Skip to Main Content

Agenda

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

Cwestiynau’r Cyhoedd

4.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 225 KB

5.

Adroddiadau i’r Cyngor

5a

Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Corfforaethol 2019/20 pdf icon PDF 289 KB

Dogfennau ychwanegol:

5c

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Sir Fynwy, Adolygiad o faterion, gweledigaeth, amcanion, a’r sylfaen dystiolaeth yng ngwyneb COVID-19 a chytundeb cyflenwi wedi’i adolygu pdf icon PDF 495 KB

Dogfennau ychwanegol:

5d

Neuadd Ddata a Threfniadau Lletya Data yn y Dyfodol pdf icon PDF 457 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

Rhestr o Gynigion

6a

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir A. Easson

Mae Dechrau’n Deg yn gyfleuster arbennig ar gyfer rhieni sydd â phlant ifanc.  Fodd bynnag, mae eu cod post yn atal rhai rhieni rhag cael mynediad at y gwasanaeth.  

Yn fy ward i, yn enwedig, mae rhieni ifanc a oedd yn cael eu cefnogi gan Dechrau’n Deg wedi symud, efallai 100m,  ac o ganlyniad, mae eu cod post wedi newid ac maent wedi syrthio allan o’r cynllun. 

Yn yr hinsawdd sydd ohoni, dylid ehangu’r cymorth a roddir gan Dechrau’n Deg i deuluoedd mewn angen sy’n byw o fewn codau post eraill.

Rwy’n cynnig bod Cyngor Sir Fynwy’n edrych yn fanwl, a hynny ar frys, ar ehangu’r cynllun Dechrau’n Deg, er mwyn sicrhau y gallant roi cymorth i fwy o deuluoedd sy’n brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd ar hyn o bryd.

 

6b

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni

Bod y Cyngor yn siomedig yngl?n â phenderfyniad y cabinet i gau canolfan ailgylchu Brynbuga a’u bod yn teimlo y dylai’r cabinet fod wedi gweithio gyda thrigolion Brynbuga, gr?p yr ymgyrch Surf a Chyngor Tref Brynbuga er mwyn datrys y problemau ar y safle a chyflwyno datrysiad a fyddai wedi gweithio er budd pawb.

 

6c

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir D. Batrouni

Y dylai’r Cabinet Ceidwadol gefnu ar gynlluniau i gynyddu cost casglu gwastraff gardd ar garreg y drws o 94%.

 

 

7.

Cwestiynau’r Aelodau:

7a

Gan y Cynghorydd Sir L. Dymock i’r Cynghorydd Sir S. Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Datblygiad Cymunedol

Pa gefnogaeth sydd wedi ei roi i blant a phobl ifanc yn ystod y 7 mis diwethaf o ran y rheiny sy’n dioddef â phroblemau iechyd meddwl a lles?

 

 

7b

Gan y Cynghorydd Sir J. Watkins i’r Cynghorydd Sir J. Pratt, Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymunedol

Ar y 18fed o Fedi, cwblhawyd cam Gofod Cyrchfan The Cross, Cynllun Adfywio Cil-y-coed, er hyn, ni osodwyd arwyddion sy’n dynodi’r terfyn cyflymder a hawl tramwy cerddwyr. Ar adeg ysgrifennu’r cwestiwn hwn ar y 12fed o Hydref, nid oedd arwyddion wedi eu gosod (er gwaethaf sawl cyswllt â swyddogion y Cyngor). Mae hyn yn creu sefyllfa beryglus gan fod dryswch ymysg gyrwyr a cherddwyr. A oes modd i’r Aelod Cabinet roi manylion yngl?n â phryd y bydd arwyddion yn cael eu gosod a sut y bu i hyn gael ei esgeuluso.

 

7c

Gan y Cynghorydd Sir A. Watts i’r Cynghorydd Sir P. Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Iechyd

Sut y bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi cartrefi gofal?

 

7d

Gan y Cynghorydd Sir A. Watts i’r Cynghorydd Sir P. Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Iechyd

A oes unrhyw werthusiad yn cael ei wneud o well arferion ymysg lleoliadau gofal yn Sir Fynwy?

 

7e

Gan y Cynghorydd Sir A. Watts i’r Cynghorydd Sir P. Murphy, Aelod Cabinet dros Adnoddau

Faint o arian sydd wedi ei fuddsoddi gan y Cyngor er mwyn paratoi am ail don?

 

8.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 10fed o Fedi 2020 pdf icon PDF 283 KB

9a

Datganiad o Gyfrifon 2019/2020 wedi’u harchwilio ac Adroddiad ISA260 pdf icon PDF 327 KB

Dogfennau ychwanegol: