Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
RMonitro Cyfalaf a Refeniw 2016/17 - Cyfnod 1 Datganiad Rhagolygon Alldro PDF 703 KB Ward: Pawb
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi gwybodaeth i Aelodau ar y safle alldro o refeniw rhagolygon yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 1 sydd yn cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 2 ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17. Mae’r rhagolygon ar gyfer Refeniw a Chyfalaf yn cael eu dwyn ymlaen gan fis yn erbyn yr amserlen arferol, a hynny er mwyn rhoi’r wybodaeth gyllidol berthnasol i Aelodau cyn gwyliau’r haf.
Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cynorthwyol Cyllid
Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mae'r Cabinet yn nodi ystent y rhagolwg o orwariant refeniw yng nghyfnod 1 o £1.37 miliwn.
Mae'r Cabinet yn gofyn bod Prif Swyddogion yn darparu gwybodaeth ar sut fydd y sefyllfa o orwario yn cael ei gymryd yn ôl o fewn y gyllideb, gan gynnwys cynlluniau amgen i gyflwyno'r arbedion o £301,000 a fandadwyd nad sy'n gyraeddadwy o fewn y cyfnod monitro nesaf.
Mae'r Cabinet yn gofyn bod y Gyfarwyddiaeth yn adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac yn ail-ddyrannu cyllidebau i leihau'r ystent o orfod adrodd am sefyllfaoedd cydadferol cyn yr adroddiad 6 mis.
Mae'r Cabinet yn gwerthfawrogi ystent y defnydd o'r cronfeydd wrth gefn arfaethedig ar gyfer ysgolion a'r disgwyliad y bydd 13 ysgol mewn sefyllfa ddiffygiol erbyn diwedd 2016-17.
Ystyriodd y Cabinet y monitro cyfalaf sy'n dangos amrywiaeth fechan yn unig o'r gyllideb yn sgil cymeradwyaeth ddiweddar y Cabinet a'r Cyngor ar D? Caerwent.
Mae'r Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnydd o dderbynebau cyfalaf yn y flwyddyn arfaethedig a'r potensial i hyn roi pwysau sylweddol ar refeniw pe byddai oedi gyda'r derbynebau a bod rhaid benthyg cyllid dros dro. |
|
Crick Road – Gwerthiant posib i Melin Homes PDF 301 KB Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb
Pwrpas: Ystyried penderfyniad o ran egwyddor i werthu safle Crick Road i Melin Homes er mwyn manteisio i’r eithaf ar y gwerth cymdeithasol a chyfalaf.
Awdur: Deb Hill-Howells – Pennaeth Cyflenwi Cymuned
Manylion Cyswllt: debrahill-howells@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: Mae'r Cabinet yn cytuno i'r Cyngor gychwyn trafodaethau gyda Thai Melin ar werthiant arfaethedig Heol Crick er mwyn datblygu Cynllun Busnes a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet maes o law. Bydd y costau a fydd Melin yn mynd iddynt wrth ddatblygu'r cynllun hwn yn cael eu gwarantu gan y Cyngor hwn os byddwn yn dewis peidio â pharhau gyda'r gwarediad.
Bydd canlyniad y trafodaethau hyn yn cael ei adrodd yn ôl i'r Cabinet am drafodaeth ar a ddylid parhau gyda'r gwerthiant ai peidio. |
|
Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cyngor - 2015/16 Diweddariad PDF 493 KB Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb
Pwrpas: Rhoi diweddariad i’r Cabinet ar berfformiad y cyngor yn 2015/16, a hynny yn erbyn set o fesurau sydd yn bwysig wrth ffurfio barn ar wasanaethau cyfredol gwasanaethau’r cyngor.
Awdur: Richard Jones, Swyddog Polisi a Pherfformiad; Sian Schofield, Dadansoddwr Data
Manylion Cyswllt: richardjones@monmouthshire.gov.uk; sianschofield@monmouthshire.co.uk
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn defnyddio'r adroddiad hwn i helpu gyda'u monitro a gwerthuso parhaus o effeithlonrwydd gwasanaethau ac i ba raddau y maen nhw'n cyfrannu at flaenoriaethau'r cyngor o addysgu plant, cefnogaeth i bobl agored i niwed, menter a chreu swyddi a chynnal gwasanaethau lleol hygyrch.
