Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm): |
|
Cynyddu Cyfleoedd Teithio Llesol PDF 166 KB Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan
Diben: Cymeradwyo’r ymgynghoriad ar gyfer y cynigion am Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Integedig a Ffocws Strategol y Dyfodol ar gyfer Teithio Llesol yn unol â’r ddyletswydd gyfreithiol dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Awdur: Susan Hughes, Swyddog Teithio Llesol, BywydMynwy; Paul Sullivan, Rheolwr Ieuenctid, Chwaraeon a Theithio Llesol, BywydMynwy Contact Details:susanhughes@monmouthshire.gov.uk; paulsullivan@monmoutshhire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cynllun Ymgynghori ar Deithio Llesol (Atodiad A) a’r Papur Ffocws Strategol Teithio Llesol (Atodiad B)
|
|
Datgloi Canol Trefi Sir Fynwy PDF 580 KB Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan
Diben: Ystyried ymateb tymor byr a chynllun adferiad tymor canol y Cyngor ar gyfer Canol Trefi Sir Fynwy i gynorthwyo dychwelyd ffyniant i’n trefi a chymunedau wrth i Gymru symud ymlaen tra’n byw gyda phandemig Covid 19.
Awduron:Cath Fallon, Pennaeth Menter a Bywiogi Cymunedau Mark Hand, Pennaeth Gwneud Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd Roger Hoggins, Pennaeth Prosiectau Strategol Ian Saunders, Prif Swyddog Gweithredol BywydMynwy
Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo’r cynllun amlinellol y manylir arno yn yr adroddiad a chyflwyno datganiad o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru am Gyllid i helpu mesurau trafnidiaeth gynaliadwy lleol mewn ymateb i Covid-19.
|
|
Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan
Diben: Ystyried a chymeradwyo cynnig i ddefnyddio cyfleuster adedysg awyr agored y Cyngor yn y Gilwern – yn bendol bloc Blorenges, i ddarpary llety argyfwng dros dro i’r digartref er mwyn i’r Cyngor gyflawni gofynion canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd yn ystod Covid 19. .
Awdur: Ian Bakewell, Rheolwr Tai a Chymunedau
Manylion Cyswllt: ianbakewell@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Ystyried y peryglon, y risgiau a’r heriau presennol o ran darparu llety i ymgeiswyr digartref.
Cytuno i ddefnyddio Bloc y Blorenge yng Nghanolfan Gilwern dros dro nes y 21ain o Awst 2020 ar gyfer llety i’r digartref mewn achosion brys sy’n ymwneud â Covid a phenodi swyddogion diogelwch i helpu i oruchwylio’r adeilad a’r safle.
Comisiynu swyddogion i baratoi adroddiad pellach sy’n ystyried yr opsiynau tymor canol a hir-dymor a chynigion ar gyfer darparu llety ar gyfer ymgeiswyr digartref.
Gweithio gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ganfod er mwyn talu’r costau o ran darparu llety i bobl ddigartref ychwanegol yn y dyfodol a thu hwnt i COVID-19
O ganlyniad i’r natur frys, bod y maen prawf arferol o ran galw i mewn yn cael ei ohirio a bod y penderfyniad hwn yn cael ei adrodd i’r Cyngor Llawn. |
|
Covid 19 - Datganiad Sefyllfa Diogelu Awdurdod Cyfan. PDF 135 KB Wardiau/Adrannau yr effeithir arnynt: Y cyfan
Diben: Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i’r cabinet ar sut y cyflenwir diogelu drwy gyfnod Covid 19, a sut mae gwaith Diogelu Awdurdod Cyfan yn parhau.
Awdur: Julie Boothroyd, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd.
Manylion Cyswllt: julieboothroyd@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r adroddiad diweddariad ar ddiogelu gan gynnwys: · Y datganiad sefyllfa ar ddiogelu (Atodiad1) · Y matrics risg ( Atodiad 2)
|