Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 16eg Mai, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Dim.

4.

Derbyn deisebau

5.

I ethol Arweinydd y Cyngor ac i dderbyn hysbysiad am ddirprwyaethau'r Arweinydd (penodiadau i'r Cabinet)

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir P. Murphy wedi cynnig fod y  Cynghorydd Sir P. Fox yn cael ei ethol fel Arweinydd y Cyngor.  Roedd y cynnig wedi ei eilio gan y Cynghorydd Sir P. Jordan.

 

Roedd y Cynghorydd Sir M. Groucutt wedi cynnig fod y  Cynghorydd Sir D. Batrouni yn cael ei ethol fel Arweinydd y Cyngor.  Roedd y cynnig wedi ei eilio gan y Cynghorydd Sir T. Thomas.

 

Wedi pleidlais, pleidleisiwyd Cynghorydd Sir P. Fox fel Arweinydd y Cyngor.  

 

Roedd y Cynghorydd Fox wedi mynegi ei fod yn ddiolchgar i’r Cyngor am ei ail-ethol, ac wedi cymryd y cyfle i ddiolch i’r cyn-Aelod Cabinet, Cynghorydd Sir B. Jones, ac yn dymuno’n dda iddo yn ei rôl fel Is-Gadeirydd.  

 

Mae newidiadau i bortffolios y Cabinet yn cael eu gwneud ar ôl y cyfarfod, ond rhoddwyd gwybod i’r Cyngor mai’r Cynghorydd Sir J. Pratt fyddai’r Aelod Cabinet newydd ar gyfer Gwasanaethau Seilwaith a Chymdogaethau.  

 

6.

Cynrychiolaeth y Grwpiau Gwleidyddol - Adolygiad pdf icon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan fod angen i’r Cyngor adolygu yn ystod y cyfarfod blynyddol, neu cyn gynted ag sydd yn ymarferol ar ôl y cyfarfod blynyddol, y gynrychiolaeth sydd gan y pleidiau gwahanol ar y cyrff hynny y mae’r Cyngor yn gwneud apwyntiadau iddynt.  

 

Ar ôl pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhelliad:

 

Derbyn yr adroddiad (ac atodiadau) fel adolygiad o dan Adran 15 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ac apwyntio i’r pwyllgorau arferol gyda’r rhifau a’r addasiadau a ddynodir isod:

 

 

 

 

 

 

Pwyllgor

Ceid

Llaf

Dem. Rhydd

Annib,

Dethol (x5 (9)

26

10

3

6

Trwyddedu a Rheoleiddio (12)

7

3

1

1

Cynllunio (16)

9

4

1

2

Gwasanaethau Democrataidd (12)

7

3

1

1

Archwilio (11 heb gynnwys 1 lleyg)

7

2

1

1

‘Aggregate entitlement’

56

22

7

11

 

7.

Penodiadau i Bwyllgorau pdf icon PDF 74 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad er mwyn apwyntio pwyllgorau,  ynghyd â’u haelodaeth a chylch gorchwyl, yn unol gyda Chyfansoddiad y Cyngor.

 

Roedd y Cyngor wedi derbyn y pwyllgorau fel sydd wedi eu hargymell yn yr adroddiad, gan nodi’r newid enw o Bwyllgor Ardal Bryn Y Cwm i Bwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy.  

 

Roeddem wedi nodi fod aelodaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn 12 Aelod.  

 

O ran ethol Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, roedd  y Cynghorydd Sir J. Becker wedi enwebu’r Cynghorydd Sir J. Watkins, ac roedd hyn wedi ei eilio gan y Cynghorydd Sir F. Taylor.

 

Roedd y Cynghorydd Sir D. Batrouni wedi enwebu’r Cynghorydd Sir M. Groucutt, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir T. Thomas.

