannol Cyfrifol. Derbyn adroddiad statudol y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar y groses cyllideb ac os yw cronfeydd wrth gefn yn ddigonol. Awdur: Joy Robson – Pennaeth Cyllid Manylio Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn argymell i'r Cyngor
Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r cynigion arbedion angenrheidiol a rhyddhau £1.653 miliwn o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi i sicrhau'r newidiadau sydd eu hangen i gefnogi cyllideb refeniw a chyfalaf 2017/18 ac yn nodi'r lefel critigol isel o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi o £4.85 miliwn sydd ar ôl ar ddiwedd 2017/18.
Bod y Cyngor yn argymell i'r Cyngor y cedwir gofod yn y gyllideb refeniw i alluogi sicrhau ymrwymiadau cyfalaf allweddol a wnaed eisoes wrth i wybodaeth bellach ddod ar gael a'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo. Defnyddir cronfa wrth gefn Cydraddoli Trysorlys i gynnal y gofod os oes angen.
Bod y Cabinet yn argymell fod y Cyngor yn gwaredu ag asedau a ddynodwyd yn y papur cefndir eithriedig am ddim llai na'r ystyriaeth orau y gellir yn rhesymol ei gael.
Bod y Cabinet yn ystyried adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar gadernid y broses cyllideb a digonolrwydd yr adnoddau a gyhoeddwyd dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003.
Bod y Cabinet yn mabwysiadu adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol am Ddangosyddion Darbodus.
Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r dilynol::
i. Gwneud gwaith pellach i ddatblygu cynllun ariannol tymor canol dros y cyfnod tair blynedd 20187/19 i 2020/21 ii. adolygu'r cynllun ariannol tymor canol yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau'n gyfoes
|