Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganwyd buddiant nad yw'n rhagfarnu gan y Cynghorydd Sirol V. Smith fel aelod o Gymdeithas Tai Sir Fynwy.
|
|||
Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau PDF 212 KB Cofnodion: Darllenodd y Cynghorydd Sirol R. Greenland ddatganiad ynghylch polisi dodrefn stryd y Cyngor ac eglurodd bod grwpiau anabledd wedi bod yn lobïo'r Cyngor ers rhai blynyddoedd, a'n bod wedi derbyn 57 o gwynion am rwystrau yn y briffordd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Cadarnhaodd fod taliadau wedi'u cyflwyno er mwyn talu am weinyddu'r polisi ond derbyniwyd ei fod yn gyfnod anodd ac felly mae wedi gofyn i swyddogion beidio â chasglu'r taliadau. Byddai trwyddedau'n parhau i gael eu gosod, i ganiatáu rheoli rhwystrau ar y briffordd. Bydd y Cabinet yn cyfarfod yn yr Hydref i dynnu'r ffioedd yn ôl yn ffurfiol.
Cyflwynodd y Cynghorydd Sirol D. Blakebrough ddeiseb o dros 1400 o lofnodion yn gofyn i'r Cyngor ailystyried ei benderfyniad i gael gwared ar y gwasanaeth bws 65.
Cyflwynodd y Cynghorydd Sirol R. Roden ddeiseb ar ran trigolion lleol ynghylch llif y traffig a diogelwch cerddwyr ar Heol Henffordd, Trefynwy.
|
|||
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Dim. |
|||
I gadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir |
|||
Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 21ain Mehefin 2018 eu cymeradwyo a'u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|||
Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 6ed Gorffennaf 2018 eu cymeradwyo a'u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|||
I nodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: |
|||
Cofnodion: Nodwyd. |
|||
Cofnodion: Nodwyd. |
|||
I nodi cofnodion y Pwyllgor Archwilio 24ain Mai 2018 PDF 82 KB Cofnodion: Nodwyd. |
|||
ADRODDIADAU'R PRIF SWYDDOG, MENTER |
|||
CYFLWYNIAD I'R CYNGOR TROSGLWYDDO STOC - Y 10 MLYNEDD GYNTAF Cofnodion:
8.1. CYFLWYNIAD I'R CYNGOR TROSGLWYDDO STOC - Y 10 MLYNEDD GYNTAF Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr. J. Keegan o Gymdeithas Tai Sir Fynwy a oedd yn bresennol i gyflwyno diweddariad 10 mlynedd i'r Cyngor.
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:
• Mae gan bob datblygiad amryw o eiddo ynddynt, yn seiliedig ar alw yn yr ardal. • Mae swyddogion Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn ymroddedig i unigedd cymdeithasol, a fyddai'n dod ag asiantaethau eraill i mewn i sicrhau rhyngweithio â'r gymuned leol. • O ran materion ward penodol, awgrymodd y Cadeirydd y dylid trefnu cyfarfod ar wahân i drafod y rheiny. • Yn dilyn ad-drefnu diweddar, bydd Mr. Keegan yn sicrhau bod swyddogion tai yn ysgrifennu at y priod Aelodau fel ffordd o gyflwyno'u hunain. • Mewn ymateb i bryderon yngl?n â'r diffyg datblygu yng ngogledd y Sir, cadarnhawyd bod diffyg argaeledd yn fater cyffredinol. • Mae parcio ar ddatblygiadau h?n yn dal i fod yn broblem, ac mae parcio cymunedol yn angenrheidiol oherwydd bod mwy o berchenogaeth ceir. • O ran yr incwm o baneli solar, awgrymwyd y dylid darparu ffurflen canran dychweliadau incwm ar gyfer y preswylwyr. Mae cynllun busnes o Gymdeithas Tai Sir Fynwy yn nodi y bydd yn cymryd 20 mlynedd i dalu am y paneli. • Mae Mr. Keegan yn eistedd ar lawer o grwpiau iechyd ac yn darparu cyngor ar dai trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Croesawodd ragor o wybodaeth am grwpiau o'r fath. • Myfyriodd yr Aelodau ar brisiau tai, a'r gyfradd enillion i bris o 8:1.
Diolchodd y Cadeirydd i Mr. Keegan am ei gyflwyniad a'i bresenoldeb.
|
|||
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet adroddiad ar y ddogfennaeth ddrafft ar gyfer y trefniadau a'r fframwaith llywodraethu arfaethedig ar gyfer cwmnïau gr?p MonLife sy'n ffurfio'r model Cyflenwi Amgen Arfaethedig ar gyfer Twristiaeth, Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Ieuenctid.
Roedd yr Aelod Cabinet yn dymuno ychwanegu argymhelliad:
Bod un aelod o'r gr?p rheoli ac un aelod o'r wrthblaid yn cael eu penodi i fwrdd yr Elusen a'r Cwmni Masnachu, a sefydlu panel bach i gynnwys y Prif Weithredwr, Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid i wneud y penodiadau hynny.
Codwyd y pryderon canlynol:
Roedd ychydig o bryder ynghylch strwythur llywodraethu cwmni 'Teckal', o gofio'r natur hollbwysig a bod arian y trethdalwyr yn rhan o hyn felly ystyriwyd ei fod yn annerbyniol.
Ceisiwyd eglurhad pellach ynghylch erthyglau cymdeithasu.
Eglurwyd bod y trefniadau llywodraethu'n cyfeirio at ffurfiad a phrosesau'r bwrdd cysylltiedig. Byddai dogfennaeth gyfreithiol yn cael ei dwyn ymlaen i graffu arni a'i chymeradwyo'n derfynol ym mis Hydref 2018.
Cadarnhaodd Arweinydd yr Wrthblaid, hyd nes y byddai gan y gwrthbleidiau rôl yn y cwmni 'Teckal' na fyddent yn ei gefnogi.
Cytunodd y Prif Swyddog Adnoddau y dylid cynnwys manylion y gwaith o graffu ar y trefniadau llywodraethu mewn gohebiaeth yn y dyfodol.
Cadarnhaodd Cadeirydd Y Pwyllgor Dethol dros yr Economi a Datblygu y byddai cyfarfod craffu yn cael ei gynnal ym mis Medi 2018. Disgwylid i hwn fod yn sesiwn drwy'r dydd, a fydd yn agored i bob Aelod.
Cadarnhaodd y swyddog arweiniol ar gyfer y Model Cyflenwi Amgen nad yw gwasanaethau'n gynaliadwy yn eu ffurf bresennol, ac mae adran fawr yn yr achos busnes ynghylch sut y bwriedir cynnal gwasanaethau mewn ffordd wahanol. Dylid gweld manteision yn gynnar yn y model newydd. Roedd rhwystredigaethau'n codi nad oedd hyn wedi'i nodi'n glir yn yr adroddiad.
Byddai'r ffioedd a'r taliadau yn cael eu hamlinellu'n glir yn y ddogfen derfynol.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhelliad:
O blaid: 28 Yn erbyn: 9 I gymeradwyo'r trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer gr?p cwmnïau MonLife, er mwyn cychwyn proses recriwtio gysgodol Cyfarwyddwyr y Cwmni. Mae'r camau hyn cyn ystyriaeth derfynol y Cyngor ym mis Hydref 2018 i gymeradwyo'r dogfennau trosglwyddo a'r cytundeb ac wedyn i weithredu gweithrediad y cwmni ym mis Rhagfyr 2018.
Bod un aelod o'r gr?p rheoli ac un aelod o'r wrthblaid yn cael eu penodi i fwrdd yr Elusen a'r Cwmni Masnachu, a sefydlu panel bach i gynnwys y Prif Weithredwr, Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid i wneud y penodiadau hynny.
|
|||
ADRODDIAD Y PRIF SWYDDOG, ADNODDAU |
|||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR ARCHWILIO PDF 122 KB Cofnodion: 9.1. ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR ARCHWILIO Derbyniodd y Cyngor adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio.
Diolchodd y Cadeirydd i Mr. P. White am ei waith parhaus gyda'r Pwyllgor Archwilio.
Penderfynodd y Cyngor dderbyn yr adroddiad. |
|||
ADRODDIADAU'R PRIF SWYDDOG GOFAL CYMDEITHASOL, DIOGELU AC IECHYD |
|||
ADRODDIAD GWERTHUSO DIOGELU EBRILL - HYDREF 2017 PDF 163 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor, gyda'r diben canlynol:
· Gwerthuso cynnydd prif flaenoriaethau diogelu Cyngor Sir Fynwy yn ystod 2017/18, gan ddefnyddio mesurau a nodwyd i dynnu sylw at gynnydd, nodi risgiau a nodi camau gweithredu a blaenoriaethau clir ar gyfer datblygu ymhellach. · Rhoi gwybod i'r Aelodau am effeithiolrwydd diogelu yn Sir Fynwy a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i gefnogi nodau'r Cyngor o ran amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu niweidio a'u cam-drin. · Rhoi gwybod i'r Aelodau am y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd y safonau ym mholisi diogelu corfforaethol y cyngor a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2017
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:
Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y duedd gynyddol bod plant yn teimlo'n anniogel. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau i Blant nad oedd yn gwestiwn a ofynnwyd i'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd ond a oedd yn canolbwyntio ar gr?p penodol o blant. Mae llawer o fesurau sy'n adrodd stori gyferbyniol, a gobeithir y bydd yr ymatebion hyn yn cael eu cyflwyno mewn sgyrsiau gyda'u gweithwyr cymdeithasol unigol.
Mynegwyd rhwystredigaeth nad oedd yr adroddiad wedi'i gwblhau, a bod meysydd sylweddol i'w gwella.
Ar ôl cael ei gyflwyno i'r bleidlais penderfynodd y Cyngor gytuno ar yr argymhellion:
· I dderbyn a chefnogi'r Adroddiad Gwerthuso Diogelu · I nodi'r risgiau diogelu allweddol a chymeradwyo'r camau gwella blaenoriaeth a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Diogelu'r Awdurdod Cyfan.
|
|||
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2017/18 Y CYFARWYDDWR GWASANAETHAU CYMDEITHASOL PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyngor Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2017/2018.
Cytunodd y Prif Weithredwr i gymryd unrhyw gwestiynau a'u cyfeirio at y Prif Swyddog blaenorol. Mae Prif Swyddog presennol Gwasanaethau Cymdeithasol yn fodlon â'r adroddiad.
Cydnabuwyd bod rhagor o waith i'w wneud o ran recriwtio gofalwyr maeth.
Ceisiwyd sicrwydd ynghylch y data yn yr adroddiad, yn enwedig ymatebion plant, a bod yn y chwartel isaf. Derbyniodd y Prif Weithredwr yr her fel oedd yn briodol a disgwylid gweld gwelliant yn y cyfnod adrodd nesaf.
Tynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc sylw at bwysigrwydd adroddiadau cyflawn yn dod gerbron pwyllgorau craffu, yn hytrach nag adroddiadau anghyflawn drafft.
Penderfynodd y Cyngor gymeradwyo'r argymhellion:
· Bod y Cyngor yn ystyried ac yn cymeradwyo'r dadansoddiad o berfformiad ac effaith gwasanaethau lles, gofal cymdeithasol ac iechyd oedolion a phlant yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. · Bod y Cyngor yn ystyried ac yn cymeradwyo blaenoriaethau 2018/19 ar gyfer gwella gofal cymdeithasol ac iechyd.
|
|||
Rhestr o Gynigion |
|||
O'r Cynghorydd Sirol A. Easson Hoffwn gynnig y dylai'r Cyngor hwn beidio â pharhau â'r ardoll anghyfiawn sydd ar ddodrefn stryd; sef codi tâl am fyrddau "A" a dodrefn stryd eraill debyg, ar fusnesau lleol, sy'n cael trafferth yn yr hinsawdd bresennol i gadw’n ariannol hyfyw gyda gorbenion uwch megis rhenti uchel, a chyfraddau busnes uwch.