 

Cynhaliwyd pleidlais gudd gan y Cyngor ac etholwyd y Cynghorydd Sir J. Watkins fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Roedd y Cynghorydd G. Howard wedi mynegi rhwystredigaeth a siomedigaeth fod  Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy wedi newid amser dechrau’r cyfarfod i 10am, heb ystyried barn yr aelodau sydd yn rhan o’r pwyllgor.  

 

 

 

8.

Penodiadau i Gyrff Allanol pdf icon PDF 43 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi derbyn yr adroddiad i apwyntio cynrychiolwyr  i wasanaethu ar gyrff allanol.

 

Gwnaed diwygiadau fel a ganlyn:

 

Tynnwyd y Cynghorydd Sir A. Davies o’r Bwrdd Draenio.

Ychwanegwyd y Cynghorydd Sir Pratt fel Aelod Cabinet cyfrifol i’r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Roedd y Cynghorydd Sir D. Blakebrough wedi disodli’r Cynghorydd Sir J. Pratt ar ABUHC.

 

9.

Cynigion i'r Cyngor:

9a

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol J. Watkins

Cynnig i Gyngor Sir Fynwy i ddatgan Argyfwng yn yr Hinsawdd.

·       Bydd y cyngor hwn yn sicrhau y bydd yn lleihau ei allyriadau carbon ei hunan i sero net cyn targed Llywodraeth Cymru, sef 2030. 

·       Bydd y cyngor hwn yn datblygu strategaeth a chynlluniau gweithredu cysylltiedig wedi'u costio i geisio cyflawni'r targedau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

·       Bod y cyngor hwn yn diwygio'r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Llesiant, y Cynlluniau Datblygu Lleol a chynlluniau a pholisïau perthnasol eraill sy'n ategu'r uchod.

·       Rhoi cyhoeddusrwydd i'r datganiad hwn o argyfwng hinsawdd i drigolion a busnesau yn y Sir a'u hannog, eu cefnogi a'u galluogi i gymryd eu camau eu hunain i leihau eu hallyriadau carbon yn unol â tharged 2030.

·       Gweithio gyda phartneriaid ar draws y Sir a chynghorau a sefydliadau eraill i helpu i ddatblygu a gweithredu dulliau arfer gorau i gyfyngu ar gynhesu byd-eang i lai na 1.5 gradd C. 

 

Cofnodion:

 

Roedd y Cynghorydd Sir F. Taylor wedi eilio’r cynnig.

 

Roedd Aelodau wedi mynegi eu cefnogaeth i’r cynnig. 

 

·       Awgrymwyd fod angen symud yn fwy tuag at gerbydau a pheiriannau gwyrdd o ran yr hyn sydd yn cael ei ddefnyddio ar hyd a lled y Sir. 

·       Pan fydd cerbydau sbwriel yn cael eu hadnewyddu, rhaid i ni symud i gerbydau electrig  neu hybrid er mwyn lleihau’r allyriadau.

·       Symud i annog mwy o weithwyr i gerbydau gwyrdd o ran teithio ar ran y gwaith.  

·       Gweithio gyda’n holl adeiladau, a’r MHA, er mwyn cynyddu effeithiolrwydd y systemau gwresogi.  

 

Roedd y Cynghorydd Sir Smith wedi gofyn i’r Cyngor gydnabod angerdd ac ymdrechion y trigolion a oedd wedi trefnu’r Seminar Hinsawdd.  

 

Roedd y Cynghorydd Sir Taylor wedi mynegi rhwystredigaeth gyda mesurau fel dileu tollau’r M4, sydd yn gwaethygu’r argyfwng tai. Ychwanegodd fod siarad am leihau allyriadau carbon a lliniaru newid hinsawdd tra’n cefnogi’r cais i adeiladu M4 newydd, yn wrthgyferbyniad llwyr.  

 

Diolch yr Arweinydd i’r Cynghorydd Watkins am y cynigion a chynhigiodd y diwygiad canlynol i’r cynnig:

 

Bydd y Cyngor hwn yn ceisio lleihau ei allyriadau carbon i fod yn ddi-garbon, yn unol gyda tharged Llywodraeth Cymru o 2030.

