Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiad o fuddiant.
|
|
I ethol Cadeirydd y Cyngor Sir am y Flwyddyn Ddinesig 2018/19 Cofnodion: Anerchodd y Cadeirydd, Y Cynghorydd Sir M. Powell, y Cyngor a diolchodd i bawb a oedd wedi ei chefnogi yn ystod ei blwyddyn yn y swydd.
Mynegodd y Cadeirydd ddiolch i'r staff ar draws yr Awdurdod, gan werthfawrogi help amhrisiadwy Mrs. Linda Greer a Mrs. Julia Boyd. Diolchwyd i Steve Barker, gyrrwr swyddogol y Cadeirydd.
Anerchodd yr Arweinydd y Cyngor a diolchodd i'r Cynghorydd Sir Powell am ei blwyddyn yn ei swydd, ynghyd â'i chymar, Mr. John Powell, am eu gwaith i'r Cyngor.
Ategodd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol, Y Cynghorydd Sir D. Batrouni, S. Howarth a L. Guppy deimladau'r Cynghorydd Fox.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Fox, ac eiliwyd yn briodol gan y Cynghorydd G. Howard, y dylid ethol y Cynghorydd Sir P. Clarke yn Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2018/19. Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, fe'i cytunwyd yn unfrydol.
Gwnaeth a llofnododd y Cynghorydd Sir P. Clarke y Datganiad Derbyn Swydd, arwisgwyd ef â Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd oedd newydd orffen ei dymor, a chymerodd y Gadair.
Diolchodd y Cadeirydd newydd i'r Aelodau am eu cefnogaeth a chyhoeddodd y byddai Mrs. J. Clarke yn gymar iddo dros gyfnod y swydd, Y Cynghorydd, Y Parchedig Malcolm Lane fel Caplan; Gwent Music fydd elusen y Cadeirydd.
Yna cyflwynodd y Cadeirydd Fathodyn Swydd Cyn Gadeiryddion i’r Cadeirydd oedd newydd orffen.
|
|
I ethol Is-gadeirydd y Cyngor Sir am y Flwyddyn Ddinesig 2018/19 Cofnodion: Cynigiiwyd gan y Cynghorydd Sir R.J.W. Greenland, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy fod y Cynghorydd Sir S. Woodhouseyn cael ei benodi fel Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017/18.
Wedi ei roi i’r bleidlais penderfynwyd penodi’r Cynghorydd Sir S. Woodhouse fel Is-gadeirydd y Cyngor Sir am y Flwyddyn Ddinesig 2017/18.
Gwnaeth a llofnododd y Cynghorydd Sir P. Clarke y Datganiad Derbyn Swydd, arwisgwyd hi â Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd, a chymerodd ei lle fel Is-gadeirydd.
Diolchodd yr Is-gadeirydd i’r Aelodau am eu cefnogaeth a chynigiodd ei chefnogaeth i’r Cadeirydd oedd newydd ei benodi. Cymar swyddogol yr Is-gadeirydd fyddai Mr. Chris Woodhouse.
Daeth y cyfarfod i ben gyda chyflwyno Cadwyn y Swydd i Ddirprwy Gydwedd y Cadeirydd oedd ar fin ymgymryd â’r swydd, tlws crog i Gydwedd y Cadeirydd oedd newydd orffen ei swydd, a Chadwyn y Swydd i Gydwedd yr Is-gadeirydd oedd ar gychwyn yn ei swydd. |
|
Bydd yr eitemau canlynol yn cael eu gohirio tan gyfarfod y Cyngor Sir i'w gynnal ar y 10fed o Fai 2018: Cofnodion: Penderfynasom fod yr eitemau busnes oedd yn weddill yn cael eu gohirio tan gyfarfod y Cyngor Sir i’w gynnal ar 10 fed Mai 2018.
|