Deilliodd y tâl hwn o bersbectif Iechyd a Diogelwch, ac os yw hynny'n wir, mae'n eironig bod y Cyngor hwn, drwy dderbyn taliadau blynyddol, yn cynnal amgylchedd anniogel. Cofnodion: Tynnwyd y cynnig yn ôl. |
|||
O'r Cynghorydd Sirol D. Batrouni Mae'r Cyngor hwn yn nodi: · Roedd adroddiad Symudedd Cymdeithasol Llywodraeth y DU wedi amlygu bod ardaloedd cefnog yn methu plant tlotach; · Y ceir ardaloedd o amddifadedd difrifol yn y Sir a bod y Cyngor hwn yn benderfynol o sicrhau nad yw pobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn yn cael eu gadael ar ôl; · Un o'r ffactorau mwyaf o ran dylanwadu ar ddyfodol plant yw lefel yr incwm fesul aelwyd; · Mae gan Sir Fynwy un o'r incymau isaf ar gyfer trigolion sy'n byw ac yn gweithio yn Sir Fynwy. Felly, bydd y Cyngor hwn yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn a ydynt yn ystyried astudiaeth beilot o Bolisi Incwm Sylfaenol cyffredinol fel Llywodraeth yr Alban, ac, os felly, ein bod yn cyflwyno achos cryf dros Sir Fynwy fel un o'r ardaloedd peilot prawf.
Cofnodion: Mae'r Cyngor hwn yn nodi: • Roedd adroddiad Symudedd Cymdeithasol Llywodraeth y DU wedi amlygu bod ardaloedd cefnog yn methu plant tlotach; • Y ceir ardaloedd o amddifadedd difrifol yn y Sir a bod y Cyngor hwn yn benderfynol o sicrhau nad yw pobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn yn cael eu gadael ar ôl; • Un o'r ffactorau mwyaf o ran dylanwadu ar ddyfodol plant yw lefel yr incwm fesul aelwyd; • Mae gan Sir Fynwy un o'r incymau isaf ar gyfer trigolion sy'n byw ac yn gweithio yn Sir Fynwy. Felly, bydd y Cyngor hwn yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn a ydynt yn ystyried astudiaeth beilot o Bolisi Incwm Sylfaenol cyffredinol fel Llywodraeth yr Alban, ac, os felly, ein bod yn cyflwyno achos cryf dros Sir Fynwy fel un o'r ardaloedd peilot prawf.
Eiliodd y Cynghorydd Sirol Harris y cynnig.
Yn ystod y drafodaeth:
Roedd y Cynghorydd John yn cydnabod bod pocedi o amddifadedd yn Sir Fynwy sy'n gryn her ond fe wnaeth amlygu materion yn ymwneud â'r cynnig. Ychwanegodd fod delio â thlodi yn dechrau gydag addysg, ac nad yw'n ymwneud â dosbarthu arian am ddim.
Pwysleisiwyd bod y cynnig yn gofyn i ni roi caniatâd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, ac y dylid cefnogi hynny.
Yr oedd siom ynghylch diffyg cefnogaeth yr Aelod Cabinet, a diffyg cydnabyddiaeth nad yw'r cynnig hwn yn ymwneud ag addysg yn unig.
Roedd pryderon y gallai hyn amddifadu'r tlawd o'r cymorth sydd ei angen yn fawr.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid: 15 Yn erbyn 22
Trechwyd y cynnig.
|