Bydd y cyngor hwn yn datblygu strategaeth a chynlluniau gweithredu cysylltiedig er mwyn cyrraedd y targedau yma cyn gynted ag sydd yn ymarferol.  

Bydd y cyngor hwn yn parhau i adolygu’r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Lles, Cynlluniau Datblygu Lleol a chynlluniau perthnasol eraill a pholisïau er mwyn cefnogi’r uchod.  

Hyrwyddo’r datganiad hwn o argyfwng hinsawdd i drigolion a busnesau yn y sir a’u hannog a’u cefnogi i gymryd camau er mwyn lleihau eu hallyriadau carbon yn unol gyda 2030.

Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir a chynghorau mudiadau eraill er mwyn helpu datblygu a gweithredu dulliau arfer gorau wrth geisio cyfyngu  cynhesu byd-eang. 

 

Roedd y Cynghorydd Sir P. Murphy wedi eilio’r cynnig hwn.

 

Cafwyd dadl.

 

Roedd Arweinydd yr Wrthblaid wedi gwrthwynebu’r cynnig diwygiedig gan nodi ei fod yn effeithio ar natur frys y cynnig. Roedd y Gr?p Llafur wedi mynegi cefnogaeth i’r ymgyrchwyr a oedd wedi mynychu.

 

Roedd Aelodau yn frwd i gadw rhan olaf y cynnig gwreiddiol: Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir a chynghorau mudiadau eraill er mwyn helpu datblygu a gweithredu dulliau arfer gorau wrth geisio cyfyngu  cynhesu byd-deang i lai na 1.5 gradd selsiws.

 

Yn dilyn pleidlais  gofnodedig, cafodd y cynnig ei gymeradwyo.

 

Fodd bynnag, roedd yr Arweinydd yn hapus i adolygu’r cynnig ac i gynnwys y cynnig diwethaf fel: Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir a chynghorau mudiadau eraill er mwyn helpu datblygu a gweithredu dulliau arfer gorau wrth geisio cyfyngu  cynhesu byd-eang i lai na 1.5 gradd selsiws.

 

Yn dilyn ail bleidlais gofnodedig, cafodd y cynnig ei gymeradwyo.  

 

 

 

 

10.

Cwestiynau'r Aelodau:

10a

O'r Cynghorydd Sirol L. Dymock i'r Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc

A fyddai'r Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc yn gwneud datganiad am y capasiti hirdymor yn Ysgol Cil-y-coed i ddisgyblion o ardal Gwndy a mannau cyfagos?

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir R. John wedi ymateb fod Ysgil Cil-y-coed yn ysgol sydd  yn cynnig 1500 o lefydd, ac o’r 1af o Fedi 2019, maent yn rhagweld y bydd yna 184 o lefydd dros ben yno.  Pan ein bod wedi cynnig datblygiadau mewn ardal lle y mae yna bwysau sylweddol ar y llefydd sydd ar gael mewn ysgolion, rydym yn medru gwneud cais am gyllid Adran 106 o’r datblygwyr i greu darpariaeth ychwanegol. Eleni, bydd  253 o ddisgyblion ym ymuno gyda Blwyddyn 7 yn Ysgol Cil-y-coed, sydd yn golygu y bydd gr?p blwyddyn llawn, ond roedd 43 o geisiadau wedi eu derbyn y tu hwnt i’r dalgylch gan gynnwys nifer o’r tu hwnt i’r Sir. Yn unol gyda’r meini prawf newydd o ran derbyn,  ac yn seiliedig ar ddata genedigaeth byw a’r datblygiadau arfaethedig, rydym yn hyderus y bydd Ysgol Cil-y-coed yn medru parhau i ymdopi gyda’r holl geisiadau a ddaw o’r dalgylch. 