Bod y Cabinet yn defnyddio'r adroddiad hwn i adnabod unrhyw gamau gweithredu sydd angen eu cymryd i yrru gwelliannau, gan sicrhau bod gwasanaethau mor effeithlon ac effeithiol â phosib yng nghyd-destun adnoddau cyfredol. |
|
Adolygiad Uwch Arweinyddiaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd PDF 320 KB Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb
Pwrpas: Cynnig strwythur arweinyddiaeth ddiwygiedig ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Awdur: Claire Marchant, Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Manylion Cyswllt: clairemarchant@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunoar strwythur uwch arweiniad addas i'r diben ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.
Awdurdodii'r Prif Swyddog barhau gyda chamau gweithredu rheoli angenrheidiol i roi'r newidiadau hyn ar waith gan wneud hyn yn unol â pholisïau cyflogaeth cymeradwy y Cyngor.
Gofyn, pe nad oes modd talu'r costau diswyddo o gronfa'r gyfarwyddiaeth, bod y costau hyn yn dod o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer Diswyddiadau a Phensiynau.
Gofyn am fynediad i'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer buddsoddi i ail-ddylunio i gefnogi'r gallu trawsnewid sydd ei angen i gyflwyno'r newidiadau angenrheidiol er mwyn cyflawni gwelliant cynaliadwy yng ngwasanaethau plant |
|
Adroddiad Gwella Gwasanaethau Plant PDF 333 KB Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb
Pwrpas: Rhoi gwerthusiad i’r Cabinet o faterion cyfredol a’r heriau allweddol o fewn y Gwasanaethau Plant a chynnig rhaglen gwella gwasanaeth sydd yn mynd i’r afael â’r heriau yma.
Awdur: Jane Rodgers, Pennaeth Gwasanaethau Plant
Manylion Cyswllt: janerodgers@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo'r Gwelliannau i Wasanaethau plant fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Cymeradwyo buddsoddiad o £250,000 o Gronfeydd wrth gefn Blaenoriaethu Buddsoddiad er mwyn cefnogi gwelliannau i arferion gwasanaethau plant sy'n |
|
Cynllun Datblygu Gweithlu a Phractis PDF 538 KB Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb
Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo’r dull a argymhellir yn y Cynllun Gweithredu Datblygu Gweithlu a Phractis
Awdur: Claire Robins, Arweinydd Materion Gweithlu
Manylion Cyswllt: clairerobins@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Byddaelodau'n derbyn ac yn craffu ar y wybodaeth yn ymwneud â'r heriau allweddol o fewn Cynllun Datblygu'r Gweithlu ac Arferion. |
|
Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pawb
Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo’r Strategaeth ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’u Teuluoedd.
Awdur: Craig Williams, Prif Gomisiynydd – Gwasanaethau Plant
Manylion Cyswllt: craigwilliams@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r ymagwedd yn y Strategaeth i Blant, Pobl Ifanc a'u Teuluoedd, ac y byddant yn adolygu cynnydd a'r ymagwedd yn rheolaidd. |
|
Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Pobl Mehefin 2016 PDF 78 KB Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir:
Pwrpas: Cyflwyno’r’ adroddiad Blynyddol cyntaf ar Wasanaethau Pobl i’r Cabinet, a hynny er gwybodaeth ac ar gyfer sylwadau.
Awdur: Tracey Harry, Pennaeth Gwasanaethau Pobl a Llywodraethiant Gwybodaeth
Manylion Cyswllt: traceyharry@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn ystyried cynnwys Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Pobl ac yn nodi unrhyw faterion yr hoffent i Dîm Gwasanaethau Pobl eu hystyried yn y dyfodol. |
|
Costau Dileu Swyddi, Gwasanaethau Hamdden PDF 205 KB
Dylid gwahardd y cyfryngau a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem ganlynol, hynny ar y sail y bydd y drafodaeth yn debygol o ddatgelu gwybodaeth esempt.
Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir:
Pwrpas: Gwneud darpariaeth ar gyfer y costau o ddileu swyddi, a hynny o ganlyniad i’r Rhaglen Chwaraeon a Hamdden ac effeithlonrwydd ar gyfer 2016/17.
Awdur: Ian Saunders Pennaeth Twristiaeth, Hamdden a Diwylliant
Manylion Cyswllt: iansaunders@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo'r argymhellion yn yr adroddiad.
|