Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Cyllid Adran 106 – Cae 3G ac Uwchraddio Ardal Chwarae Castell Cil-y-Coed PDF 89 KB Ward/Rhanbarth a Effeithir: Cil-y-Coed
Diben: Ceisio cymeradwyaeth aelodau i ddefnyddio gweddill cyllid Adran 106 a gedwir gan y Cyngor o ddatblygiad safle Taylor Wimpey yn Heol yr Eglwys, Cil-y-Coed.
Adolygu’r cymeradwyaeth a gytunwyd iddi eisoes mewn perthynas ag ardaloedd chwarae Castell Cil-y-Coed a Chas Troggy.
Awduron: Mike Moran, Cydlynydd Isadeiledd Cymunedol
Manylion Cyswllt mikemoran@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Argymell bod y Cyngor yn cynyddu cyllideb cyfalaf 3G (Cod Cyllideb Cyfalaf 90761) gan £26,335 i gynnwys y gwariant ychwanegol a aethpwyd iddo ar y prosiect hwn. · Y dylid defnyddio £26,335 o weddill Adran 106 Heol yr Eglwys i wneud yn iawn am y gorwariant a aethpwyd iddo wrth gynnal gwaith ychwanegol ar gae 3G Glan Hafren yng Nghil-y-Coed; · Bod £63,500 o weddill Adran 106 Heol yr Eglwys yn cael ei defnyddio i uwchraddio'r ardal chwarae i blant yng Nghastell Cil-y-Coed yn gyfan gwbl; · Y dylid oedi uwchraddio'r ardal chwarae i blant yng Nghas Troggy, Cil-y-Coed er mwyn rhoi ystyried pellach i ardaloedd chwarae yn gyffredinol ledled y Sir.
|
|
Cytuno i ganiatáu mynediad i Gyngor Dinas Casnewydd rhan Partner Ychwanegol i’r SRS PDF 288 KB Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Dim
Diben: Uchelgais y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir (SRS) erioed oedd ehangu darpariaeth gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cwblhau a chymeradwyo achos busnes trwy ei brosesau awdurdodi a phwyllgorau ei hun, ac mae wedi gwneud cais ffurfiol i ddod yn bartner yn y SRS Mae hwn yn garreg milltir arall yn nhaith SRS, ac yn un i ddathlu ehangiad y model gwasanaeth ar y cyd.
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth o’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (PCC) a Chabinetau partneriaid SRS i wahodd Cyngor Dinas Casnewydd i ymuno â SRS.
Awdur: Sian Hayward
Manylion Cyswllt: sianhayward@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: · Bod pob partner yn cytuno bod Cyngor Dinas Casnewydd yn ymuno â SRS fel partner, gan arwain at fuddion i SRS a phob sefydliad sy'n bartner.
|
|
Adolygiad o ffioedd a chostau arfaethedig yr Awdurdod i’w cynnwys yng nghyllideb 2017-18 PDF 799 KB Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pob un
Diben: Adolygu’r ffioedd a chostau a godir ledled y Cyngor ac adnabod cynigion i addasu costau o fis Ebrill 2017.
Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol
Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: · Bod y ffioedd a chostau arfaethedig ar gyfer 2017/18 a nodwyd ar gyfer pob math o wasanaeth â chost a wneir, fel yr amlinellir yn Atodiad 1, yn cael eu mabwysiadu. Gan eithrio cynnydd yng nghostau meysydd parcio. · Bod y cynnydd mewn costau yn dechrau dim hwyrach na'r 1af o Ebrill 2017, gydag unrhyw bwysau a ddaw o gynnydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei reoli gan Brif Swyddogion o fewn dyraniadau cyllideb eu cyfarwyddiaeth berthnasol. · Bod Prif Swyddogion yn sylfaenol yn rheoli'r pwysau ar gyllidebau a amlygir gan wasanaethau nad sy'n cynyddu costau yn unol â'r cynnydd 2.5% a dybir yn MTFP 2017-21. Dylid hefyd ystyried effeithiolrwydd costau a'r costau gweinyddol a ddaw yn sgil ychwanegu cynnydd bach i gostau cyfredol.
|
|
Cynigion cyllideb drafft 2017/18 am ymgynghoriad PDF 318 KB Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pob un
Diben: Darparu cynigion drafft manwl ar yr arbedion gofynnol yn y gyllideb er mwyn llenwi’r bwlch rhwng yr adnoddau sydd ar gael a’r angen i wario i 2017/18, at ddibenion ymgynghori.
Ystyried cyllideb 2017/18 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 4 blynedd (MTFP) a’r blaenoriaethau sydd wedi dod i’r amlwg er mwyn tywys gweithgareddau trwy Sir Fynwy y Dyfodol.
Awdur: Joy Robson – Pennaeth Cyllid
Manylion Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: · Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi'r cynigion drafft ar arbedion yn y gyllideb ar gyfer 2017/18 at ddibenion ymgynghori. · Bod y Cabinet yn cymeradwyo bod y cyfnod ymgynghori a'r cyfle i gyflwyno cynigion amgen sydd wedi cael eu hasesu o ran Effaith ar Gydraddoldeb yn dod i ben ar 31 Ionawr 2017. · Bod y Cabinet yn cytuno i barhau i weithio ar y meysydd sydd eu hangen i fantoli cyllideb 2017/18 a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (MTFP), trwy'r cyfleoedd hynny a nodwyd yn rhaglen Sir Fynwy y Dyfodol sydd ar y gweill.
|
|
Cynigion cyllideb cyfalaf 2017/18 i 2020/21 PDF 124 KB Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pob un
Diben: Amlinellu’r gyllideb cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2017/18 a’r cyllidebau cyfalaf dangosol ar gyfer y cyfnod rhwng 2018/19 a 2020/21.
Awdur: Joy Robson – Pennaeth Cyllid
Manylion Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: · Bod y Cabinet yn cyhoeddi ei gynigion drafft ar gyllideb cyfalaf ar gyfer 2017/18 i 2018/21 at ddibenion ymgynghori fel yr amlinellwyd a chyfeiriwyd at yn Atodiad 2. · Bod y Cabinet yn cadarnhau strategaeth gyfalaf sy'n ceisio blaenoriaethu rhaglen Ysgolion y Dyfodol y Cyngor ac ymrwymiadau eraill tra hefyd yn parhau i ariannu rhaglen cyfalaf craidd isafswm, a gan gydnabod y risgiau sydd ynghlwm â'r ymagwedd hon. · Bod y Cabinet yn adolygu blaenoriaethau'r rhaglen gyfalaf yn sgil y materion a godwyd yn 3.7 a gofynion eraill am adnoddau cyfalaf. · Bod y Cabinet yn ailddatgan yr egwyddor bod cynlluniau newydd yn gallu cael eu hychwanegu at y rhaglen, dim ond os yw'r achos busnes yn dangos eu bod yn hunan-ariannu neu os bennir bod y cynllun yn flaenoriaeth uwch na chynlluniau cyfredol yn y rhaglen ac felly yn eu disodli. · Bod y Cabinet yn cytuno i uchafu'r defnydd o dderbynebau cyfalaf pan y'u derbynnir i ariannu'r rhaglen cyfalaf (gan leihau'r angen i fenthyg trwy hynny), a/neu eu rhoi i'r neilltu i ad-dalu dyledion fel yr amlinellwyd ym mharagraff 3.10. · Bod y Cabinet yn cytuno i werthu asedau yn unol â'r Cynllun Rheoli asedau ac a nodwyd yn y papur cefndir ar eithriadau er mwyn cefnogi'r rhaglen gyfalaf, ac unwaith y cytunir arnynt, bod dim opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar gyfer yr asedau hyn.
|