 

 

 

 

 

 

 

10b

O'r Cynghorydd Sirol V. Smith i Arweinydd y Cyngor

O'r Cynghorydd Sirol V. Smith i Arweinydd y Cyngor

Cofnodion:

Ymatebodd yr Arweinydd fod Adran E o’r Cyfansoddiad yn darparu esboniad clir o’r hyn a ddisgwylir gan swyddogion a dylai swyddogion ymateb i geisiadau am wybodaeth mewn modd priodol, a dylid rhoi gwybod i’r Aelod os oes yna oedi o ran delio gydag unrhyw ymholiad. Ychwanegodd fod y pwysau y maent yn wynebu yn cael ei gydnabod ac mae’n sicr fod pob swyddog yn y Cyngor yn gwneud ei orau glas i ymateb mewn modd amserol. 

 

 

 

11.

Adroddiad y Prif Weithredwr

11a

Adroddiad Galw i Mewn a Brys

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi derbyn yr adroddiad yn dilyn penderfyniad gan y  Cabinet i ddelio gyda mater brys ar 6ed Mawrth 2019, a thrwy hynny’n ymatal rhag galw hyn yn ôl i mewn, ond golyga hyn bod yna anghenraid cyfansoddiadol i gyflwyno adroddiad i’r Cyngor wedi hyn. 

 

Mynegwyd pryderon y dylai’r mater fod wedi ei graffu’n gyhoeddus, cyn bod hyn yn cael ei brynu.  

 

Roedd y Prif Weithredwr wedi esbonio fod y Pwyllgor Buddsoddi wedi gweithredu yn unol gyda’r strategaeth a gytunwyd gan y Cyngor a bod y Pwyllgor Buddsoddi yn cynnwys aelodaeth drawsbleidiol, ac yn y pendraw, bydd y Pwyllgor Archwilio yn meddu ar y p?er i adolygu’r holl benderfyniadau buddsoddi.


Roedd y Cyngor wedi nodi’r adroddiad. 

 

 

 

 

12.

Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Roedd y Prif Swyddog ar  gyfer Plant a Phobl Ifanc wedi cyflwyno ei Adroddiad Blynyddol, a manteisiodd ar y cyfle i adlewyrchu ar y flwyddyn ddiwethaf o ran yr addysg a’r gwasanaethau yr ydym yn cynnig i’n plant a’n bobl ifanc. Diolchodd gydweithwyr, pob un athro ac athrawes, penaethiaid, cynorthwywyr dysgu a phawb  arall sydd yn gweithio gyda phlant yn ein hysgolion. 

 

Yn dilyn cyflwyniad, cafwyd trafodaeth.

 

Cyfeiriwyd at y ffocws parhaus ar ddysgwyr bregus a sut  y mae hyn yn parhau i fod yn her. Gofynnwyd i’r Prif Swyddog pa gynlluniau sydd ar gael i helpu’r plant yma i wella, a hynny er bod llai o adnoddau ar gael. Wrth ymateb, roedd y Swyddog wedi cydnabod y pryderon ac wedi esbonio ein bod yn gweithio’n agos iawn gyda’n holl ysgolion uwchradd ac yn dechrau defnyddio dulliau mwy cadarn o archwilio cynlluniau ysgolion. Roedd yn cynnwys defnyddio’r Sutton Trust Toolkit, yn sicrhau bod yr arian yn cael ei wario ar yr holl ymyriadau yw’r rhai mwyaf effeithiol. 

 

Wrth ymateb i bryderon, esboniwyd fod Cyfiawnder Cymdeithasol yn cael ei adlewyrchu  drwy gydol yr adroddiad a phwysigrwydd addysg o ran cyfiawnder cymdeithasol a symudedd cymdeithasol yn y dyfodol.     

 

Roedd y Cynghorydd Sir P. Pavia wedi gadael am16:45pm

 

Mae’r Cap 9 yn seiliedig ar y Fisher Family Trust Aspire Model. Mae’r  FFT yn adnodd hynod ddatblygedig ar gyfer athrawon. Mae’n cymharu plant gyda phlant sydd yn debyg iawn. Roedd yr esiampl a ddefnyddiwyd yn cynnwys y gymhariaeth fwyaf heriol bosib.

