Skip to Main Content

Agenda

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21ain Gorffennaf 2022 pdf icon PDF 423 KB

3.

Datganiadau o Fuddiant

4.

Cwestiynau Cyhoeddus

5.

Cyhoeddiad y Cadeirydd – Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II

6.

Adroddiadau i’r Cyngor:

6a

DATBLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGEDIG 2022 SIR FYNWY pdf icon PDF 295 KB

Dogfennau ychwanegol:

6b

CYNIGION AR GYFER YR AFONYDD A’R MÔR pdf icon PDF 273 KB

Dogfennau ychwanegol:

6c

ADRODDIAD RHAGLENNI HAF MONLIFE AR GYFER MYND I’R AFAEL GYDA THLODI AC ANGHYDRADDOLDEB 2022 pdf icon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

6d

HUNAN-ASESIAD CYNGOR SIR FYNWY 2021/22 pdf icon PDF 540 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

Cynigion i’r Cyngor:

7a

Cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Ian Chandler

Mae’r Cyngor yma yn nodi:

 

Roedd y Datganiad o Argyfwng Hinsawdd a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 16eg Mai 2019 yn cynnwys yr ymrwymiadau:

 

·       Bydd y Cyngor hwn yn parhau i adolygu’r Cynllun Corfforaethol,  y Cynllun Llesiant, Cynlluniau Datblygu Lleol ac unrhyw gynlluniau a pholisïau perthnasol eraill er mwyn cefnogi’r uchod.

·       Yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y Sir a Chynghorau a mudiadau eraill i helpu datblygu a gweithredu arferion gorau wrth gyfyngu ar y cynhesu byd-eang i lai na  1.5 gradd Celsius. 

Mae deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i atgyfnerthu egwyddorion datblygu cynaliadwy ym mhob un practis.

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi hefyd:

 

Mae angen i’r Cyngor yn gyfreithiol i ddal o leiaf £10 miliwn mewn arian parod wrth gefn, ac er mwyn rheoli’r  llif arian sydd yn amrywio, mae’r Cyngor fel arfer yn dal rhwng £10 miliwn ac £16 miliwn mewn arian parod wrth gefn sy’n cael ei fuddsoddi.  

 

Y Cyngor yw  Ceidwad Buddsoddiad cyrff eraill gan gynnwys Cronfa Eglwys Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy, ac mae eu buddsoddiad cyfun hwy yn fwy na £5 miliwn.

 

Mae’r Cyngor yn rhan o Gronfa Pensiwn Gwent Fwyaf sydd yn meddu ar asedau sy’n cael eu buddsoddi gwerth mwy na £3.7 biliwn.

 

Mae’r Cyngor yn cytuno i:

a)       Ymchwilio pa mor gyfrifol y mae’r Cyngor yn buddsoddi ei falans arian parod  

b)      Datblygu polisi buddsoddi cynaliadwy sydd yn gyson gyda Datganiad o Argyfwng Hinsawdd y Cyngor a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

c)       Gweithio gyda Chronfa Pensiwn Gwent Fwyaf er mwyn mabwysiadu polisi buddsoddi cynaliadwy tebyg.

 

 

7b

Cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Frances Taylor

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu polisi a’u dull o weithio o ran  Ardrethi Annomestig ar gyfer busnesau bach.   

 

O’r 1af Ebrill 2022, mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi   Annomestig ar gyfer Busnesau wedi ei ddiwygio er mwyn lleihau’r lefel o ryddhad y mae busnesau bach yn derbyn erbyn hyn, a hynny hyd at uchafswm o  50%. Mae hyn yn golygu bod busnesau a fu cyn hyn yn medru manteisio ar y ffaith nad oeddynt yn gorfod talu, nawr yn gorfod talu 50% o’u biliau cyfradd dreth ar ôl derbyn unrhyw ryddhad arall sydd yn berthnasol. 

 

Wrth gydnabod y storm berffaith sydd yn wynebu busnesau bach o ran costau, egni a chyflenwadau gyda nifer yn parhau i  ddelio gyda phethau ar ôl pandemig Covid-19, bydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gofyn am adolygiad o’r polisi cyfredol.

 

 

8.

Dyddiad y cyfarfod nesaf – 27ain Hydref 2022