 

Roedd yna siom fod yna gynnydd yn y nifer  a oedd wedi eu  diarddel am derm sefydlog, ac mae ysgolion yn cael eu herio yngl?n â’r ffigyrau yma. Dywedodd y Prif Swyddog na ddylid cynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ac yn derbyn cymorth gan gynorthwywyr dysgu a’u bod yn cael eu hystyried ar wahân i’r sawl sydd yn ymddwyn yn aflonydd. Ychwanegodd fod angen i ni ddeall patrymau y sawl sydd yn cael eu diarddel am gyfnod sefydlog, nifer y plant a pha mor aml yw hyn. Mae mwy o waith yn cael ei wneud a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Dethol yn y misoedd nesaf.  

 

O fis Medi 2019, rydym yn buddsoddi mewn athro a chynorthwyydd dysgu ychwanegol ym mhob Ysgol Uwchradd yn Sir Fynwy a HLTA ychwanegol er mwyn sicrhau bod ymateb cyson ar draws y sir gennym i ymddygiad heriol.  

 

Cytunwyd nad yw’r perfformiad o ran Cyfnod Allweddol  4 yn cyrraedd y nod ond rydym yn gobeithio gweld cynnydd erbyn diwedd y flwyddyn academaidd hon.  

 

Mynegwyd pryderon o bersbectif ariannol am y diffygion ariannol sydd yn debygol o effeithio ar hanner ysgolion y Sir. Roedd y Prif Swyddog wedi cydnabod yr her ac yn esbonio bod yn rhaid i ni sicrhau bod ein hysgolion yn deall hyblygrwydd yr adnoddau yr ydym yn darparu a’u bod yn deall sut i wneud y gorau o hyn. 

 

Wrth ymateb i bryder am hiliaeth mewn ysgolion, mae swyddogion yn gweithio yn agos gydag ysgolion er  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Adroddiad y Prif Swyddog Menter:

13a

CANOLFAN FEICIO ODDI AR Y FFORDD ARFAETHEDIG, LLAN-FFWYST pdf icon PDF 174 KB

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi derbyn adroddiad er mwyn cytuno cynnwys cyllid cyfalaf o £100,000 yng Nghyllideb Cyfalaf 2019/20.

 

Roedd Aelod Member wedi mynegi y dylai hyn fod yn gynllun ar draws y Sir, a dylem fod yn chwilio am grantiau i ardaloedd eraill yn y Sir, yn cwmpasu’r un dyheadau. 

 

Roedd sylwadau wedi eu derbyn yngl?n â’r effaith ar y tirwedd. Roedd yr Aelod Ward wedi gwneud sylw fod Llanffwyst wedi derbyn lefel anghymesur o ddatblygiadau, ac o ran termau cynllunio, dylai fod yn ystyriaeth allweddol nad yw’r cynllun yn anfanteisio trigolion drwy greu traffig ychwanegol a phroblemau parcio, s?n o ran cymdogion a gormod o oleuni.  

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi cytuno i’r argymhelliad:

 

Creu cyllideb o £100,000 yn 2019/20 er mwyn ariannu datblygiad canolfan feicio oddi ar y ffordd  yn Llanffwyst a bod yn cael ei ariannu gan grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru i’w wario yn y flwyddyn ariannol gyfredol.  

being put to the vote Council resolved to agree the recommendation:

 

That a budget of £100,000 is created in 2019/20 to fund the development of a project for an off-road cycling centre in Llanfoist and that this is funded by a

£100,000 grant allocated by Sport Wales to be spent in the current financial year.

14.

I gadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir ar 11eg Ebrill 2019 pdf icon PDF 95 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 11eg Ebrill ac fe’u harwyddwyd gan y Cadeirydd. Wrth wneud hyn, nodwyd nad oed y Cynghorydd J. Higginson wedi mynychu.